Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Gwaith cynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn dod i ben
  • Ysgol Feddygol yn y gogledd yn agor yn swyddogol
  • Dod o hyd i lygod mewn cegin ysgol yng Nghaernarfon
  • Arddangosfa yn y Senedd i ddathlu 25 mlynedd o ddatganoli

Gwaith cynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn dod i ben

Mae gwaith cynhyrchu dur ym Mhort Talbot wedi dod i ben ar ôl mwy na chanrif.

Roedd y gwaith wedi dod i ben ddydd Llun (Medi 30). Mae Tata Steel UK wedi rhoi’r gorau i weithio Ffwrnais Chwyth 4. Mae hyn er mwyn arbed arian.

Mae disgwyl i 2,800 o weithwyr golli eu swyddi. Mae Tata Steel UK eisiau defnyddio ffwrneisi arc trydan mwy glân a rhad.

Bydd Tata Steel UK yn gallu ailddechrau cynhyrchu dur ar safle Port Talbot yn 2027. Maen nhw wedi buddsoddi £1.25bn mewn ffwrnais arc drydan.

Mae’r Blaid Lafur wedi cael eu cyhuddo o roi’r gorau i frwydro i gadw swyddi ac o wneud addewidion gwag.

Rhun ap Iorwerth ydy arweinydd Plaid Cymru. Mae’n dweud bod Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi dweud cyn yr etholiad y byddai’n brwydro dros bob un swydd yn Tata Steel a dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru.

Roedd Rhun ap Iorwerth wedi gofyn i Eluned Morgan: “Ydy’r Prif Weinidog yn gallu dweud pam fod Llafur wedi rhoi’r gorau i’r frwydr honno?”

Roedd Eluned Morgan yn dweud bod Llafur wedi cael cytundeb gwell na’r Torïaid, gyda phecynnau diswyddo gwell.

Rebecca Evans ydy Ysgrifennydd Economi newydd Cymru. Dywedodd bod y cytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Tata Steel “yn dod â sicrwydd i’r dyfodol a’r camau nesaf”.

Ond mae Tom Giffard o’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo’r Blaid Lafur o wneud “addewidion gwag” ac mae wedi galw ar y blaid i ymddiheuro.

Mae David Rees yn Aelod o’r Senedd Llafur sy’n cynrychioli Aberafan. Mae’n cadeirio grŵp trawsbleidiol y Senedd ar ddur.

Mae’n dweud: “Rhaid i ni edrych ymlaen nawr.

“Dydy pobol Port Talbot ddim eisiau bod pwyntiau gwleidyddol yn cael eu sgorio yn y Siambr hon heddiw.

“Maen nhw eisiau gwybod beth ’dyn ni am wneud i’w cefnogi nhw.”

Mae Mike Hedges o’r Blaid Lafur yn gyn-weithiwr dur oedd yn gweithio ym Mhort Talbot.

Dywedodd ei bod yn “wythnos drist iawn. Rydyn ni wedi gweld diwedd cynhyrchu haearn a dur yng Nghymru.”


Ysgol Feddygol yn y gogledd yn agor yn swyddogol

Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi agor yn swyddogol.

Cafodd ei hagor yn swyddogol gan Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, a Jeremy Miles, yr Ysgrifennydd Iechyd.

Y gobaith ydy recriwtio mwy o feddygon ar gyfer y gogledd.

Mae’r myfyrwyr cyntaf i gael eu haddysg yno wedi dechrau ar eu hastudiaethau y tymor hwn. Bydd yr ysgol newydd yn derbyn 80 o fyfyrwyr eleni. Mae disgwyl i’r nifer godi i 140 y flwyddyn erbyn 2029-30.

Dechreuodd y gwaith cynllunio yn 2020.

Mae Eluned Morgan  yn dweud: “Mae recriwtio meddygon â sgiliau’n her enfawr ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

“Bydd yr ysgol feddygol yn newid y tirlun o ran recriwtio meddygon yng Nghymru. Bydd yn galluogi mwy o fyfyrwyr meddygol i hyfforddi yn y rhanbarth, sy’n dda i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn enwedig yng ngogledd Cymru.”

Dyfed Edwards ydy cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’n dweud y bydd yr ysgol feddygol newydd yn helpu i fynd i’r afael â “heriau hyfforddi a chadw meddygon”, ac yn helpu i roi gofal iechyd dwyieithog ar draws y rhanbarth.”

Mae’n gobeithio y bydd y meddygon yn aros yn y gogledd ar ôl hyfforddi.

Sam Rowlands ydy llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae’n dweud y dylai Llafur gynnig ad-dalu ffioedd dysgu’r myfyrwyr os ydyn nhw’n ymrwymo i weithio yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl graddio.


Llygoden

Dod o hyd i lygod mewn cegin ysgol yng Nghaernarfon

Mae llygod wedi cael eu darganfod mewn cegin ysgol uwchradd yng Nghaernarfon, Gwynedd.

Mae Ysgol Syr Hugh Owen wedi gorfod rhoi’r gorau i baratoi prydau poeth am y tro.

Mae’r pennaeth Clive Thomas wedi anfon llythyr at rieni i ddweud bod problem gyda llygod yn y gegin. Dywedodd bod hyn yn achosi pryder am iechyd a diogelwch y disgyblion a’r staff.

Bydd disgyblion yn cael pecynnau bwyd nes bod y broblem wedi cael ei datrys.

Yn y llythyr mae Clive Thomas yn dweud eu bod yn cymryd y mater “o ddifri” ac yn gweithio gyda’r awdurdod lleol i fynd i’r afael a’r broblem.

Mae gan Ysgol Syr Hugh Owen 875 o ddisgyblion rhwng 11-18 oed.


Arwydd Senedd CymruArddangosfa yn y Senedd i ddathlu 25 mlynedd o ddatganoli

Mae’r Senedd yn cynnal arddangosfa i ddathlu 25 mlynedd o ddatganoli.

Bydd yr arddangosfa o’r enw ‘Eich Llais’ ar agor tan 11 Tachwedd.

Bydd yn dathlu’r bobol gyffredin oedd wedi helpu i sefydlu’r Senedd drwy ddefnyddio’u llais i alw am newid.

Ymhlith y bobl yma mae Neil Evans o Gaerfyrddin. Roedd e wedi cyflwyno deiseb wnaeth arwain at wahardd y rhan fwyaf o fagiau untro yng Nghymru. Roedd Rhian Mannings, o Rondda Cynon Taf wedi cyflwyno deiseb yn galw am fwy o gefnogaeth i rieni ar ôl marwolaeth sydyn plentyn. Roedd hi wedi colli ei mab a’i gŵr o fewn pum niwrnod i’w gilydd.

Elin Jones ydy Llywydd y Senedd. Mae hi’n dweud: “Mae lleisiau pobol wedi llywio stori’r Senedd a byddan nhw’n helpu i lywio ei dyfodol hefyd,” meddai.

“Mae gwleidyddion wedi mynd a dod, gan wneud eu cyfraniadau eu hunain.

“Ond nid Senedd y gwleidyddion yw hon – mae’n perthyn i bobol Cymru, sef y rhai luniodd ei dechreuad ac sy’n llywio ei dyfodol.

“Mae’n bwysig ein bod yn dathlu’r ffaith bod defnyddio eich llais yn gallu gwneud gwahaniaeth.”