Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Y tensiynau rhwng Israel ac Iran yn dwysau
- Cymdeithas yr Iaith: ‘addysg Gymraeg i bawb’
- Pryder am ddyfodol Amgueddfa Genedlaethol Cymru
- Galw am warchod geifr Llandudno
Y tensiynau rhwng Israel ac Iran yn dwysau
Mae’r tensiynau rhwng Israel ac Iran wedi dwysau.
Yn ôl adroddiadau ddoe (dydd Gwener, 19 Ebrill) roedd taflegryn o Israel wedi taro Iran.
Roedd adroddiadau bod ffrwydradau yn nhalaith Isfahan ond dydy’r adroddiadau heb eu cadarnhau. Mae Iran wedi gwadu’r adroddiadau. Maen nhw’n dweud bod dim ymosodiadau wedi bod a bod Isfahan yn “ddiogel”.
Roedd Iran wedi tanio taflegrau a dronau at Israel nos Sadwrn diwethaf (13 Ebrill). Dywedodd Israel y byddai’n ymateb.
Mae Plaid Cymru’n dweud eu bod yn poeni am effaith rhyfel yn y Dwyrain Canol.
Liz Saville Roberts ydy arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan. Mae hi’n dweud byddai rhyfel yn y Dwyrain Canol “i’w teimlo ledled y byd”.
Mae hi wedi galw eto am gadoediad.
“Mae’r gwrthdaro rhwng Iran ac Israel yn beryglus i’r Dwyrain Canol i gyd,” meddai Liz Saville Roberts.
“Byddai rhyfel rhanbarthol yn drychineb dyngarol ac economaidd, a byddai effeithiau hynny i’w teimlo ledled y byd.
“Rhaid inni geisio sefydlu heddwch parhaol, gan ddechrau gyda chadoediad parhaol yn Gaza.”
Cymdeithas yr Iaith: ‘addysg Gymraeg i bawb’
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio’u gweledigaeth ar gyfer addysg Gymraeg i bawb.
Mae’r adroddiad Addysg Gymraeg i Bawb: Cyrraedd y Nod yn dangos sut mae Cymdeithas yr Iaith eisiau sicrhau addysg Gymraeg i bawb erbyn 2050. Dyma’r flwyddyn mae Llywodraeth Cymru eisiau cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd eisiau 50% o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.
Mae’r Bil Addysg Gymraeg ar fin cael ei gyflwyno i’r Senedd. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y Bil yn “gyfle unwaith mewn cenhedlaeth” i “drawsffurfio’r” system addysg.
“Y broblem gyda’r cynigion yn y Papur Gwyn ar gyfer Bil Addysg Gymraeg y Llywodraeth yw bydd hanner plant Cymru dal yn colli allan ar addysg Gymraeg,” meddai Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith.
“Rydyn ni’n credu y dylai bod gan bob plentyn – o ble bynnag maen nhw’n dod, pwy bynnag yw eu rhieni, beth bynnag yw eu cefndir cymdeithasol – yr hawl yna i’r Gymraeg.
“Mae’r Bil yma’n cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i drawsffurfio ein system addysg ni.”
![](https://lingo.360.cymru/ased/sites/2/2021/04/Amgueddfa_Genedlaethol_Cymru-640x396.jpg)
Pryder am ddyfodol Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Mae pryder wedi bod am ddyfodol Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yr wythnos hon.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud toriadau o 10.5% i gyllid sefydliadau celfyddydol yng Nghymru.
Mae’r toriadau yn effeithio Cyngor y Celfyddydau, y Cyngor Llyfrau, y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru, a CADW. Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn wynebu toriad o fwy na 22%.
Roedd Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi rhybuddio y gallai eu prif safle yng Nghaerdydd gau. Bydd tua 90 o aelodau o staff hefyd yn colli eu gwaith.
Mae’r Amgueddfa wedi cael toriad o £3m i’w grant.
Ond mae’r Prif Weinidog Vaughan Gething wedi dweud na fydd yn rhoi arian ychwanegol i helpu Amgueddfa Cymru. Mae’n dweud bod rhaid rhoi’r arian i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’u bod wedi gorfod gwneud “penderfyniadau anodd iawn.”
Mae Heledd Fychan o Blaid Cymru yn dweud: “Dw i’n bryderus dros ben.”
Mae hi’n dweud bod Llywodraeth yn “malio dim am ein diwylliant nag ein sefydliadau cenedlaethol”.
![Geifr mewn gardd yn Llandudno](https://lingo.360.cymru/ased/sites/2/2020/03/Geifr-Llandudno-640x426.jpg)
Galw am warchod geifr Llandudno
Mae dynes yn galw am fwy o arwyddion yn rhybuddio bod geifr ar ffyrdd Llandudno.
Mae hyn ar ôl i bedair gafr gael eu lladd y mis yma ar ôl cael eu taro gan gar ar yr A470.
Mae’r geifr wedi bod yn crwydro yn Llandudno a Chraig y Don ers cyfnodau clo’r pandemig. Roedd y geifr wedi dod i lawr o’r Gogarth am fod y strydoedd yn wag yn y dref.
Mae Cyngor Conwy wedi dweud na fyddan nhw’n rhoi ffens o amgylch y geifr.
Ond ar ôl y ddamwain wythnos ddiwethaf, mae rhai yn galw am ragor o arwyddion ffyrdd yn Llandudno i rybuddio modurwyr bod yr anifeiliaid yn crwydro ar y ffyrdd.
Mae Wendy Keenan yn dweud bod angen i’r Cyngor godi mwy o arwyddion ffyrdd.
“Mae llawer o bobol wedi ffonio’r Cyngor. Mae angen iddyn nhw wneud rhywbeth. Mae angen rhagor o arwyddion i fyny yn y dref.
“Cafodd pedair gafr eu lladd, ac mi wnaeth fy ypsetio’n fawr. Dw i’n caru anifeiliaid ac yn figan.
“Dw i jyst yn teimlo nad oes neb fel pe baen nhw’n gofalu am y geifr. Dw i wedi poeni erioed y gall fod yna ddamwain.
“Mae pobol yn dod i’r dref, ac efallai nad ydyn nhw’n gwybod am y geifr. Mae’r geifr yn bwysig iawn i Landudno. Mae’n unigryw.”
Mae’r Cyngor yn dweud bod 153 gafr ar y Gogarth, a rhai yng Nghraig y Don.
Roedd Cynllun Rheoli Geifr Gwyllt Llandudno wedi cael ei gyflwyno yn 2023 i fonitro a rheoli’r geifr, meddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae’r Cyngor yn dweud: “Rydyn ni weithiau’n symud y geifr dros dro yn ôl i’r Gogarth os oes yna berygl annerbyniol i les pobol neu anifeiliaid.
“Mae arwyddion am anifeiliaid gwyllt yn eu lle i rybuddio gyrwyr fod anifeiliaid yn debygol o fod ar y ffordd.”
Mae’n debyg bod pâr o eifr wedi cael eu rhoi i’r Uwchfrigadydd Syr Savage Lloyd Mostyn gan y Frenhines Victoria. Roedd y geifr yn cael eu cadw yn Neuadd Gloddaeth yn wreiddiol, ac wedi cael eu rhyddhau i’r Gogarth wedyn.