Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Arweinydd Cyngor Gwynedd wedi ymddiswyddo
  • Cau Amgueddfa Lechi Cymru am flwyddyn
  • Pobol y Cwm yn 50 oed
  • Beirniadu Syr Keir Starmer am ddweud ‘pob lwc’ i reolwr newydd Lloegr

Arweinydd Cyngor Gwynedd wedi ymddiswyddo

Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi ymddiswyddo.

Roedd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn wedi bod dan bwysau ar ôl gwrthod ymddiheuro am helynt Neil Foden.

Roedd y cyn-brifathro, Neil Foden, wedi cael ei garcharu am droseddau rhyw yn erbyn merched.

Mae Dyfrig Siencyn wedi ymddiswyddo o Grŵp Plaid Cymru a’i rôl yn arweinydd y Cyngor.

Roedd Dyfrig Siencyn wedi gwneud tro pedol ac wedi ymddiheuro wedyn. Ond roedd pedwar aelod o’i Gabinet wedi ymddiswyddo oherwydd y sefyllfa.

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd am gam-drin pedair merch yn rhywiol yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.

Mae rhaglen BBC Investigates  wedi datgelu rhagor o honiadau. Mae’n awgrymu bod y troseddau wedi dechrau yn 1979.

Roedd Dyfrig Siencyn wedi ymddiheuro i “bawb sydd wedi dioddef” oherwydd gweithredoedd Neil Foden.

Wrth ymddiswyddo dywedodd: “Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i arwain Cyngor Gwynedd dros y saith mlynedd ddiwethaf.”

Dywedodd bod y cyfnod pan ddaeth gweithredoedd Neil Foden i’r amlwg “wedi bod y mwyaf heriol i’r Cyngor fel awdurdod ac i minnau fel arweinydd.”

“Mae’n ddrwg iawn gen i am y boen mae’r dioddefwyr a’u teuluoedd wedi mynd drwyddo oherwydd y dyn hwn, ac maen nhw yn parhau i fod ar flaen fy meddwl.”

Roedd wedi arwain y Cyngor ers 2017.

Bydd arweinydd newydd yn cael eu dewis mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn.

Andrew RT Davies ydy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Mae o wedi croesawu’r ymddiswyddiad, ac yn galw am ymchwiliad llawn.

Mae’n dweud: “Rhaid bod yna ymchwiliad llawn i ganfod sut y cafodd Foden wneud y troseddau ofnadwy am gyhyd.”


Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis

Cau Amgueddfa Lechi Cymru am flwyddyn

Bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn cau am flwyddyn ym mis Tachwedd.

Bydd yr Amgueddfa yn cael ei gweddnewid a bydd yn ailagor yn 2026.

Mae’r  Amgueddfa yn dweud y bydd y project ailddatblygu yn rhoi “bywyd newydd” i’r amgueddfa.

“Bydd yn gwarchod ein hadeiladau hanesyddol gwych a chasgliadau pwysig fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu profi a mwynhau hanes anhygoel llechi.”

Cafodd ardal llechi Gwynedd ei rhoi ar restr Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO yn 2021.

Er bod yr amgueddfa’n cau, byddan nhw’n mynd â stori hanes y llechi ar daith.

“Yn 2025 byddwn yn mynd â’r Amgueddfa ar daith, yn gweithio gyda’n partneriaid, ac yn ymddangos dros dro mewn llefydd cyfagos, o atyniadau lleol i ddigwyddiadau cymunedol,” meddai’r amgueddfa.

Bydd yr Amgueddfa yn ailagor yn 2026 i roi “profiadau gwell”.

Bydd canolfan addysg newydd, man chwarae, siop a chaffi hefyd yn cael eu hadeiladu.

Roedd yr amgueddfa wedi agor am y tro cyntaf yn 1972. Mae miloedd o bobl yn ymweld â’r amgueddfa bob blwyddyn.


Pobol y Cwm yn 50 oed

Mae’r gyfres sebon Pobol y Cwm wedi bod yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed yr wythnos hon.

Cafodd y bennod gyntaf ei darlledu ar BBC Cymru ar Hydref 16, 1974.

Roedd syrpreis i wylwyr Pobol y Cwm nos Fawrth (Hydref 15). Roedd y cymeriad, Dyff Jones, wedi dychwelyd i’r gyfres – 25 mlynedd ers ei angladd.

Mae llyfr newydd wedi cael ei gyhoeddi i ddathlu’r hanner canrif.

Mae 50 Pobol y Cwm yn llawn straeon ac atgofion y rhai sydd wedi bod yn rhan o’r gyfres dros y blynyddoedd.

Mae cannoedd o gymeriadau wedi mynd a dod yng Nghwmderi dros y blynyddoedd.

William Gwyn sydd wedi golygu’r llyfr gyda Dorian Morgan. Mae’n gynhyrchydd ac yn olygydd ar y gyfres ers bron i 30 mlynedd.

Bwriad y llyfr ydi cael 50 o atgofion gan 50 o bobol amrywiol sydd wedi gweithio ar y gyfres, o flaen y camera a thu ôl y camera, achos roedd hi’n bwysig ein bod ni’n cael llais o bob cyfeiriad sy’n rhan o’r cyfanwaith,” meddai William Gwyn wrth Golwg.

“Rydyn ni wedi cael lleisiau o’r dechrau cynnar yna ac mae yna leisiau diweddar iawn yna hefyd. Dw i’n gobeithio bydd y cyfraniadau yn dod ag atgofion nôl i’r darllenwyr.”


Thomas Tuchel

Beirniadu Syr Keir Starmer am ddweud ‘pob lwc’ i reolwr newydd Lloegr

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu Prif Weinidog y Deyrnas Unedig am ddweud “pob lwc” wrth reolwr newydd tîm pêl-droed Lloegr.

Yr Almaenwr Thomas Tuchel fydd yn dilyn Gareth Southgate fel rheolwr y tîm. Bydd yn dechrau yn y swydd ar Ionawr 1.

Roedd Syr Keir Starmer wedi siarad am Thomas Tuchel ar ddechrau sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn San Steffan yr wythnos hon.

“Dw i’n gwybod y bydd y cyfan yn ymuno â mi wrth ddymuno’n dda i reolwr newydd Lloegr, Thomas Tuchel,” meddai’r Prif Weinidog.

Mae Keir Starmer yn cefnogi Arsenal ac wedi cael ei feirniadu am dderbyn tocynnau’n rhodd.

Rhun ap Iorwerth ydy arweinydd Plaid Cymru. Mae’n dweud bod Keir Starmer heb anfon neges debyg at Craig Bellamy pan gafodd swydd rheolwr tîm Cymru.

“Dywedodd Keir Starmer ei fod yn sicr y bydd Tŷ’r Cyffredin cyfan yn ymuno ag o wrth ddymuno’n dda i reolwr newydd tîm pêl-droed Lloegr,” meddai Rhun ap Iorwerth ar X.

“Dw i’n ceisio cofio a ddywedodd o’r un fath am Bellamy pan gafodd ei benodi’n rheolwr @Cymru fis Gorffennaf.

“Hynny ydy, yn bersonol, dw i’n dymuno’n dda i bob hyfforddwr chwaraeon, ond…”