Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig yn dod i Gymru
  • Aelodau Seneddol newydd yn mynd i San Steffan
  • Diswyddiad Hannah Blythyn: “Rhaid cyhoeddi’r dystiolaeth”
  • Craig Bellamy yw rheolwr newydd tîm Cymru

Keir Starmer a Vaughan Gething yn y Senedd

Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig yn dod i Gymru

Roedd Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig wedi dod i Gymru ddydd Llun (8 Gorffennaf).

Roedd yn rhan o’i daith o gwmpas y llywodraethau datganoledig gan gynnwys yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Roedd Syr Keir Starmer wedi cwrdd â Phrif Weinidog Cymru Vaughan Gething yn y Senedd yng Nghaerdydd. Dyma’r tro cyntaf iddo ddod i’r Senedd ers dod yn Brif Weinidog. Mae’n dilyn llwyddiant Llafur yn yr etholiad cyffredinol wythnos ddiwethaf.

Mae Keir Starmer wedi dweud ei fod o eisiau gwella’r berthynas rhwng llywodraeth San Steffan a Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Keir Starmer ei fod eisiau gwella bywydau pobl a chymunedau Cymru “fel bod pobl yn gweld ac yn teimlo newid go iawn yn eu bywydau.”

Roedd Keir Starmer a Vaughan Gething wedi bod yn trafod dyfodol gweithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot. Mae miloedd o swyddi am gael eu colli ar y safle.


Pedwar Aelod Seneddol Plaid Cymru – Ben Lake, Llinos Medi, Liz Saville Roberts ac Ann Davies

Aelodau Seneddol newydd yn mynd i San Steffan

Roedd 32 Aelod Seneddol wedi cael eu hethol ar ôl yr etholiad cyffredinol wythnos ddiwethaf.

Aethon nhw i ddechrau ar eu gwaith yn San Steffan ar ôl tyngu llw ddydd Mawrth (Gorffennaf 9).

Mae 13 o’r 32 aelod yn wynebau newydd yn San Steffan. Maen nhw’n cynrychioli Llafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd nifer wedi mynd i orsaf drên Caerfyrddin i ffarwelio gydag Ann Davies wrth iddi deithio i Lundain, ac wedi canu’r anthem genedlaethol.

Mae Ann yn un o’r ddau Aelod Seneddol newydd sy’n sefyll dros Blaid Cymru. Mewn neges ar X, dywedodd Ann ei bod yn barod am ei diwrnod cyntaf yn cynrychioli Caerfyrddin.

“Amdani!” meddai.

Roedd Llinos Medi, Aelod Seneddol Plaid Cymru yn Ynys Môn hefyd yn teithio i San Steffan am y tro cyntaf.

Dywedodd Llinos Medi ei fod yn “fraint fawr” cynrychioli Ynys Môn a’i bod yn edrych ymlaen at gael sefyll dros ei hardal.

Ymhlith y rhai eraill oedd yn teithio i San Steffan, roedd yr Aelod Seneddol Llafur newydd ar gyfer Canolbarth a De Sir Benfro, Henry Tufnell, a David Chadwick o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru.

“Mae’n anrhydedd fy mod wedi treulio fy niwrnod cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin ochr yn ochr â’r nifer uchaf erioed o ASau Democratiaid Rhyddfrydol,” meddai.


Hannah Blythyn AS yn y Senedd

Diswyddiad Hannah Blythyn: “Rhaid cyhoeddi’r dystiolaeth”

Mae Plaid Cymru yn dweud bod angen i Vaughan Gething gyhoeddi’r dystiolaeth oedd wedi arwain at ddiswyddo un o aelodau ei gabinet.

Roedd Hannah Blythyn wedi gwneud datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth (Gorffennaf 9).

Dywedodd nad oedd hi wedi gweld unrhyw dystiolaeth cyn cael ei diswyddo.

Hannah Blythyn oedd y cyn-Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol. Cafodd ei diswyddo gan Vaughan Gething ym mis Mai. Roedd y Prif Weinidog wedi ei chyhuddo o ryddhau gwybodaeth i’r cyfryngau.

Cafodd ei chyhuddo o rannu negeseuon rhwng gweinidogion. Roedd y negeseuon yn dangos fod y Prif Weinidog wedi dileu negeseuon WhatsApp o gyfnod Covid. Roedd y stori wedi ymddangos ar wefan NationCymru.

Mae Hannah Blythyn wedi gwadu gwneud hyn.

Mae NationCymru hefyd wedi dweud bod y wybodaeth heb ddod gan Hannah Blythyn.

Mae Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru, wedi sgrifennu at Vaughan Gething.  Mae wedi gofyn iddo ddweud wrth y Senedd beth yn union ddigwyddodd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth BBC Radio Wales bod Hannah Blythyn wedi dangos “dewrder” wrth siarad yn y Senedd. Ond roedd ei fersiwn hi o’r digwyddiadau a beth mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn wahanol, meddai.

“Rhaid mynd at wraidd hyn, a dyna pam fy mod i’n gofyn i’r [Prif Weinidog] gyhoeddi’r dystiolaeth.”

Jane Dodds ydy Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

Mae hi’n dweud bod y Prif Weinidog “wedi colli hyder y Senedd” a bod yn “rhaid iddo ymddiswyddo.”

Roedd y Prif Weinidog wedi colli cynnig o ddiffyg hyder yn y Senedd ym mis Mehefin.

“Mae pobol Cymru wedi cael llond bol ar y Prif Weinidog yn osgoi craffu,” meddai Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Y saga hon yw un o’r prif resymau pam y collodd Vaughan Gething bleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd, ac eto dyw’r saga heb ei datrys.”

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno cynnig i drio gorfodi Vaughan Gething i ddangos y dystiolaeth erbyn Gorffennaf 17.


Craig Bellamy

Craig Bellamy yw rheolwr newydd tîm Cymru

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi cyhoeddi mai Craig Bellamy fydd rheolwr newydd tîm pêl-droed dynion Cymru.

Mae gan Craig Bellamy lawer o brofiad o hyfforddi gyda Burnley, Anderletch a Chaerdydd.

Mae Craig Bellamy yn olynu Rob Page. Cafodd ei ddiswyddo fis diwethaf ar ôl canlyniadau siomedig.

Dywedodd Cymdeithas Bêl Droed Cymru ddydd Mawrth (9 Gorffennaf) fod Craig Bellamy wedi arwyddo cytundeb tan 2028.

Mae Craig Bellamy yn dweud ei fod yn “fraint anhygoel” i arwain ei wlad a’i fod yn “barod am yr her.”

“Dw i methu aros i ddechrau yn ein gemau Cynghrair y Cenhedloedd ym mis Medi.”

Roedd Craig Bellamy wedi cyfarfod swyddogion Cymdeithas Bêl Droed Cymru yr wythnos ddiwethaf.

Roedd o wedi ceisio am y rôl yn 2017 ar ôl i Chris Coleman adael, ond Ryan Giggs gafodd y swydd bryd hynny.

Fel chwaraewr, mae wedi chwarae dros 400 o gemau a chynrychioli ei wlad 78 gwaith gan arwain ei dîm rhwng 2007/10.

Mae wedi treulio cyfnodau gyda Norwich City, Coventry City, Celtic, Blackburn Rovers, Liverpool, West Ham United, Manchester City a Lerpwl cyn gorffen gyda Chaerdydd.

Craig Bellamy fydd yn arwain y tîm yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd yn 2026.

Bydd ei gêm gyntaf fel rheolwr yn erbyn Twrci ar 6 Medi yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn rhan o Gynghrair y Cenhedloedd.

Bydd Cymru wedyn yn teithio i Montenegro ar 9 Medi.