Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Vaughan Gething wedi colli pleidlais diffyg hyder
  • Carchar y Parc: Mam yn poeni am ei mab
  • Georgia Ruth ddim am berfformio mewn gŵyl sy’n cael ei noddi gan Barclays
  • Dysgwr y Flwyddyn: cyhoeddi’r pedwar sydd yn y rownd derfynol

Arwydd Senedd Cymru

Vaughan Gething wedi colli pleidlais diffyg hyder

Mae Vaughan Gething wedi colli pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn siomedig ond mae wedi gwrthod ymddiswyddo. Dydy’r canlyniad ddim yn golygu bod yn rhaid iddo ymddiswyddo, ond mae’r gwrthbleidiau wedi galw arno i adael ei swydd.

Y Ceidwadwyr Cymreig oedd wedi cyflwyno’r cynnig o ddiffyg hyder. Mae hyn ar ôl wythnosau o feirniadaeth am roddion a gafodd Vaughan Gething tuag at ei ymgyrch arweinyddol.

Roedd 29 o aelodau wedi pleidleisio o blaid y cynnig, a 27 wedi pleidleisio yn erbyn.

Doedd dau aelod Llafur ddim yn y Senedd i bleidleisio oherwydd salwch. Mae Hannah Blythyn a Lee Waters wedi beirniadu’r Prif Weinidog dros yr wythnosau diwethaf. Cafodd Hannah Blythyn ei diswyddo gan Vaughan Gething yn ddiweddar am ryddhau gwybodaeth. Mae hi wedi gwadu hyn.

Rhun ap Iorwerth ydy arweinydd Plaid Cymru. Ar ôl y bleidlais, dywedodd fod “y Senedd wedi siarad ar ran pobol Cymru”.


Carchar

Carchar y Parc: Mam yn poeni am ei mab

Mae mam carcharor yng Ngharchar y Parc wedi dweud ei bod yn poeni am ddiogelwch ei mab yno.

Roedd tri o garcharorion wedi mynd i’r ysbyty ddydd Gwener (Mai 31), ar ôl digwyddiad yn y carchar ger Pen-y-Bont ar Ogwr. Mae deg o garcharorion wedi marw yno ers mis Chwefror.

Cwmni diogelwch G4S sy’n rheoli Carchar y Parc. Maen nhw’n dweud eu bod wedi delio gyda “dau ddigwyddiad ar wahân” yn y carchar ddydd Gwener.

Roedd y cyntaf yn ymwneud â thua 20 o garcharorion. Daeth y digwyddiad i ben yn ddiogel gyda help y gwasanaeth carchardai, meddai G4S.

Roedd tri o bobl wedi mynd i’r ysbyty gydag anafiadau ar ôl yr ail ddigwyddiad.

Ers Chwefror 27, mae deg carcharor wedi marw yng Ngharchar y Parc – bu farw’r diweddaraf, Warren Manners, ar 29 Mai.

Mae teuluoedd y carcharorion yn galw ar y Llywodraeth i gymryd rheolaeth dros y carchar.

Mae mab Annmarie Alders o Gaerdydd yng Ngharchar y Parc.

Mae Callum Watts, sy’n 26 oed, yn cael ei gadw yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o ddosbarthu cyffuriau.

“Mae’n frawychus cael fy mab yno [yng Ngharchar y Parc],” meddai.

“Mae’r pethau mae e’n eu disgrifio sy’n mynd ymlaen yno – swyddogion yn cymryd cyffuriau, pobol yn marw – yn frawychus.

“Mae’n dweud bod lefel y trais yn y carchar yn hollol eithafol, ac mae’r swyddogion yn edrych i ffwrdd. Dw i’n poeni am ei ddiogelwch, achos dydy’r swyddogion ddim yn gwneud eu gwaith – dydyn nhw ddim yn cadw pawb yn ddiogel.”

Yr wythnos hon, roedd Heather Whitehead, Cyfarwyddwr y carchar ers mis Awst y llynedd, wedi ymddiswyddo.


Georgia Ruth

Georgia Ruth ddim am berfformio mewn gŵyl sy’n cael ei noddi gan Barclays

Mae’r gantores Georgia Ruth wedi dweud ei bod hi ddim am berfformio yng Ngŵyl Latitude, am eu bod nhw’n cael eu noddi gan Barclays.

Mae hi’n dweud bod y banc yn buddsoddi mewn cwmnïau sy’n rhoi arfau i Israel.

Mae’r ŵyl gerddorol yn cael ei chynnal yn Suffolk fis nesaf. Mae’r gantores bop CMAT hefyd wedi dweud na fydd hi’n perfformio yno.

Mae’r Palestine Solidarity Campaign, Campaign Against Arms Trade a War on Want, yn dweud bod Barclays yn buddsoddi dros £2bn mewn naw cwmni sy’n creu arfau. Maen nhw’n dweud bod yr arfau yn cael eu defnyddio gan Israel i ymosod ar Balestina, ac yn rhoi benthyciadau ac yswiriant gwerth £6.1bn iddyn nhw.

Mae Georgia Ruth yn galw ar yr ŵyl i dorri cysylltiad efo Barclays.

Mae hi’n dweud: “Cefais fy ysbrydoli gan y boicot effeithiol gan awduron yn erbyn Gŵyl y Gelli, wnaeth arwain at ollwng Baillie Gifford fel prif noddwr.

“Gallwn wneud gwahaniaeth; gall gwyliau wneud newid ystyrlon.

“Dw i’n annog Latitude i dorri’u cysylltiadau ariannol â Barclaycard.”


Y pedwar ymgeisydd, o’r top, chwith Alanna Pennar-Macfarlane, Antwn Owen-Hicks, Joshua Morgan, ac Elinor Staniforth

Dysgwr y Flwyddyn: cyhoeddi’r pedwar sydd yn y rownd derfynol

Mae’r  pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni wedi cael eu cyhoeddi.

Roedd 45 wedi trio ar gyfer y gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf y tro yma.

Dyma’r nifer uchaf erioed i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Y pedwar ydy Joshua Morgan, Antwn Owen-Hicks, Alanna Pennar-Macfarlane ac Elinor Staniforth.

Mae Joshua Morgan yn byw yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn dysgu Cymraeg ers blwyddyn a hanner. Mae wedi creu’r llyfr 31 Ways to Hoffi Coffi ar gyfer dysgwyr ac yn gwneud darluniadau a gwersi ‘Sketchy Welsh’.  Mae’n gweithio fel athro yn Ysgol Arbennig Greenfield, Merthyr Tudful.

Mae Antwn Owen-Hicks yn defnyddio Cymraeg bob dydd yn ei waith gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Dechreuodd ddysgu Cymraeg pan ddaeth yn ôl i Gymru ar ôl bod yn astudio yn Llundain.

Cymraeg yw iaith y cartref yn Sirhowy erbyn hyn. Mae’n un o sylfaenwyr y band gwerin Cymraeg Carreg Lafar.

Mae Alanna Pennar-Macfarlane yn dod o’r Alban yn wreiddiol. Rŵan mae hi’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers bron i chwe blynedd a hanner ar ap Duolingo.

Mae ganddi ddyslecsia ond dydy hynny ddim wedi ei rhwystro rhag dysgu Cymraeg. Mae hi hefyd wedi datblygu adnoddau i helpu dysgwyr. Lansiodd ei Dyddiadur i Ddysgwyr ym mis Tachwedd 2023. Mae wedi gwerthu dros 200 o gopïau i ddysgwyr ar draws y byd.

Roedd Elinor Staniforth wedi dechrau dysgu Cymraeg tua phedair blynedd yn ôl. Erbyn hyn, mae hi’n dysgu Cymraeg i bobl eraill. Cafodd ei magu mewn cartref di-gymraeg yng Nghaerdydd. Roedd wedi astudio celfyddyd gain yn Rhydychen cyn dod yn ôl i Gymru.

Mae hi’n dweud bod dysgu Cymraeg wedi newid ei bywyd ac wedi rhoi llawer o hyder iddi.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Bydd y pedwar yn y rownd derfynol yn dod at ei gilydd ar Faes yr Eisteddfod. Byddan nhw’n sgwrsio gyda’r beirniaid, Bethan Glyn, Cefin Campbell a Mark Morgan. Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig yn y Pafiliwn, ddydd Mercher 7 Awst.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst.