Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Athro yn cael iawndal o £150,000 ar ôl ymosodiad gan ddisgybl
  • Chwech o bobol wedi marw ar ôl i long daro pont yn Baltimore
  • Dim lle i Gymru yn Ewro 2024
  • Plannu coed i groesawu Eisteddfod yr Urdd i Faldwyn

 


Athro yn cael iawndal o £150,000 ar ôl ymosodiad gan ddisgybl

Mae athro o Gymru wedi cael £150,000 mewn iawndal ar ôl i ddisgybl ymosod arno.

Dydy’r athro ddim wedi cael ei enwi. Roedd yn dysgu mewn ysgol i fechgyn gyda phroblemau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiad.

Cafodd anafiadau i’w wyneb, ei geg a’i ben ar ôl cael ei daro ar ei ben.

Mae undeb addysg NAS/UWT hefyd yn dweud bod yr athro wedi cael problemau seicolegol ar ôl yr ymosodiad.

Dywedodd NASUWT eu bod nhw wedi cael bron i £14.3m o iawndal i’w haelodau yn 2023 ar ôl ymosodiadau o’r fath.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod angen gwneud mwy i ddelio efo trais mewn ysgolion.

Andrew RT Davies ydy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Mae’n dweud bod “epidemig o drais yn ein hysgolion yng Nghymru”.

“Ni fydd plant byth yn cael yr addysg y maen nhw’n ei haeddu os nad ydyn nhw a’u hathrawon yn ddiogel yn eu dosbarthiadau,” meddai.

Mae NASUWT yn dweud bod y system addysg yn “methu darparu gofal i weithwyr y proffesiwn”.


Chwech o bobl wedi marw ar ôl i long daro pont yn Baltimore

Mae’n debyg bod chwech o bobol wedi marw ar ôl i long nwyddau daro pont yn Baltimore yn yr Unol Daleithiau.

Mae dau o gyrff wedi cael eu darganfod yn y dŵr hyd yn hyn. Roedd pont Francis Scott Key yn Baltimore wedi dymchwel ar ôl cael ei tharo gan y llong ddydd Mawrth (Mawrth 26).

Roedd wyth o weithwyr adeiladu yn gweithio ar y bont pan gafodd ei tharo.

Roedd dau wedi cael eu hachub ar ôl y digwyddiad, ond mae’r chwilio yn parhau am y pedwar arall. Mae’r heddlu’n credu eu bod nhw wedi marw.

Mae swyddogion yn dweud y byddan nhw’n dod o hyd i’r cyrff ar gyfer eu teuluoedd.

Mae ymchwilwyr yn ceisio darganfod beth achosodd y ddamwain.


Kieffer Moore

Dim lle i Gymru yn Ewro 2024

Fydd tîm pêl-droed Cymru ddim yn chwarae yn Ewro 2024.

Roedd Gwlad Pwyl wedi curo Cymru o 5-4 yng Nghaerdydd nos Fawrth (Mawrth 26).

Mae’n golygu na fydd Cymru yn mynd i’r Almaen yn yr haf.

Roedd Gwlad Pwyl wedi ennill ar giciau o’r smotyn i gyrraedd Ewro 2024.

Dyma’r tro cyntaf erioed i Gymru wynebu ciciau o’r smotyn.

Roedd cwestiynau mawr am ddyfodol y rheolwr Rob Page ar ôl y gêm. Mae e wedi dweud ei fod am aros am y tro.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd yn dweud: “Mae ei gytundeb yn rhedeg tan ddiwedd Cwpan y Byd, a dyna sut y byddwn ni’n parhau i weithio.”

Roedd Cymru wedi cyrraedd yr Ewros yn 2016 a 2020, a Chwpan y Byd yn 2022.


Plannu coed ym Meifod

Plannu coed i groesawu Eisteddfod yr Urdd i Faldwyn

Bydd Eisteddfod yr Urdd 2024 yn cael ei chynnal ym Maldwyn rhwng Mai 27 a Mehefin 1.

I groesawu’r Eisteddfod, roedd criw o blant a phobol ifanc ym Maldwyn wedi bod yn plannu 40 o goed ar safle’r ŵyl ddydd Mercher (Mawrth 27).

Roedd y seremoni plannu coed yn dathlu partneriaeth newydd rhwng yr Urdd a Choed Cadw. Mae Coed Cadw yn elusen sy’n gwarchod coedwigoedd fwya’r Deyrnas Unedig.

Fel arfer mae seremoni torri tywarchen er mwyn nodi dechrau’r gwaith o baratoi Maes yr Eisteddfod.

Mae’r coed sydd wedi’u plannu ar hyd ffin safle’r Eisteddfod yn rai cynhenid i’r ardal, ac wedi cael eu rhoi gan yr elusen.

Llio Maddocks ydy Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd. Mae hi’n dweud eu bod nhw’n “edrych ymlaen at ymweld â Maldwyn am y tro cyntaf ers 1988.”

“Rydym ni wrth ein boddau ein bod yn gweithio gyda’r Urdd i gynnig cyfle cyffrous i blant gymryd rhan yn ein cystadlaethau,” meddai Llinos Humphreys o Coed Cadw.

“Ein gobaith yw cael plant a phobol ifanc i ymgysylltu â’r byd awyr agored, gan ddefnyddio eu sgiliau i archwilio byd natur a mwynhau amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru.”

Bydd dwy gystadleuaeth – un yw ‘Her Geiriau a Lluniau Coetiroedd’, a’r ail yw ‘Archwilio Safbwyntiau Gwahanol’. Dyddiad cau’r ddwy gystadleuaeth yw 30 Ebrill.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn yr Arddorfa yn ystod wythnos yr Eisteddfod.