Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Dyn wedi marw ar ôl i ddau drên daro yn erbyn ei gilydd
  • Dedfrydu athro am ymosod ar ddisgybl
  • Gwahardd fêps untro o fis Mehefin nesaf
  • Maes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 yn Is-y-Coed

Dyn wedi marw ar ôl i ddau drên daro yn erbyn ei gilydd

Mae dyn wedi marw ar ôl i ddau drên daro yn erbyn ei gilydd yn ardal Llanbrynmair, Powys.

Digwyddodd y ddamwain nos Lun, Hydref 21. Roedd y gwasanaethau brys wedi cael eu galw yno tua 7.30yh.

Roedd 15 o bobol wedi mynd i’r ysbyty. Mae pedwar ohonyn nhw wedi eu hanafu’n ddifrifol.

Enw’r dyn fu farw oedd Tudor Evans o Gapel Dewi, Aberystwyth. Roedd yn teithio ar y trên rhwng yr Amwythig ac Aberystwyth.

Mae llinell y Cambrian rhwng Machynlleth a’r Amwythig wedi bod ar gau ers y ddamwain.

Roedd y trên arall yn teithio o Fachynlleth i’r Amwythig. Roedd y ddau drên yn cael eu rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru.

Mae ymchwiliad i achos y ddamwain yn cael ei gynnal.

Mae ymchwilwyr yn credu y gallai olwynion un o’r trenau fod wedi llithro wrth frecio.

Mae’r Cynghorydd Elwyn Vaughan yn cynrychioli ward Glantwymyn yn enw Plaid Cymru ar Gyngor Powys.

Mae’n dweud bod y ddamwain yn “sioc i’r ardal gyfan.”

Ken Skates ydy Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru. Mae’n dweud bod eu “meddyliau gyda phawb”.

Mae wedi diolch i’r gwasanaethau brys oedd wedi ymateb i’r digwyddiad.


Llys Ynadon Llanelli

Dedfrydu athro am ymosod ar ddisgybl

Mae athro wedi cael ei ddedfrydu am ymosod ar ddisgybl yn ystod noson allan yng Nghastell Newydd Emlyn.

Roedd Llŷr James, 31, wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiad.

Roedd llys wedi cael yr athro Ymarfer Corff yn euog o ymosod ar Llŷr Davies, 16 oed. Roedd Llŷr Davies wedi marw tri diwrnod ar ôl y digwyddiad. Ond nid oedd ei farwolaeth yn gysylltiedig â’r ymosodiad ar 9 Mawrth eleni.

Cafodd Llŷr James ei ddedfrydu ddydd Gwener (Hydref 25). Roedd Llys Ynadon Llanelli wedi gorchymyn y bydd yn rhaid iddo wneud 200 awr o waith di-dâl yn y gymuned dros y flwyddyn nesaf.

Bydd e hefyd yn gorfod talu costau gwerth £764.


Gwahardd fêps untro o fis Mehefin nesaf

Bydd fêps untro’n cael eu gwahardd yng Nghymru ym mis Mehefin 2025.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Newid Hinsawdd Cymru, ddydd Mawrth, (Hydref 22). Mae’n dweud y bydd y gwaharddiad yn helpu i fynd i’r afael â llygredd plastig.

Bydd y gwaharddiad newydd yn dechrau ar 1 Mehefin 2025. Mae disgwyl i weddill y Deyrnas Unedig wahardd fêps untro tua’r un pryd.

Roedd ASH Cymru  wedi cynnal arolwg o fis Mai. Roedd yn dangos bod 24% o blant Blwyddyn 7-11 wedi fêpio. Mae’n codi i 44% ar gyfer disgyblion chweched dosbarth.

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad.

Mae Rocio Cifuentes yn dweud ei bod hi wedi clywed am blant yn mynd i’r ysgol uwchradd sy’n gaeth i fêpio.

“Mae plant yn dod i’r ysgol uwchradd o ysgolion cynradd yn gaeth i fêpio. Dyma un o lawer o bethau pryderus iawn dw i wedi’u clywed dros y flwyddyn ddiwethaf mewn sgyrsiau gyda phlant ac oedolion am fêpio,” meddai.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael iddyn nhw i wneud newidiadau pwysig eraill gafodd eu hargymell gan Iechyd Cyhoeddus Cymru eleni.

“Mae hyn yn cynnwys rhoi cymorth i bobol ifanc sy’n ddibynnol ar nicotin oherwydd fêpio, cyfyngu ar flasau ac enwau blasau, a gorfodi rheolau pecynnu plaen.”

Mae fêps yn llai peryglus nag ysmygu. Ond mae peryglon o hyd, yn enwedig i blant a phobol ifanc gan fod eu hysgyfaint a’u hymennydd yn dal i ddatblygu.


Maes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 yn Is-y-Coed

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal yn ardal Is-y-coed y flwyddyn nesaf.

Roedd yr Eisteddfod wedi cyhoeddi enw’r lleoliad ddydd Iau (Hydref 24). Mae ardal Is-y-coed i’r dwyrain o ddinas Wrecsam. Bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal fis Awst nesaf.

Bydd y Maes, y maes carafanau, y meysydd parcio a Maes B nesaf i’w gilydd.

Llinos Roberts ydy cadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Mae hi’n dweud ei bod yn “edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf yn fwy nag erioed yn dilyn y cyhoeddiad hwn.”

“Diolch i bawb a fu’n rhan o’r trafodaethau a’r trefniadau. Dw i’n hyderus y cawn ni Eisteddfod gofiadwy iawn yma ger dinas Wrecsam.

“Diolch hefyd i’n holl wirfoddolwyr ym mhob rhan o’r sir sydd yn gweithio’n galed i godi arian ac ymwybyddiaeth.

“Mae’r gwaith yn mynd yn arbennig o dda, ac mae brwdfrydedd a chefnogaeth pawb yn y tîm yn wych.

“Mae croeso hefyd i unrhyw un sydd eisiau ymuno â’r tîm – dyw hi ddim yn rhy hwyr o gwbl. Ewch i wefan yr Eisteddfod i gofrestru a dewch i helpu, cefnogi a chymdeithasu gyda ni!”

Y Cynghorydd Hugh Jones yw Pencampwr y Gymraeg Cyngor Wrecsam.

Mae’n dweud bod yr Eisteddfod yn “gyfle perffaith i ddefnyddio’r Gymraeg sydd gennych chi, neu ddechrau dysgu ychydig o’r iaith” cyn i’r Eisteddfod ddechrau.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal rhwng Awst 2-9, 2025.