Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Mark Drakeford yn ffarwelio a’r Senedd
  • Vaughan Gething wedi dod yn Brif Weinidog Cymru
  • Meddygon iau Cymru yn mynd ar streic eto cyn y Pasg
  • Gwarchod 50,000 o wenyn wrth roi to newydd ar blasty ym Mhen Llŷn

Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, a Mark Drakeford yn ei sesiwn olaf yn y Siambr fel Prif Weinidog

Mark Drakeford yn ffarwelio â’r Senedd

Roedd Mark Drakeford wedi ffarwelio â’r Senedd ddydd Mawrth (19 Mawrth) ar ôl pum mlynedd o fod yn Brif Weinidog.

Roedd wedi gwneud ei araith olaf yn y Senedd a chyflwyno’i ymddiswyddiad i Frenin Lloegr nos Fawrth.

Yn ei araith dywedodd: “Cyn y Nadolig 2018 y siaradais i gyntaf fel Prif Weinidog yn y Siambr hon.

“Ar y pryd, roedden ni’n sicr yng nghanol llymder. Roedd yn amhosib darogan yr argyfwng roedden ni ar fin dechrau arno. Yn 2019, roedden ni’n wynebu’r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, wedyn realiti Brexit â chytundeb gwael iawn.

“Wrth i 2020 ddechrau, wynebodd Cymru ddinistr stormydd Ciara a Dennis. Yn fuan wedyn dechreuodd y pandemig a gostiodd bywydau i gynifer o bobol.

“Erbyn 2022, roedden ni’n wynebu rhyfel yn Wcráin, rhyfel ar ein ffiniau yma yn Ewrop.

“Ac erbyn 2023, rydyn ni wedi bod yn delio gyda’r argyfwng costau byw a gwrthdaro yn y Dwyrain Canol sydd ym mlaenau ein meddyliau o hyd yn 2024.”

Yn ystod ei bum mlynedd fel Prif Weinidog, mae Mark Drakeford wedi gweithio gyda phedwar Prif Weinidog, pum Canghellor y Trysorlys, a chwe Changhellor Dugiaeth Lancastr.

Dywedodd ei fod wedi gwneud penderfyniadau anodd “heddiw” er mwyn helpu’r “cenedlaethau i ddod”.

Fe ddiolchodd i holl Aelodau’r Senedd a’r gefnogaeth a gafodd ar ôl colli ei wraig, Clare.

“I fi’n bersonol, y 12 mis diwethaf yw’r rhai mwyaf anodd a thrist yn fy mywyd,” meddai.

Roedd hefyd wedi cynnal cwestiynau’r Prif Weinidog am y tro olaf yn y Senedd.

Mae Aelodau’r Senedd wedi rhoi teyrnged i Mark Drakeford.

Andrew RT Davies ydy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd: “Tra bo gennym ni safbwyntiau gwahanol iawn am sut y dylai Cymru gael ei llywodraethu, dw i erioed wedi amau ymrwymiad Mark i wasanaeth cyhoeddus nac i Gymru.”

Rhun ap Iorwerth ydy arweinydd Plaid Cymru. Mae wedi diolch i Mark Drakeford am ei “ymroddiad i wasanaeth cyhoeddus.”

Mae Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, hefyd wedi rhoi teyrnged iddo.

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r Prif Weinidog am ei arweinyddiaeth a’i ymroddiad i Gymru yn ei bum mlynedd yn y rôl,” meddai.

“Ar lefel bersonol, dydy Mark ddim ond wedi dangos caredigrwydd a chefnogaeth i mi drwy gydol fy amser yn y Senedd, ac am hynny byddaf yn fythol ddiolchgar.”


Vaughan Gething

Vaughan Gething wedi dod yn Brif Weinidog Cymru

Mae Vaughan Gething wedi dod yn Brif Weinidog Cymru.

Mae hyn ar ôl i Mark Drakeford ymddiswyddo.

Yn y Senedd ddydd Mercher (Mawrth 20) cafodd Vaughan Gething ei enwebu’n Brif Weinidog.

Fe wnaeth pob Aelod ddweud enw’r person roedden nhw am weld yn dod yn Brif Weinidog Cymru.

Roedd Vaughan Gething wedi cael 27 o bleidleisiau, gyda 13 i Andrew RT Davies ac 11 i Rhun ap Iorwerth.

Pleidleisiodd Aelodau Plaid Cymru dros Rhun ap Iorwerth, y Ceidwadwyr dros Andrew RT Davies, a Llafur dros Vaughan Gething.

Cafodd enw Vaughan Gething ei gyflwyno i Frenin Lloegr i’w gymeradwyo i olynu Mark Drakeford.

Dywedodd Vaughan Gething: “Dw i’n ddiolchgar iawn i fy rhagflaenydd Mark Drakeford am ei enwebiad e, ac am y gefnogaeth mae e wedi’i chynnig i fi, nid yn unig dros y dyddiau diwethaf ond y blynyddoedd lawer rydyn ni wedi cydweithio mor agos.”

Wrth drafod datganoli dywedodd bod y Senedd yn “gwthio’r ffiniau o ran beth sy’n bosib” o gael pwerau datganoli.

Dywedodd y byddai’n “sefyll i fyny dros Gymru a datganoli”, gan edrych ymlaen at lywodraeth newydd yn San Steffan.

“Mae Cymru yn haeddu mwy nag ysbeidiau heulog,” meddai yn Gymraeg.

Dywedodd wedyn ei fod eisiau adeiladu “Cymru decach”, a “rhannu uchelgais ar gyfer dyfodol ein gwlad”.

Vaughan Gething yw arweinydd Du cyntaf un o wledydd Prydain ac ar un o wledydd Ewrop.

Dywedodd y dylai “ein Senedd edrych fel ein gwlad”, ac y dylai Cymru “ddathlu ein gwahaniaethau”, a bod yn wlad sy’n “llawn gobaith”.


Meddygon iau Cymru yn mynd ar streic eto cyn y Pasg

Bydd miloedd o feddygon iau Cymru yn mynd ar streic eto cyn y Pasg.

Dyma fydd y trydydd tro iddyn nhw fynd ar streic.

Mae disgwyl i’r streic bara pedwar diwrnod. Bydd y streic yn dechrau am 7am ddydd Llun ac yn para tan 7am ddydd Gwener.

Bydd apwyntiadau mewn ysbytai a gyda meddygon teulu yn cael eu gohirio.

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yn galw am gyflogau gwell.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad ydyn nhw’n gallu fforddio mwy na’r 5% sy’n cael ei gynnig.

Mae Cymdeithas BMA Cymru wedi ysgrifennu at Vaughan Gething, Prif Weinidog newydd Cymru. Maen nhw’n galw arno i ddod â’r anghydfod dros gyflogau i ben.

Judith Paget ydy Pennaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru. Mae hi wedi rhybuddio y bydd y streic yn cael “effaith sylweddol” ar wasanaethau.

Bydd rhai apwyntiadau a thriniaethau yn cael eu haildrefnu, ond bydd gofal brys yn parhau i fod ar gael yn ystod y streic.

Mae Judith Paget yn dweud ei bod yn bwysig fod pobol yn osgoi defnyddio adrannau damweiniau ac achosion brys os nad yw’n hanfodol. Mae’n dweud wrth bobl am ddefnyddio gwasanaethau eraill fel NHS 111 Cymru ar-lein neu dros y ffôn, a fferyllfeydd.

Mae hi hefyd wedi dweud wrth bobol am wneud yn siŵr fod ganddyn nhw ddigon o’u meddyginiaethau hanfodol dros yr ŵyl banc.

“Os ydych chi’n derbyn presgripsiynau rheolaidd, mae angen cynllunio ymlaen llaw cyn Gŵyl Banc y Pasg,” meddai Judith Paget.


Gwarchod 50,000 o wenyn wrth roi to newydd ar blasty ym Mhen Llŷn

Mae 50,000 o wenyn wedi cael eu gwarchod wrth wneud gwaith ar do ar blasty ym Mhen Llŷn.

Roedd pum haid o wenyn mêl duon Cymreig yn byw yn nho Plas yn Rhiw, un o adeiladau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Maen nhw wedi cael eu symud i gartref newydd tra bod y gwaith yn cael ei wneud.

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn dweud nad oes gwaith fel hyn wedi cael ei wneud ar yr adeilad ers dros 200 o flynyddoedd.

Mae SwarmCatcher yn arbenigo mewn symud gwenyn. Maen nhw wedi llwyddo i’w casglu a’u symud i gychod gwenyn wrth ymyl y plas.

Roedd tair chwaer wedi achub Plas yn Rhiw yn 1938.

Blynyddoedd wedyn fe wnaeth Eileen, Lorna a Honora Keating benderfynu rhoi’r tŷ yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yr amod oedd bod y gwenyn yn y to yn cael eu gwarchod.

Mae Mary Thomas yn un o reolwyr Plas yn Rhiw.

Mae hi’n dweud bod y chwiorydd Keating yn “hoff iawn o natur a bywyd gwyllt.”

“Mae Plas yn Rhiw yn hafan i fywyd gwyllt,” meddai.

Bydd hen lechi’n cael eu hailddefnyddio ar y to lle mae hynny’n bosib, a bydd 4,000 o lechi o Chwarel y Penrhyn yn cael eu defnyddio hefyd.