Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Vaughan Gething yn ymddiswyddo
  • Donald Trump yn fwy poblogaidd ar ôl cael ei saethu?
  • Bwyd o Gymru ar y trenau i ddathlu’r Eisteddfod Genedlaethol

Cabinet Llywodraeth Cymru 2024

Vaughan Gething yn ymddiswyddo

Roedd hi’n wythnos ddramatig yn y Senedd. Roedd Vaughan Gething wedi dweud ei fod yn ymddiswyddo ddydd Mawrth (16 Gorffennaf), dim ond pedwar mis ers iddo ddod yn Brif Weinidog Cymru.

Daeth hyn ar ôl i bedwar aelod o’r Cabinet ymddiswyddo bore dydd Mawrth. Y pedwar oedd y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw, Jeremy Miles, Ysgrifennydd yr Economi a’r Iaith Gymraeg; Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol; a Julie James, yr Ysgrifennydd Tai.

Roedd Mick Antoniw wedi dweud wrth Vaughan Gething: “Dw i ddim yn teimlo y gallwch chi barhau fel Prif Weinidog.

“Mae Cymru angen llywodraeth hyderus a sefydlog. Dydw i ddim yn credu y gallwch chi ddarparu hynny.”

Cyfnod stormus

Roedd Vaughan Gething wedi cael cyfnod stormus ers dod yn Brif Weinidog.

Cafodd ei feirniadu am dderbyn rhodd o £200,000 gan droseddwr amgylcheddol.

Ym mis Mai roedd Vaughan Gething wedi diswyddo Hannah Blythyn o’i gabinet. Roedd wedi ei chyhuddo o ryddhau negeseuon preifat i’r cyfryngau.

Roedd y negeseuon hyn o gyfnod Covid-19.

Roedd Vaughan Gething wedi gwadu dileu unrhyw negeseuon yn yr Ymchwiliad Covid yn gynharach eleni.

Roedd Hannah Blythyn wedi gwadu rhyddhau unrhyw negeseuon i’r cyfryngau. Roedd Vaughan Gething wedi amddiffyn y penderfyniad i’w diswyddo.

Wedyn, roedd Plaid Cymru wedi tynnu allan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Llafur. Roedd hyn yn golygu nad oedd gan Vaughan Gething fwyafrif a doedd e ddim yn gallu pasio cyllideb yn y Senedd.

Ym mis Mehefin roedd Vaughan Gething wedi colli pleidlais o ddiffyg hyder.

Ar ôl i Vaughan Gething ymddiswyddo dywedodd Prif Weinidog Prydain, Keir Starmer: “Dylai Vaughan gymryd balchder enfawr am fod yr arweinydd cyntaf croenddu o unrhyw wlad yn Ewrop”.

Mae’n debyg bod Keir Starmer eisiau gweld Huw Irranca-Davies neu Ken Skates yn dod yn Brif Weinidog nesaf Cymru. Mae disgwyl y bydd olynydd Vaughan Gething yn ei le erbyn yr Hydref. Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd sut y bydd Prif Weinidog nesaf Cymru yn cael ei ddewis.


Donald Trump

Donald Trump yn fwy poblogaidd ar ôl cael ei saethu?

Mae’n bosib y bydd Donald Trump yn fwy poblogaidd ar ôl yr ymgais i’w lofruddio.

Dyna beth mae darlithydd sy’n arbenigwr ar wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau yn credu.

Roedd cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi cael ei anafu ar ôl i ddyn saethu gwn ato mewn rali yn Pennsylvania yr wythnos ddiwethaf.

Roedd Donald Trump wedi disgyn i’r llawr cyn i swyddogion o’r gwasanaethau cudd fynd i’w helpu.

Roedd wedi codi ar ôl tua munud, gyda gwaed ar ei glust a’i wyneb.

Thomas Matthew Crooks oedd wedi trio saethu Donald Trump, meddai’r FBI. Cafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu.

Roedd dyn yn y dorf wedi cael ei saethu’n farw yn yr ymosodiad hefyd ac mae dau ddyn arall mewn cyflwr difrifol.

Mae Dr Ian Stafford o Brifysgol Caerdydd yn dweud y gall yr ymosodiad gryfhau’r gefnogaeth i Trump, ond na fydd yn helpu ymgyrch Joe Biden.

“Mae’n mynd i uno’r blaid Weriniaethol hyd yn oed yn fwy, ac felly mae’n dod yn her i Joe Biden.”

Mae Dr Ian Stafford yn dweud y gall Trump ddefnyddio hyn “fel ffordd o geisio apelio at ystod ehangach o bleidleiswyr.

“Ond byddai’n newid cyfeiriad mawr iddo fo drio apelio at bleidleiswyr cymedrol neu Ddemocrataidd.”

“Mae marc cwestiwn a allai Trump weld cynnydd yn ei boblogrwydd.

“Ond o ystyried bod yr etholiad yn dal i fod rai misoedd i ffwrdd, ac o ystyried bod y polau mor dynn, mae yna gwestiwn a fyddai unrhyw gefnogwyr presennol i Biden yn cael eu denu gan Trump dim ond oherwydd y digwyddiad yma.

“Efallai y gwelwn ychydig o symudiad, ond beth sy’n amlwg yn mynd i ddigwydd yw bod hyn yn mynd i ddyfnhau’r gefnogaeth ymhlith y bobl sy’n ei gefnogi’n barod.”


Llun yn dangos detholiad o blatiau bwyd
Bwyd Cymreig ar drenau Trafnidiaeth Cymru

Bwyd o Gymru ar y trenau i ddathlu’r Eisteddfod Genedlaethol

Bydd bwyd o Gymru ar gael i deithwyr dosbarth cyntaf ar drenau Trafnidiaeth Cymru i ddathlu’r Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf eleni.

Bydd y bwyd Cymreig ar gael ar drenau rhwng Abertawe-Manceinion a Chaerdydd-Caergybi.

Mae’r bwyd yn cynnwys cig moch gyda bara lawr, cyw iâr ‘supreme’ Caerffili, bara brith a llawer mwy.

Bydd bwydlen arall ar gael i deithwyr dosbarth safonol hefyd. Bydd ‘Byrger yr Eisteddfod’ ar gael a diodydd sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru.

Mae Piers Croft o Trafnidiaeth Cymru yn dweud:  “Mae bwydlen yr Eisteddfod yn mynd y tu hwnt i flas yn unig. Mae’n cynnig cyfle i’n teithwyr brofi blas yr Eisteddfod ei hun. Mae’r cyfle unigryw hwn yn dathlu popeth sydd gan Gymru i’w gynnig wrth fwynhau pryd o fwyd blasus a rhagorol.”

Lowri Joyce ydy Arweinydd Strategol y Gymraeg gyda Trafnidiaeth Cymru.

Mae hi’n dweud: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio’r fwydlen Gymreig arbennig hon ar ein trenau i ddathlu’r Eisteddfod Genedlaethol.

“Fel brand cwbl ddwyieithog, mae Trafnidiaeth Cymru eisiau dathlu ein hiaith, diwylliant a phopeth mae’n ei olygu i fod yn Gymraeg. Byddwn yn annog y rhai sy’n teithio i’r Maes i chwilio am opsiynau teithio cynaliadwy ac os cewch gyfle, rhoi cynnig ar ein bwydlen arbennig.”

Mae’r fwydlen eisteddfodol ar gael tan 10 Awst.

Mae’r cwmni yn annog cymaint â phosib o bobl i ddefnyddio’r trenau i fynd a dod i’r Eisteddfod eleni.

Mae gorsaf Pontypridd o fewn 5 munud ar droed i’r Maes ym Mharc Ynysangharad. Mae’r cwmni’n dweud y bydd yn darparu rhagor o drenau rhwng y dref a Chaerdydd tan ddiwedd y digwyddiad olaf bob nos.

Mae trenau’n rhedeg yn uniongyrchol o Gaerdydd Canolog i Ferthyr Tudful, Aberdâr a Threherbert, a phob un yn galw ym Mhontypridd.