Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Eluned Morgan yw arweinydd newydd Llafur Cymru
  • Plaid Cymru yn galw eto am ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru
  • Tri pherson ifanc o’r Wladfa’n mwynhau diwylliant Cymru
  • Pum mil yn Sesiwn Fawr Dolgellau

Eluned Morgan

Eluned Morgan yw arweinydd newydd Llafur Cymru

Eluned Morgan yw arweinydd newydd Llafur Cymru.

Dim ond hi oedd wedi rhoi ei henw i arwain y blaid erbyn dydd Mercher (Gorffennaf 24) sy’n golygu mai hi yw’r arweinydd newydd.

Mae’n debyg mai Eluned Morgan fydd Prif Weinidog nesaf Cymru hefyd, a Huw Irranca-Davies yn Ddirprwy Brif Weinidog. Os ydy hi’n cael ei chymeradwyo gan y Senedd, hi fydd y fenyw gyntaf i arwain Cymru.

Eluned Morgan yw’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Vaughan Gething adalw’r Senedd yr wythnos nesaf i gadarnhau’r Prif Weinidog newydd.

Er mwyn cael ei henwi’n Brif Weinidog, bydd angen i Eluned Morgan gael cefnogaeth o leiaf un aelod arall o’r Senedd. Mae disgwyl iddi gael cefnogaeth gan y mwyafrif o Aelodau’r Senedd.

Mae’n debyg y bydd hi’n cael ei chadarnhau’n Brif Weinidog ddydd Mercher nesaf (Gorffennaf 31).

Syr Keir Starmer ydy arweinydd y Blaid Lafur Brydeinig. Mae’n dweud bod penodi Eluned Morgan yn “newyddion gwych”.

“Mae Eluned yn dod â llawer o brofiad a record o gyflawni gyda hi, ac fel y ddynes gyntaf i arwain Llafur Cymru mae hi eisoes yn creu hanes,” meddai.

Jane Dodds ydy arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Mae hi wedi llongyfarch Eluned Morgan.

Mae Jane Dodds yn dweud ei bod hi wrth ei bodd o weld dynes arall “yn arwain y ffordd” yn y byd gwleidyddol yng Nghymru. Ond mae wedi galw arni i “adfer ffydd yng ngwleidyddiaeth Cymru” ar ôl sawl sgandal yn ddiweddar.

Andrew RT Davies ydy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Mae o wedi beirniadu’r penodiad.

Mae’n dweud bod rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar eu gwaethaf o dan Eluned Morgan.

“Os yw ei diffyg cyflawniadau o ran Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru’n cael ei ailadrodd ar draws economi a system addysg Cymru, yna bydd Cymru’n llawer gwaeth ei byd yn y dyfodol,” meddai.

Rhun ap Iorwerth ydy arweinydd Plaid Cymru. Mae wedi llongyfarch Eluned Morgan ond mae’n dweud: “Mae’r ffaith mai hi ydi’r trydydd arweinydd mewn tri mis yn siarad cyfrolau am yr anhrefn wrth galon y blaid sy’n llywodraethu”.

“Mae Cymru angen i’w Phrif Weinidog lwyddo, ond er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid i ddewisiadau fod yn wahanol a chanlyniadau fod yn well,” meddai.

Anthony Slaughter ydy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru. Mae wedi croesawu’r penodiad, “ar ôl misoedd o anhrefn a ffraeo mewnol wrth galon Llywodraeth Cymru”.

“Mae’r cyhoedd yn haeddu llywodraeth sy’n canolbwyntio ar ddatrys y problemau enfawr rydyn ni’n eu hwynebu,” meddai.


Llinos Medi, AS Plaid Cymru

Plaid Cymru yn galw eto am ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru

Mae Plaid Cymru wedi galw eto am ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru.

Mae hyn ar ôl i Ystâd y Goron gyhoeddi eu helw mwyaf erioed sef £1.1bn. Daw’r elw o brosiectau ynni gwynt ar y môr.

Bydd yr elw yn cael ei wario ar adnewyddu Palas Buckingham.

Llinos Medi ydy Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ynys Môn.

Mae hi’n dweud bod “dim cyfiawnhad” dros gymryd yr arian o “gymunedau tlawd” yng Nghymru a’i wario ar adnewyddu Palas Buckingham.

Dywed Ystâd y Goron fod eu helw wedi codi £568.1m dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae hyn yn bennaf oherwydd buddsoddiad mewn datblygiadau ynni gwynt ar y môr. Mae disgwyl i’r Brenin Charles III gael codiad cyflog o £45m.

Bydd y cynnydd mawr mewn elw yn cael ei ddefnyddio i orffen y gwaith adnewyddu ar Balas Buckingham.

Yn yr Alban mae’r pwerau dros Ystâd y Goron wedi’u datganoli. Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynghorau lleol i ariannu prosiectau cymunedol. Mae swm mawr yn mynd i ardaloedd difreintiedig.

Mae Plaid Cymru wedi galw eto am sefydlu Cronfa Gyfoeth Sofran er mwyn buddsoddi mewn cymunedau yng Nghymru, fel sy’n digwydd mewn gwledydd fel Norwy.

Mae Llinos Medi  yn dweud: “Dylai’r cyfoeth sy’n cael ei gynhyrchu drwy ein hadnoddau naturiol fod o fudd i’n pobol a’n cymunedau fel mae o yn yr Alban, ac nid yn cael ei ddargyfeirio i Lundain.

“Rŵan, efo pedwar aelod seneddol yn San Steffan, byddwn ni’n gwneud popeth posib i sicrhau bod datganoli Ystâd y Goron i Gymru’n cael ei ystyried o ddifri gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig.

“Gallai Llafur brofi i bobol Cymru eu bod nhw’n parchu ein cenedl, a’u bod nhw o ddifrif am fuddsoddi yn ein cymunedau.”


Tri pherson ifanc o’r Wladfa’n mwynhau diwylliant Cymru

Mae tri o bobol ifanc o’r Wladfa wedi cyrraedd Cymru er mwyn dysgu am ei diwylliant a rhannu eu traddodiadau.

Am ddeufis dros yr haf, bydd Kiara, Meleri a Santiago yn ymweld â Chymru gydag Esyllt Nest Roberts. Mae Esyllt wedi byw yn y Wladfa ers 20 mlynedd.

Mae perthynas gref rhwng Cymru a Phatagonia ers i’r ymfudwyr Cymreig cyntaf sefydlu’r Wladfa yn Chubut yn 1865.

Heddiw, mae’r cysylltiad rhwng y ddwy wlad yn parhau.

Roedd myfyrwyr o Goleg Dewi Sant, Caerdydd wedi mynd i Batagonia yn gynharach eleni. Roedden nhw wedi cael cefnogaeth rhaglenTaith’ Llywodraeth Cymru ar gyfer y tri o Batagonia.

“Rydyn ni’n teimlo ein bod wedi gwireddu un o’r breuddwydion gorau,” meddai Kiara, Meleri a Santiago.

“Mae Cymru yn union fel roedden ni wedi ei dychmyguhardd a gwyrdd”.

I’r tri, mae’r Gymraeg yn clymu’r Wladfa â Chymru. Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n falch bod y daith yn rhoi cyfle iddyn nhw ddefnyddio’r iaith.

“Rydyn ni’n siarad Cymraeg bob dydd yma!” medden nhw.

“Mae cael siarad Cymraeg bob dydd yn rhywbeth rhyfeddol i ni, achos gallwn ddefnyddio’r iaith rydyn ni wedi’i hastudio’n galed dros y blynyddoedd.”


Sesiwn Fawr Dolgellau Llun: ffotoNant

Pum mil yn Sesiwn Fawr Dolgellau

Roedd miloedd o bobol wedi mynd draw i fwynhau Sesiwn Fawr Dolgellau’r penwythnos diwethaf.

Roedd yr ŵyl gerddorol boblogaidd yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 18-21.

Roedd dros 50 o artistiaid wedi perfformio ar draws 11 llwyfan, gan ddod â chymysgedd eclectig o gerddoriaeth i ganol tref Dolgellau.

Ymhlith artistiaid prif lwyfan yr ŵyl roedd Eden, Vrï, Steve Eaves, Mared, N’Famady Kouyaté, y cerddor gwerin o Lydaw David Paquet, a’r ddeuawd afro house Raz & Afla.