Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Huw Edwards yn y llys i gael ei ddedfrydu
- Eisteddfod Genedlaethol 2026 yn Sir Benfro
- BAFTA Cymru: Gwobrau arbennig i Mark Lewis Jones a Julie Gardner
- Geiriadur Rhydychen yn ychwanegu termau Cymraeg newydd
Huw Edwards yn y llys i gael ei ddedfrydu
Roedd Huw Edwards yn y llys yr wythnos hon i gael ei ddedfrydu.
Cafodd ddedfryd o garchar am chwe mis, wedi’i gohirio am ddwy flynedd.
Roedd cyn-gyflwynydd y BBC wedi pledio’n euog i droseddau rhyw ym mis Gorffennaf. Roedd wedi cyfaddef cael 41 o luniau anweddus o blant ar Whatsapp.
Bydd Huw Edwards yn cymryd rhan mewn rhaglen driniaeth i droseddwyr rhyw. Bydd hefyd yn cael ei gofnodi ar y rhestr troseddwyr rhyw am saith mlynedd.
Roedd wedi mynd o flaen Llys Ynadon Westminster yn Llundain ddydd Llun (Medi 16) i gael ei ddedfrydu.
Roedd y barnwr Paul Goldspring yn derbyn bod gan Huw Edwards broblemau iechyd meddwl ar y pryd.
Clywodd y llys fod y cyn-gyflwynydd wedi talu cannoedd o bunnoedd i Alex Williams am y lluniau.
Roedd y rhan fwyaf o’r plant rhwng 13 a 15 oed. Roedd un rhwng saith a naw oed.
Dywedodd ei gyfreithiwr fod Huw Edwards yn “ymddiheuro’n ddiffuant”.
Ar ôl cyhoeddi’r ddedfryd, dywedodd Paul Goldspring nad yw Huw Edwards yn peri risg i’r cyhoedd nac i blant.
Dywedodd y BBC bod Huw Edwards wedi “bradychu’r BBC” a “chynulleidfaoedd oedd wedi ymddiried ynddo.”
Roedd wedi ymddiswyddo o’r BBC ym mis Ebrill.
Eisteddfod Genedlaethol 2026 yn Sir Benfro
Sir Benfro fydd yn cynnal Eisteddfod Genedlaethol 2026.
Bydd cyfarfod cyhoeddus i drafod y cynlluniau am 7 o’r gloch nos Iau, Hydref 10 yn Theatr y Gromlech, Crymych.
Bydd y dalgylch yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a Sir Gaerfyrddin sy’n ffinio gydag ardal Sir Benfro. Mae’r Eisteddfod y bydd hyn yn gyfle i ddathlu 850 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi yn 1176.
Betsan Moses ydy Prif Weithredwr yr Eisteddfod. Mae hi’n dweud: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnal yr Eisteddfod yn Sir Benfro ymhen dwy flynedd.”
Mae hi hefyd yn dweud eu bod yn edrych ymlaen at weithio mewn ffordd newydd, gan ddod â rhannau o dair sir at ei gilydd “i greu gŵyl sy’n ddathliad o’n hiaith a’n diwylliant.”
“Dydyn ni heb fod yn Sir Benfro ers 2002, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i ardal oedd wedi rhoi cymaint o groeso i ni pan gafodd yr ŵyl ei chynnal yn Nhyddewi bryd hynny.
“Mae nifer fawr o gyfleoedd ar gael, yn trefnu a chefnogi gweithgareddau cymdeithasol a chynnig syniadau ar gyfer ein cystadlaethau a rhaglen yr wythnos.
“Dewch i weld beth sydd ar gael ac i drafod sut y gallwn ni gydweithio i greu prosiect a gŵyl i’w chofio yn yr ardal. Mae croeso mawr i bawb o bob oed.”
Dych chi’n gallu cofrestru ar-lein i gymryd rhan nawr.
BAFTA Cymru: Gwobrau arbennig i Mark Lewis Jones a Julie Gardner
Mae BAFTA Cymru yn anrhydeddu Mark Lewis Jones a Julie Gardner eleni.
Julie Gardner ydy cyn-Bennaeth Drama BBC Cymru a chyd-sylfaenydd Bad Wolf. Bydd hi’n cael gwobr Cyfraniad Arbennig i’r Byd Teledu. Mae’r wobr yn cael ei rhoi i unigolyn o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i’r byd teledu, ffilm neu gemau.
Roedd Julie Gardner wedi cynhyrchu adfywiad Doctor Who yn 2005.
Yn 2006, roedd hi wedi cynhyrchu’r cyfresi dilynol o Doctor Who, sef Torchwood, a The Sarah Jane Adventures. Roedd Julie Gardner a Jane Tranter wedi lansio cwmni Bad Wolf yn 2015. Erbyn hyn, Julie sy’n rhedeg Bad Wolf America.
Ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig, mae hi’n gweithio ar gyfres ddilynol Doctor Who, The War Between The Land And The Sea, gafodd ei hysgrifennu gan Russell T Davies a Pete McTighe.
Mae hi’n dweud fod derbyn y wobr yn “meddwl y byd i mi, diolch BAFTA.”
Mark Lewis Jones
Mae Mark Lewis Jones yn actor – mae wedi bod mewn llawer o ffilmiau a dramâu a chyfresi teledu fel The Crown, Gangs of London a Baby Reindeer. Fe fydd e’n cael Gwobr Siân Phillips.
Mae Gwobr Siân Phillips yn cael ei rhoi i unigolyn o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fyd ffilm a/neu’r teledu.
Mae perfformiadau Mark yn cynnwys y cyfresi drama Gymreig Stella, Un Bore Mercher, a Dal y Mellt – y gyfres gyntaf yn y Gymraeg i fod ar Netflix.
Mae e hefyd yn un o sêr drama Men Up y BBC.
“Dw i wrth fy modd i gael fy anrhydeddu â’r wobr hon, diolch BAFTA Cymru,” meddai Mark Lewis Jones.
“Cefais fy ngeni a’m magu yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, ac o deulu heb unrhyw gysylltiad â’r celfyddydau na’r diwydiannau creadigol, ond roeddwn yn lwcus iawn i dderbyn cyfleoedd a chefnogaeth, felly dw i’n ddiolchgar dros ben.”
Geiriadur Rhydychen yn ychwanegu termau Cymraeg newydd
Mae Geiriadur Saesneg Rhydychen (OED) wedi ychwanegu termau Cymraeg newydd.
Mae 10 term Cymraeg newydd wedi cael eu hychwanegu. Maen nhw’n cynnwys cawl, twp, iechyd da, ych a fi, a sglods.
Mae’r hen air Cymraeg ‘Calennig’ hefyd wedi cael ei ychwanegu. Mae’n dod o’r gair Calan. Mae’n golygu rhodd neu anrheg ar Ddydd Calan.
Mae Geiriadur Saesneg Rhydychen yn cynnwys dros 500,000 o eiriau. Mae’n cael ei ddiweddaru pedair gwaith y flwyddyn.
Mae’r geiriau Cymraeg wedi cael eu hychwanegu am eu bod wedi cael eu defnyddio mewn “gwahanol ffynonellau” o ysgrifennu Saesneg.
Dyma’r termau Cymraeg newydd yn y geiriadur:
- Calennig
- Cawl
- Iechyd da
- Mam-gu
- Tad-cu
- Taid
- Senedd
- Sglods
- Twp
- Ych a fi