Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Storm Isha a Jocelyn: Miloedd o gartrefi heb drydan a phroblemau i deithwyr
- Treth y cyngor: Gall biliau godi bron i 14% yng Ngheredigion
- Ymgyrchydd iaith yn y llys am y trydydd tro tros rybudd parcio uniaith Saesneg
- Priodas Pum Mil yn chwilio am gyplau ar gyfer cyfres newydd
Storm Isha a Jocelyn: Miloedd o gartrefi heb drydan a phroblemau i deithwyr
Roedd Storm Isha a Storm Jocelyn wedi achos llawer o broblemau ddechrau’r wythnos.
Roedd miloedd o gartrefi heb drydan ddydd Sul wrth i Storm Isha daro’r wlad.
Yng Nghapel Curig yn Eryri roedd y gwynt yn chwythu 90mya ddydd Sul.
Roedd llawer o gartrefi heb drydan ar draws de orllewin Cymru hefyd.
Cafodd Pont Britannia ei chau i bob cerbyd oherwydd y gwyntoedd cryfion ac roedd llawer o ffyrdd wedi cau oherwydd llifogydd.
Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio bod oedi i deithwyr a rhai gwasanaethau wedi cael eu canslo.
Cafodd hediadau a oedd i fod i gyrraedd maes awyr Caerdydd o Amsterdam a Chaeredin eu canslo a nifer o hediadau eraill wedi eu dargyfeirio.
Storm Jocelyn oedd yr ail storm i daro Cymru. Nos Fawrth roedd Storm Jocelyn wedi achosi problemau eto. Roedd cannoedd o gartrefi heb drydan a gwyntoedd wedi cyrraedd hyd at 97 mya yng Nghapel Curig yn Eryri a 79 mya yn Aberdaron ym Mhen Llŷn.
Treth y cyngor: Gall biliau godi bron i 14% yng Ngheredigion
Fe allai trethdalwyr yng Ngheredigion weld eu biliau treth y cyngor yn codi bron i 14%.
Mae hyn yn £216 ychwanegol y flwyddyn i bob cartref ar gyfartaledd.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn wynebu eu “cyllideb fwyaf difrifol” erioed.
Bydd Ceredigion ond yn derbyn cynnydd o 2.6% yn eu cyllid gan Lywodraeth Cymru. Dyma’r cynnydd lleiaf y pen o ran y boblogaeth ar draws Cymru.
Mae’r Cyngor yn dweud bod yna “ddewisiadau anodd iawn i’w gwneud.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai eu cyllideb ddrafft yw’r un fwyaf “difrifol a phoenus ers datganoli.”
£1,908 yw treth y cyngor Band D ar hyn o bryd yng Ngheredigion ar gyfer 2023-24. Mae hyn ychydig yn uwch na’r cyfartaledd Cymreig o £1,879.
Mae cynnydd wedi bod yn ddiweddar yn y premiwm ar ail gartrefi ac eiddo gwag. Mae’r cyngor yn awgrymu bod 75% o’r arian ychwanegol sy’n cael ei godi yn cael ei ddefnyddio i ostwng y cynnydd yn nhreth y cyngor.
Ymgyrchydd iaith yn y llys am y trydydd tro tros rybudd parcio uniaith Saesneg
Mae Toni Schiavone yn ymgyrchydd iaith. Roedd o wedi bod yn y llys am y trydydd tro dydd Gwener (Ionawr 26) am wrthod talu rhybudd parcio uniaith Saesneg.
Roedd Toni Schiavone wedi cael y rhybudd gwreiddiol ym mis Medi 2020. Roedd e wedi peidio talu i barcio mewn maes parcio yn Llangrannog.
Mae’r achos llys wedi cael ei daflu allan ddwywaith yn barod. Ond mae cwmni parcio One Parking Solution yn apelio unwaith eto.
Doedd y cwmni ddim yn y llys ar gyfer yr achos cyntaf a chafodd yr ail achos ei daflu o’r llys.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud byddai cyfieithu’r rhybudd, ac osgoi tri achos llys dros dair blynedd a hanner, wedi costio rhwng £60 a £70.
Mae Toni Schiavone yn dweud: “Pe bai One Parking Solution yn rhoi copi Cymraeg o’r rhybudd i mi fel mae llawer o gwmnïau parcio eraill yn gwneud, bydden i’n barod i’w dalu,” meddai Toni Schiavone.
“Yn lle hynny, maen nhw’n mynnu mynd â fi i’r llys dro ar ôl tro i drio fy ngorfodi i dalu’r rhybudd yn Saesneg.
“Yn ôl y cwmni, gan fy mod yn deall Saesneg, does dim angen iddyn nhw barchu fy hawl i ddefnyddio fy iaith fy hun yn fy ngwlad fy hun.
“Mae’n sarhaus.”
Priodas Pum Mil yn chwilio am gyplau ar gyfer cyfres newydd
Roedd llawer o gyplau wedi bod yn dathlu Dydd Santes Dwynwen ddydd Iau (Ionawr 25).
Efallai bod rhai cyplau wedi dyweddïo. Mae’r gyfres nesaf o Priodas Pum Mil yn chwilio am gyplau sydd eisiau cymryd rhan.
Cyflwynwyr y gyfres ydy Emma Walford a Trystan Ellis-Morris. Maen nhw’n cael help teulu a ffrindiau’r cyplau i drefnu priodas am llai na £5,000.
Dywedodd Emma Walford: “Mae pob un rhaglen, pob un cwpwl, eu ffrindiau a’u teuluoedd, wedi bod yn arbennig.
“Mae’r gyfres yn fwy na jyst rhaglenni teledu, da ni’n trefnu diwrnod pwysicaf bywydau y cyplau a dwyt ti wir ddim isho siomi neb! Ond hyd yma, efo bron i 50 o briodasau wedi bod, mae hi’n parhau yn llwyddiannus.”
Fe fydd y gyfres newydd yn dechrau ym mis Tachwedd eleni. Mae’r briodas yn gallu bod yn un draddodiadol neu yn un hollol wahanol.
Mae llawer o themâu wedi bod yn y priodasau yn y gorffennol – fel thema Alice in Wonderland, a chwpl oedd wedi priodi yn Gretna Green yn Yr Alban.
Mae Emma Walford yn dweud: “Baswn i’n annog unrhyw un sydd eisiau priodi i wneud cais i’r rhaglen.
“Mae cymaint o brofiad efo ni fel tîm erbyn hyn, ond allwn ni ddim ei gwneud hi heb deulu a ffrindiau y cwpl wrth gwrs.
“Does dim ots os oes thema neu beidio, bo’ chi am briodi adref yn lleol, neu falle am fentro yn bellach i ffwrdd.”
Gallwch chi wneud cais trwy ddilyn y ddolen yma.