Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Cyhuddo merch, 13, o geisio llofruddio tri o bobl mewn ysgol
  • Mesur Rwanda yn cael ei basio
  • Diwrnod y Ddaear: ‘dim digon o ymwybyddiaeth’
  • Cyflwynwyr a set newydd i ‘Heno’ ar S4C

 


Ysgol Dyffryn Aman

Cyhuddo merch, 13, o geisio llofruddio tri o bobl mewn ysgol

Mae merch 13 oed wedi cael ei chyhuddo o geisio llofruddio tri o bobl mewn ysgol yn Rhydaman.

Roedd dau athro a disgybl wedi cael eu hanafu yn y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher (24 Ebrill). Maen nhw wedi gadael yr ysbyty erbyn hyn.

Cafodd y ferch ei harestio ar dir yr ysgol, ac roedd ganddi gyllell ar y pryd.

Roedd y ferch wedi mynd o flaen Llys Ynadon Llanelli ddoe (dydd Gwener, 26 Ebrill). Bydd hi’n mynd o flaen Llys y Goron Abertawe ar 27 Mai. Mae hi’n cael ei chadw mewn canolfan ar gyfer pobl ifanc.

Dyw hi ddim yn bosib cyhoeddi ei henw am resymau cyfreithiol.

Mae’r ysgol wedi cau ers y digwyddiad ac mae’r disgyblion yn cael gwersi ar-lein.

Yn y cyfamser cafodd bachgen 15 oed ei arestio yn ardal Cross Hands ddydd Mercher.

Roedd Heddlu Dyfed Powys wedi cael adroddiadau am negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cafodd y bachgen ei arestio yn ei gartref ddydd Iau (Ebrill 25). Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n trin y ddau ddigwyddiad ar wahân. Ond bydd yr ymchwiliad yn ceisio darganfod os oes cysylltiad rhwng y ddau.


Mesur Rwanda yn cael ei basio 

Cafodd Mesur Rwanda ei basio fel cyfraith nos Lun (22 Ebrill).

Mae’r llywodraeth yn San Steffan eisiau anfon rhai ceiswyr lloches i Rwanda.

Mae’n golygu y bydd eu ceisiadau am loches yn cael eu prosesu yn Rwanda.

Mae’r llywodraeth yn dweud y bydd y mesur yn atal pobl rhag croesi’r Sianel yn anghyfreithlon.

Roedd y mesur wedi cael ei wrthod sawl gwaith gan Dŷ’r Arglwyddi.

Ond ar ôl llawer o drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi nos Lun, roedd yr arglwyddi wedi penderfynu eu bod nhw ddim yn mynd i wrthwynebu’r mesur.

Bydd y ceiswyr lloches cyntaf yn cael eu hanfon i Rwanda yn ystod y 10-12 wythnos nesaf.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref James Cleverly yn dweud fod pasio’r mesur yn “foment hanesyddol.”

Ond mae’r cynlluniau wedi cael eu beirniadu gan y gwrthbleidiau, ac elusennau sy’n cefnogi ffoaduriaid.

Mae Plaid Cymru’n dweud fod y Mesur yn “anghyfreithlon, anfoesol ac annynol”.

David TC Davies ydy Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Fynwy.

Mae’n dweud: “Fel gwlad, rydyn ni’n croesawu unrhyw un sy’n dod yma drwy’r ffyrdd iawn, ond dydyn ni ddim yn gallu derbyn pobol sy’n dod yma ar gychod bach ac sy’n peryglu eu bywydau ar yr un pryd.

“Felly, dw i’n croesawu’r ffaith bod Tŷ’r Arglwyddi wedi caniatáu i’r Mesur basio.”


Llygredd yn y mor

Diwrnod y Ddaear: ‘dim digon o ymwybyddiaeth’

Roedd hi’n Ddiwrnod y Ddaear 2024 ddydd Llun (Ebrill 22).

Cafodd Diwrnod y Ddaear ei gynnal am y tro cyntaf yn 1970. Mae EARTHDAY.ORG yn annog pobol bob blwyddyn i amddiffyn y blaned.

Planed v Plastigau oedd y thema eleni. Y nod yw codi ymwybyddiaeth o’r peryglon iechyd sy’n gysylltiedig â phlastigion, ac annog pobl i beidio defnyddio plastig untro.

Ond mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn dweud does dim digon o ymwybyddiaeth am newid hinsawdd.

Yn ôl arolwg gan PERITA yn 2022, dydy chwarter poblogaeth gwledydd y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ddim yn gwybod beth maen nhw’n gallu gwneud i helpu i atal newid hinsawdd.

Roedd 32% o bobol yn dweud nad ydyn nhw’n gwybod beth sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn y Deyrnas Unedig.

Ond dywedodd 62% o bobol y bydden nhw’n hoffi gwybod mwy am newid hinsawdd.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn dweud bod angen addysgu am newid hinsawdd ar frys fel y cawson ni am Covid-19 ar ddechrau’r pandemig.

Bleddyn Lake ydy Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu Cyfeillion y Ddaear Cymru.

Mae’n dweud: “Dych chi’n cofio yn ystod y pandemig pan oedd Boris Johnson ar y teledu bob nos, gyda’r gwyddonwyr wrth ei ochr yn egluro be’ oedd angen ei wneud a pham oedd angen ei wneud o? Byswn i’n hoffi gweld yr un peth, ond am newid hinsawdd.

“Dw i’n meddwl fod lot o bobol dal ddim yn deall y cysylltiad rhwng be’ allen nhw ei wneud a sut gall hynny helpu.

“Mae pobol yn hoffi gwybod y rheswm pam.

“Mae yna achos, felly, i’r llywodraethau a’r cyfryngau wneud hynny’n gliriach i bobol,” meddai.


Set newydd Heno

Cyflwynwyr a set newydd i ‘Heno’ ar S4C

Mae gan y rhaglen Heno ar S4C gyflwynwyr a set newydd.

Cafodd y rhaglen ei hail-lansio nos Lun (22 Ebrill).

Y cyflwynwyr newydd ydy Mirain Iwerydd, James Lusted a Paul ‘Stumpey’ Davies. Byddan nhw’n ymuno â’r cyflwynwyr Elin Fflur, Alun Williams, Owain Tudur Jones ac Angharad Mair.

Y newid mawr arall fydd soffa oren newydd. Bydd yn cymryd lle’r hen soffa felen.

Bydd Heno yn dal i ddod â straeon o Gymru i’r gwylwyr ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 7 o’r gloch o nos Lun i nos Wener, meddai S4C.

Mae Owain Tudur Jones yn dweud: “Mae hi’n mynd i fod yn rhyfedd, oherwydd mae’r soffa felen yn eiconig, yn cult hero. Ond dw i’n meddwl bod yr amser wedi dod am change bach.

“Fedra’i weld dros amser y bydd y soffa oren yn troi yn eicon ei hun.”

Mae Angharad Mair wedi bod yn aelod o dîm Heno ers 33 o flynyddoedd.

Mae hi’n dweud: “I fi, y peth pwysicaf am Heno, yw’r gwylwyr.

“Rhaglen y gwylwyr yw Heno yn fwy na dim. Nhw sy’n berchen y rhaglen.”

Mae Elin Fflur yn dweud: “Mae’n bwysig i ni beidio eistedd yn llonydd, ein bod ni’n parhau i ymateb i beth sydd yn digwydd gan gadw at wreiddiau’r rhaglen.”

Mae’r rhaglen gylchgrawn Prynhawn Da, hefyd wedi cael ambell newid. Mae Prynhawn Da ar S4C am 2 o’r gloch, o ddydd Llun i ddydd Gwener.