Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Darlledwr yn beirniadu arwyddion Gaeleg yr Alban
- Gary Pritchard yw arweinydd newydd Cyngor Ynys Môn
- Galw am bwll nofio maint Olympaidd yn y gogledd
- Ymwelwyr o Alabama yn dod i Gymru
Darlledwr yn beirniadu arwyddion Gaeleg yr Alban
Mae’r darlledwr Andrew Marr wedi beirniadu arwyddion Gaeleg yn yr Alban.
Dywedodd ei fod yn “chwerthinllyd” bod cymaint o arwyddion dwyieithog yn yr Alban. Roedd wedi beirniadu arwyddion dwyieithog yng ngorsaf drenau Haymarket yng Nghaeredin a dweud eu bod yn “sarhaus”.
Mae Andrew Marr wedi cael ei feirniadu am ddweud hyn.
Roedd llawer o bobl wedi cwyno am ei sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd e wedi gwneud ei sylwadau mewn digwyddiad gydag Anas Sarwar, arweinydd Llafur yr Alban, yn Lerpwl.
Roedd yn ymateb i gwestiwn gan aelod o’r gynulleidfa am hybu’r iaith. Roedden nhw wedi gofyn a fyddai’r Blaid Lafur yn yr Alban yn ceisio dysgu gwersi gan Lafur yng Nghymru, sy’n hybu’r Gymraeg.
Roedd Andrew Marr wedi dweud: “Pam fod rhaid i Haymarket gael yr Aeleg ar gyfer Haymarket oddi tano? Mae’n warthus.”
Dywedodd bod “Albanwyr yn gyfuniad o nifer o wahanol bobol yn hanesyddol”.
“Mae nifer o grwpiau gwahanol o bobol wedi dod i’r Alban, ac wedi dod â gwahanol ieithoedd, a dw i’n credu y dylen ni adael i ieithoedd orffwys le maen nhw,” meddai.
Margadh ân Fheòir yw’r enw Gaeleg ar Haymarket. Cafodd ei ddefnyddio mewn arwydd yn yr orsaf am y tro cyntaf yn 2010.
Mae arwyddion dwyieithog wedi bod yn yr Alban ers y 1990au.
Mae Andrew Marr wedi ymddiheuro am ei sylwadau ac wedi dweud ei fod yn “hollol anghywir“. Mae hyn wedi cael ei groesawu gan John Morrison, cadeirydd MG Alba sy’n gweithio gyda’r BBC i ddarparu sianel deledu BBC Alba.
Mae e’n dweud ym mhapur newydd The Herald: “Mae’r ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos bod siaradwyr Gaeleg yn llawer mwy hyderus am eu hiaith ac yn barod i sefyll i fyny a’i hamddiffyn. Mae llawer o bobl sy’n beirniadu’r Gaeleg yn cwyno am arwyddion ond maen nhw’n bwysig iawn er mwyn i’r iaith gael ei gweld. Mae’n costio’r un fath i’w cynhyrchu yn y Gaeleg â’r Saesneg.
“Y cwestiwn byddwn yn gofyn i unrhyw un sy’n ymosod ar yr Aeleg, pam ar y ddaear y byddech chi’n casáu iaith? Pa iaith arall fyddech chi’n ei chasáu?”
Gary Pritchard yw arweinydd newydd Cyngor Ynys Môn
Gary Pritchard yw arweinydd newydd Cyngor Ynys Môn.
Fe oedd yr unig ymgeisydd i gyflwyno’i enw. Mae’n olynu Llinos Medi, Aelod Seneddol newydd Ynys Môn. Roedd hi wedi bod yn arweinydd Cyngor Ynys Môn ers 2017.
Mae Gary Pritchard yn gyn-newyddiadurwr a chynhyrchydd chwaraeon. Mae wedi bod yn arweinydd dros dro gyda’r Cynghorydd Robin Williams.
Mae’n arweinydd Grŵp Plaid Cymru ers yr haf.
Mae’r Cynghorydd Gary Pritchard yn cynrychioli ward Seiriol. Mae’n dweud: “Bydd cysondeb, dyfalbarhad a chydweithio yn allweddol wrth i ni symud ymlaen.
“Fel Arweinydd, byddaf yn rhoi cant y cant er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn darparu’r gwasanaethau gorau posib i bobol yr Ynys.
“Dyma’r nod – er ein bod yn parhau i wynebu heriau cyllidol sylweddol wrth geisio sefydlu Cyllideb ar gyfer 2025/26.”
Mae’n dweud bod “cyfleoedd cyffrous” i’r ynys ond “mae angen i’r Llywodraeth wneud penderfyniadau buan fel ein bod yn gallu bod yn rhan o unrhyw siwrne a sicrhau’r buddion mwyaf i Fôn a’i thrigolion.”
Galw am bwll nofio maint Olympaidd yn y gogledd
Mae Plaid Cymru’n galw am sefydlu pwll nofio maint Olympaidd yn y gogledd.
Mae hyn yn dilyn llwyddiant Medi Harris o Borthmadog wrth gymhwyso ar gyfer Gemau Olympaidd Paris eleni.
Mae Plaid Cymru yn dweud bod nofwyr o’r gogledd yn haeddu tegwch pan maen nhw’n hyfforddi. Mabon ap Gwynfor ydy Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd.
Mae’n dweud y byddai pwll nofio Olympaidd yn helpu’r genhedlaeth nesaf i hyfforddi’n nes at adref.
Mae’n dweud y byddai’n galluogi nofwyr i gyflawni eu potensial, ac yn rhoi mwy o gyfleoedd hyfforddi i’r rhai sydd yn byw mewn ardaloedd fel Gwynedd ac Ynys Môn.
Dim ond yng Nghaerdydd ac Abertawe mae pyllau nofio 50m maint Olympaidd Cymru.
Mae llawer o nofwyr o ogledd Cymru yn teithio dros y ffin i Lerpwl neu i Fanceinion i hyfforddi a chystadlu.
Mae Mabon ap Gwynfor yn dweud bod nofwyr elitaidd o ogledd, canolbarth a gorllewin Cymru dan anfantais oherwydd hyn.
Mae’n dweud dylai nofio “fod ar gael i bawb, lle bynnag maen nhw’n byw ledled Cymru.”
“Mae’n bwysig bod buddsoddiad mewn cyfleusterau chwaraeon a thalent chwaraeon newydd yn cael eu dosbarthu’n deg ledled Cymru.
“Mae meddwl am orfod teithio hyd at bum awr i hyfforddi yn ddigon i atal rhai pobol rhag dilyn eu huchelgeisiau.
“Mae llwyddiant nofwyr elitaidd fel Medi Harris o Borth y Gest, Porthmadog yn dangos y potensial o fewn ein cymunedau. Ond faint yn fwy o nofwyr allai ddod yn athletwyr elitaidd os oedd ganddyn nhw fynediad i gyfleusterau hyfforddi yn nes adref?
“Mae’n hen bryd sefydlu pwll nofio maint Olympaidd yng ngogledd Cymru.”
Ymwelwyr o Alabama yn dod i Gymru
Mae criw o gynrychiolwyr o Alabama yn yr Unol Daleithiau wedi dod i Gymru yr wythnos hon.
Mae’r ymweliad yn rhan o’r Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol. Cafodd y cytundeb ei lofnodi llynedd. Mae’n cydnabod y cysylltiad hanesyddol rhwng Cymru a dinas Birmingham yn Alabama.
Roedd y berthynas wedi dechrau yn 1963. Roedd hyn yn ystod cyfnod y mudiad hawliau sifil.
Ar 15 Medi 1963, cafodd eglwys i’r gymuned ddu yn Alabama ei bomio mewn ymosodiad gan y Ku Klux Klan.
Cafodd pedair merch ysgol eu lladd yn yr ymosodiad wrth fynd i’r Ysgol Sul. Cafodd waliau a ffenestri gwydr Eglwys y Bedyddwyr eu difrodi.
Roedd John Petts yn arlunydd gwydr lliw o Lansteffan, Sir Gaerfyrddin. Ar ôl iddo glywed am yr ymosodiad, roedd e wedi penderfynu codi arian i dalu am ffenest lliw newydd i’r eglwys.
Ar ôl gofyn am gyfraniadau yn y Western Mail, roedd wedi derbyn dros £900 o bob rhan o Gymru o fewn ychydig ddyddiau.
Roedd John Petts wedi anfon telegram at weinidog yr eglwys i ddweud wrtho am y cynllun. Roedd y gweinidog wedi diolch iddo a dweud mai “Cymru oedd yr unig wlad i roi cymorth uniongyrchol a materol”.
Roedd John Petts wedi dylunio ffenest newydd. Mae’n portreadu Iesu fel dyn du. Cafodd ei rhoi i Eglwys y Bedyddwyr yn 1965.
Ar waelod y ffenestr mae’n dweud: “Rhoddwyd gan Bobl Cymru”.
Mae’r eglwys yn cyfeirio at y ffenest fel y ‘Wales Window’ hyd heddiw.
Cafodd y Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol ei lofnodi i nodi 60 mlynedd ers y digwyddiad.
Nod y Cytundeb ydy annog cydweithio rhwng Cymru a’r ddinas yn y celfyddydau, y gwyddorau, gofal iechyd ac addysg.
Er cof am y pedair merch fu farw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno pedair coeden i’w plannu ym Mharc Kelly Ingram yn ymyl Eglwys y Bedyddwyr.
Ymhlith yr ymwelwyr i Gymru mae chwiorydd y pedair merch fu farw, gweinidog yr eglwys, unigolyn oedd yn ymgyrchu dros hawliau sifil pan oedd yn blentyn, a rhai o fyd busnes a gwleidyddiaeth y ddinas.
Roedd Sarah Collins Rudolph yn un o’r ymwelwyr a oedd wedi goroesi’r ymosodiad yn 1963. Dywedodd ei bod hi’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru ac i Birmingham Sister Cities am ei helpu i “gofio’r gorffennol wrth i ni adeiladu dyfodol mwy disglair”.
“Mae’r cwlwm rhwng Birmingham a Chymru wedi golygu cymaint i mi a sawl un arall gafodd eu heffeithio ar y diwrnod ofnadwy hwnnw yn 1963,” meddai.
“Dangosodd rhodd y Wales Window i ni fod pobol yr ochr draw i’r môr yn meddwl amdanom yn ein poen ac yn credu mewn dyfodol o obaith ac undod.
“Nawr, wrth sefyll yma heddiw, rwy’n cael yr un ymdeimlad o undod, gan wybod fod ein cyfeillgarwch yn dal i fynd o nerth i nerth.”