Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Cân i Gymru: S4C am dalu costau pleidleisio gwylwyr yn ôl
  • Guto Bebb yw cadeirydd dros dro S4C
  • Mynediad am ddim i’r Eisteddfod Genedlaethol i deuluoedd incwm isel lleol
  • Darganfod llong oedd ar goll ers dros 100 mlynedd
  • George North yn ymddeol o rygbi rhyngwladol

Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur oedd yn cyflwyno Cân i Gymru

Cân i Gymru: S4C am dalu costau pleidleisio gwylwyr yn ôl

Mae S4C yn mynd i dalu costau pleidleisio gwylwyr yn ôl ar gyfer Cân i Gymru 2024.

Roedd llawer o bobl wedi cael problemau wrth bleidleisio am eu hoff gân yn ystod y rhaglen.

Mae S4C yn dweud y byddan nhw’n ad-dalu unrhyw un oedd wedi talu am fwy nag un bleidlais.

Dydy hi ddim yn glir fod eu pleidlais gyntaf wedi cael ei chyfrif a’u bod nhw wedi talu amdani.

Mae S4C wedi ymddiheuro unwaith eto am y problemau.

Maen nhw’n dweud bod “nam technegol” ar y noson.

Er hyn, dydy canlyniad y gystadleuaeth ddim wedi newid. Sara Davies oedd wedi ennill gyda’r gân ‘Ti’.

Mae S4C yn dweud sut mae pleidleiswyr yn gallu cael ad-daliad.

Bydd yn rhaid llenwi ffurflen ac mae S4C yn dweud y byddan nhw’n prosesu pob un o fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn y cais.

Mae unrhyw un sydd angen help i lenwi’r ffurflen yn gallu ffonio 0370 600 4141 neu e-bostio cig2024@s4c.cymru


Guto Bebb

Guto Bebb yw cadeirydd dros dro S4C

Guto Bebb yw cadeirydd dros dro S4C.

Fe fydd yn olynu Rhodri Williams pan fydd yn gadael ar 1 Ebrill.

Mae Guto Bebb, 55, yn dod o Sir y Fflint yn wreiddiol ond rŵan yn byw yng Nghaernarfon.

Roedd yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Aberconwy rhwng 2010 a 2019. Roedd hefyd yn Weinidog yn Swyddfa Cymru a’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae ei gefndir ym myd busnes. Ar hyn o bryd, mae’n Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru. Bydd yn dechrau ei rôl newydd ar Ebrill 1 ac yn aros tan o leiaf 31 Mawrth 31, 2025.

Mae S4C wedi wynebu cyfnod anodd dros y misoedd diwethaf. Roedd honiadau o fwlio a chafodd y prif weithredwr Siân Doyle ei diswyddo.

Roedd Rhodri Williams wedi dweud nad oedd eisiau aros yn y swydd pan oedd ei dymor yn dod i ben.

Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur yn San Steffan. Mae hi wedi rhoi croeso gofalus i’r penodiad. Mae hi’n dweud bod angen dechrau’r “gwaith caled” ar unwaith i daclo’r problemau sydd wedi wynebu S4C.


Parc Ynysangharad ym Mhontypridd, lleoliad Eisteddfod 2024

Mynediad am ddim i’r Eisteddfod Genedlaethol i deuluoedd incwm isel lleol

Bydd pobl o gartrefi incwm isel lleol yn gallu mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol am ddim eleni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £350,000 i’r Eisteddfod Genedlaethol a £150,000 i’r Urdd er mwyn i bobl a theuluoedd o gartrefi incwm isel gael mynd i’r ŵyl yn Rhondda Cynon Taf a Maldwyn. Bydd tocynnau mynediad am ddim a thalebau bwyd ar gael i 18,400 o bobl leol gael mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ym mis Awst.

Mae’r Urdd yn mynd i ddweud beth yw eu cynlluniau nhw ar gyfer tocynnau mynediad ar 18 Mawrth 18.

Fe fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cyhoeddi mwy o fanylion am y tocynnau yn y dyfodol agos.

Betsan Moses ydy Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae hi’n dweud: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth er mwyn sicrhau fod pobl leol yn cael cyfle i ymweld â’r Eisteddfod eleni.

“Rydyn ni’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n gallu cynnig mwy na thocyn Maes er mwyn sicrhau bod ein gŵyl yn hygyrch i bawb sydd eisiau dod draw i Barc Ynysangharad ddechrau Awst, mwynhau diwrnod arbennig a chael blas ar ein hiaith a diwylliant.”

Jeremy Miles ydy Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru. Mae’n dweud: “Mae’r eisteddfodau nid yn unig yn uchafbwynt diwylliannol yn y calendr Cymreig, ond hefyd yn gyfle gwych i bobl weld, clywed a siarad Cymraeg, a chymryd rhan yn y gwahanol gystadlaethau a digwyddiadau cymdeithasol sydd ar gael.”


Gweddillion y llong

Darganfod llong oedd ar goll ers dros 100 mlynedd

Mae llong oedd wedi bod ar goll ers dros 100 mlynedd wedi cael ei darganfod ger arfordir Gogledd Iwerddon.

Roedd ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi dod o hyd i weddillion y llong gargo o wledydd Prydain. Aeth yr SS Hartdale ar goll ar ôl cael ei tharo gan dorpido o un o longau tanfor yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r gweddillion wedi’u darganfod 80 metr o dan y dŵr 12 milltir oddi ar arfordir Gogledd Iwerddon.

Cafodd y llong ei hadeiladu yn 1910, ac roedd hi’n cludo glo o’r Alban i’r Aifft pan oedd him wedi suddo.

Roedd dau o’r criw wedi’u lladd wrth i’r llong suddo. Roedd ymchwilwyr wedi defnyddio dyddiadur rhyfel swyddogol yr U-27 ac adroddiadau goroeswyr i ddod o hyd i’r llong.

Mae prosiect Unpath’d Water yn cyfuno data morol â chofnodion morwrol mewn ffyrdd newydd, er mwyn gallu adnabod llongddrylliadau yn y môr.

Mae’r prosiect yn cael ei harwain gan Historic England a’i hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.


George North yn rhedeg gyda'r bel
George North

George North yn ymddeol o rygbi rhyngwladol

Mae George North wedi dweud ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol.

Bydd yn chwarae i Gymru am y tro olaf heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 16) pan fydd yn chwarae yn erbyn yr Eidal yng Nghaerdydd.

Fe fydd wedi ennill 121 cap dros ei wlad ar ôl chwarae i Gymru heddiw, ar ôl 14 mlynedd yn y crys coch.

Bydd yn parhau i chwarae rygbi clwb. Bydd yn symud o’r Gweilch i Provence yn Ffrainc ar gyfer tymor 2024-25.

George North, 31, sydd wedi ennill y nifer uchaf o gapiau dros Gymru ar ôl Alun Wyn Jones a Gethin Jenkins.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae llawer o chwaraewyr Cymru wedi ymddeol, gan gynnwys Alun Wyn Jones, Justin Tipuric, Leigh Halfpennny a Dan Biggar.

Dywedodd George North bod nawr yn teimlo fel yr amser iawn i ymddeol.

“Dw i wedi penderfynu y bydd y gêm ddydd Sadwrn yn dod â’m gyrfa ryngwladol i ben,” meddai ar X.

“Dw i wedi caru a gwerthfawrogi bob eiliad yng nghrys Cymru a chael chwarae gyda chyd-chwaraewyr anhygoel.

“Dw i’n lwcus iawn fy mod i wedi byw fy mreuddwyd.

“Dw i’n edrych ymlaen at y bennod nesaf.

“Diolch i chi gyd am y gefnogaeth dros y blynyddoedd.”