Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Donald Trump yn euog o 34 cyhuddiad troseddol
- Degfed carcharor wedi marw yng ngharchar y Parc
- Cynnig o ddiffyg hyder yn erbyn Vaughan Gething
- Cyhoeddi enillwyr Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd
Donald Trump yn euog o 34 cyhuddiad troseddol
Mae cyn-arlywydd America, Donald Trump wedi ei gael yn euog o 34 cyhuddiad troseddol.
Roedd Trump wedi ei gyhuddo o ffugio cofnodion busnes mewn cynllun i ddylanwadu ar ganlyniad etholiad 2016.
Fe yw’r cyn-arlywydd cyntaf i wynebu achos llys troseddol, a’r cyntaf i’w gael yn euog o drosedd yn hanes yr Unol Daleithiau. Roedd y rheithgor wedi cymryd llai na 12 awr i’w gael yn euog o’r cyhuddiadau.
Mae Trump, 77 oed, wedi dweud y bydd yn apelio yn erbyn y dyfarniadau yn ei erbyn. Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 11 Gorffennaf.
Mae’n annhebygol y bydd Trump yn mynd i’r carchar ond fe allai wynebu dirwy fawr.
Does dim i atal Trump rhag parhau gyda’i ymgyrch i fod yn arlywydd yn etholiad America ar 5 Tachwedd eleni. Byddai’n gallu parhau i ddod yn arlywydd os yw’n ennill yn erbyn Joe Biden. Ond fe fydd canlyniad yr achos llys yn Efrog Newydd yn debygol o weithio yn ei erbyn.
Mae llefarydd ar ran Joe Biden wedi dweud bod yr achos yn dangos nad oes neb “uwchlaw’r gyfraith”.
Degfed carcharor wedi marw yng ngharchar y Parc
Mae degfed person wedi marw yng ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dyma’r farwolaeth ddiweddaraf mewn ychydig dros dri mis. Mae’r carchar yn cael ei redeg gan G4S.
Mae’n debyg bod carcharorion yno yn camddefnyddio cyffuriau.
Warren Manners, 38, yw’r diweddaraf i farw yn y carchar. Mae naw carcharor arall wedi marw ers Chwefror 27.
Mae aelod o staff y carchar wedi cael ei arestio’n ddiweddar mewn perthynas â chyflenwi cyffuriau.
Mae disgwyl i’r Ombwdsmon a’r crwner gynnal ymchwiliadau.
Mae pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd rheolaeth o’r carchar.
Roedd y teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio wedi protestio yno ddechrau’r wythnos.
Mae’r Parc yn garchar Categori B ar gyfer dynion a throseddwyr ifainc, a throseddwyr rhyw.
Cynnig o ddiffyg hyder yn erbyn Vaughan Gething
Mae Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder.
Y Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi cyflwyno’r cynnig.
Bydd Vaughan Gething yn wynebu dadl a phleidlais yn y Senedd ddydd Mercher (Mehefin 5).
Mae’n wynebu cwestiynau am y rhodd o £200,000, dileu negeseuon WhatsApp am Covid-19, a diswyddo Hannah Blythyn, un o weinidogion Llywodraeth Cymru.
Roedd yr arian gafodd Vaughan Gething tuag at ei ymgyrch wedi dod gan gwmni David Neal. Roedd e wedi’i gael yn euog yn y gorffennol o droseddau amgylcheddol.
Andrew RT Davies ydy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Mae’n dweud y bydd y bleidlais yn gyfle i “Aelodau’r Senedd ddweud eu dweud” am benderfyniadau, tryloywder a gonestrwydd y Prif Weinidog.
Mae e wedi cyhuddo Vaughan Gething o beidio ateb llawer o gwestiynau sydd wedi “parlysu” Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddi enillwyr Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn
Roedd dwy ddysgwraig wedi ennill Medalau yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 ddydd Mercher (29 Mai).
Isabella Colby Browne o’r Wyddgrug enillodd Medal Bobi Jones (19-25 oed).
Melody Griffiths o Wrecsam enillodd Medal y Dysgwyr (Blwyddyn 10 ac o dan 19 oed).
Mae cystadlaethau Medal Bobi Jones a Medal y Dysgwyr yn gwobrwyo unigolyn sydd wedi dysgu Cymraeg ac sy’n ymfalchïo mewn Cymreictod.
Y beirniaid ar gyfer y ddwy wobr eleni oedd Karina Wyn Davis a Cyril Jones. Mae seremoni Medal Bobi Jones a Medal y Dysgwyr yn cael eu noddi gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Medal Bobi Jones
Mae Medal Bobi Jones yn cael ei roi i unigolyn 19-25 mlwydd oed sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd drwy ateb cwestiynau am eu rhesymau dros ddysgu’r iaith, yr effaith mae dysgu’r Gymraeg wedi ei gael ar eu bywydau, a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.
Cafodd Isabella ei geni yn America cyn symud i’r Wyddgrug pan oedd hi’n ifanc. Mae hi’n 22 oed ac yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores.
Meddai: “Wnes i ddechrau dysgu Cymraeg bron i ddwy flynedd yn ôl, diolch i fy ffrind gorau Caitlin, sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Wnes i sylwi pa mor arbennig yw e i fod yn Gymraeg, mae hi’n iaith mor brydferth, ac os dwi’n byw yma, dylwn i siarad yr iaith. Fy nghyfrifoldeb i yw hi i barchu iaith a diwylliant fy ngwlad.
“Mae siarad Cymraeg wedi agor llawer o ddrysau i mi yn y byd celfyddydau yng Nghymru.”
Daeth Emma Grigorian o Gaerdydd yn ail a Deryn-Bach Allen-Dyer o Fro Morgannwg yn drydydd.
Medal y Dysgwyr
Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei roi i berson ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 oed sy’n gallu dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu’r gwaith ac yn gymdeithasol. Roedd chwe ymgeisydd eleni.
Mae Melody Griffiths, 17 oed, yn ddisgybl yng Ngholeg Cambria.
Mae hi wedi dysgu’r iaith gan ei hathrawon yn y coleg, a theulu ei chariad sy’n siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf.
Meddai Melody: “Ers dysgu Cymraeg, dw i’n teimlo’n falch i fod yn siaradwr newydd, dw i’n defnyddio’r iaith bob dydd. Dw i’n rhedeg clwb dysgu Cymraeg wythnosol i fyfyrwyr y Coleg ac yn gwneud gwaith cyfieithu gwirfoddol yn y gymuned.
“Dw i’n credu bod o’n bwysig i gadw’r iaith yn fyw, ac yn bresennol yn ein bywydau. Dw i’n teimlo fod yr iaith yn ffordd dda i gysylltu fy hun gyda’r diwylliant, hanes, a phawb arall yng Nghymru.”
Daeth Caitlin Brunt o’r Drenewydd yn ail, a Alex McLean o’r Wyddgrug yn drydydd.
Mae Medal Bobi Jones yn cael ei rhoi gan Fenter Iaith Maldwyn a Medal y Dysgwyr gan Gyngor Sir Powys.