Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Ysgol Dyffryn Aman: Rhyddhau’r rheithgor yn achos llys merch 14 oed
  • Rhedwr wedi marw ar ôl Hanner Marathon Caerdydd
  • Dadl am enw Cymraeg newydd ar bentref yn Sir y Fflint
  • L E M F R E C K yn ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024

Ysgol Dyffryn Aman: Rhyddhau’r rheithgor yn achos llys merch 14 oed

Mae achos llys yn erbyn merch 14 oed, oedd wedi trywanu tri pherson mewn ysgol, wedi dymchwel.

Cafodd y rheithgor yn yr achos yn Llys y Goron Abertawe eu rhyddhau dydd Mercher (9 Hydref). Dywedodd y barnwr bod “anghysondeb mawr” yn y rheithgor. Bydd achos newydd yn dechrau ar 27 Ionawr, 2025.

Mae’r ferch 14 oed wedi’i chyhuddo o drywanu dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman.

Roedd Fiona Elias, Liz Hopkin a’r disgybl wedi mynd i’r ysbyty ar ôl y digwyddiad yn yr ysgol yn Rhydaman ar Ebrill 24.

Mae’r ferch wedi cyfaddef trywanu’r tair, ond mae hi’n gwadu ceisio’u llofruddio nhw.

Nid yw’n bosib cyhoeddi enw’r ferch oherwydd ei hoedran.

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC y byddai’n rhaid rhyddhau’r rheithgor a bod achos newydd yn dechrau ym mis Ionawr.

Dywedodd: “Mae anghysondeb mawr wedi bod yn y rheithgor ac rydyn ni i gyd yn cytuno fod hyn wedi amharu yn anadferadwy ar ein gallu ni i ystyried y mater hwn.”

Roedd y barnwr wedi gofyn i un aelod o’r rheithgor aros ar ôl wrth i bobl adael y llys.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i bobol beidio â cheisio dyfalu manylion yr achos ac i beidio â rhannu deunydd allai ddylanwadu ar yr achos.


Rhedwr wedi marw ar ôl Hanner Marathon Caerdydd

Roedd rhedwr wedi marw ar ôl gorffen Hanner Marathon Caerdydd y penwythnos diwethaf.

Cafodd y rhedwr driniaeth ar y llinell derfyn cyn mynd i Ysbyty Athrofaol Caerdydd. Roedd wedi marw’n ddiweddarach.

Run 4 Wales sy’n trefnu’r hanner marathon. Maen nhw wedi cydymdeimlo gyda theulu’r rhedwr. Dywedodd Run 4 Wales ei bod yn “drasiedi ofnadwy”.

Y ras eleni oedd y fwyaf erioed. Roedd 29,000 o redwyr wedi cofrestru i gymryd rhan.

Mae tri o bobol eraill wedi marw wrth gwblhau’r ras dros y blynyddoedd.

Bu farw Ben McDonald, 25, a Dean Fletcher, 32, yn 2018 ar ôl iddyn nhw gael ataliad ar y galon.

Bu farw Nicholas Beckley, 35, yn 2019.


Dadl am enw Cymraeg newydd ar bentref yn Sir y Fflint

Mae disgwyl dadl am enw Cymraeg ar bentref yn Sir y Fflint.

Pentre’ Cythraul yw’r enw Cymraeg lleol, a New Brighton yw’r enw Saesneg ar y pentref ger yr Wyddgrug.

Ond dydy’r enw Cymraeg erioed wedi cael ei gydnabod yn ffurfiol.

Roedd pobl leol wedi lansio deiseb yn 2019. Roedden nhw eisiau cynnwys yr enw ar restr swyddogol o enwau lleoedd sy’n cael ei chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Ar ôl ymgynghoriad ar yr enw, roedd rhai trigolion yn poeni y byddai’r enw Pentre’ Cythraul yn cael ei gyfieithu i ‘The Devil’s Village’ yn Saesneg. Maen nhw’n poeni bod ystyr negyddol i Pentre’ Cythraul.

Mae’n debyg bod y pentref wedi cael ei enwi’n Pentre Catherall yn wreiddiol ar ôl y diwydiannwr Josiah Catherall. Roedd o wedi adeiladu tai cynta’r pentref yn y 19eg ganrif.

Mae Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, wedi dweud yr wythnos hon y dylai’r pentref gael ei alw’n Pentre Cythrel yn y dyfodol.

Claire Homard ydy Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint.

Mae hi wedi ysgrifennu adroddiad ac yn dweud: “Mae’r Comisiynydd wedi awgrymu defnyddio ffurf Gymraeg ffurfiol ar New Brighton, ond mae’n well ganddi Pentre Cythrel, gan fod yr enw’n ddatblygiad ar lafar o ‘Catherall’ ac mae’n adlewyrchu sut mae’r enw’n cael ei ynganu’n lleol,” meddai.

“Byddai defnyddio ‘Cythraul’ yn symud gam ymhellach i ffwrdd o’r enw gwreiddiol ar lafar.

“Mae trigolion lleol sy’n defnyddio’r enw Cymraeg Pentre Cythraul yn cefnogi awgrym y panel, sef Pentre Cythrel.

“Bydd yr enw Cymraeg Pentre Cythrel hefyd yn delio gyda’r gwrthwynebiadau oedd wedi codi yn yr ymgynghoriad a’r cysylltiadau negyddol â Phentre’ Cythraul.”

Pentre Cythraul

Mae Pentre Cythraul wedi cael ei ddefnyddio’n lleol fel ffurf Gymraeg ar New Brighton ers nifer o flynyddoedd.

Mae’r enw hefyd ar nifer o arwyddion yn y pentref.

Ddydd Iau roedd cynghorwyr lleol wedi cytuno ar yr enw  ‘Pentre Cythrel’.

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn gwneud penderfyniad terfynol am yr enw.


L E M F R E C K

L E M F R E C K yn ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024

L E M F R E C K sydd wedi ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024.

Roedd wedi ennill y wobr o £10,000 am ei albwm Blood, Sweat & Fears.

Cafodd y seremoni ei chynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd nos Fawrth (Hydref 8).

Roedd L E M F R E C K wedi derbyn y wobr gan y cyflwynydd Siân Eleri.

Dywedodd: “Diolch i fy mam a fy nhad – wrth dyfu i fyny fel person du ifanc, roedden nhw wastad yn dweud wrthyf fy mod i’n gallu gwneud unrhyw beth.

“Mae hwn i fy nghymuned yng Nghasnewydd.

“Os byddwn i heb weld Benji (Webbe sydd ar y rhestr fer gyda’r artist Skindred) yn ei wneud e’n gyntaf, dw i’n dweud wrthoch chi nawr fyddwn i heb allu gwneud hyn, felly hoffwn ddiolch iddo fe.”

Dywedodd y DJ Huw Stephens:  “Dw i wrth fy modd gyda L E M F R E C K yn ennill.

“Mae’n albwm sbesial ac mae heno wedi bod yn noson lwyddiannus.

“Mae wedi bod yn lot o hwyl – lot o amrywiaeth, lot o gerddoriaeth wych, felly rydyn ni wedi joio.

“Mae wastad albyms gwych yn dod mas, ac mae hynny’n dangos bod y dalent yna, felly dw i’n gobeithio y bydd pobol yn gwrando arnyn nhw nawr!”

Yr arloeswyr hip-hop o Gymru, Eric Martin a DJ Jaffa, oedd wedi ennill y wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig.

“Dw i’n teimlo’n ffodus fy mod wedi bod yn rhan o sîn hip-hop ifanc a bywiog yng Nghymru. Dw i’n ddiolchgar iawn,” meddai Eric Martin.

“Mae gweld cymaint o artistiaid o boom bap i drill i bob ffurf o hip-hop yn troi i mewn i rywbeth hardd yn cynhesu fy nghalon,” meddai DJ Jaffa.