Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Y tensiynau rhwng Israel ac Iran yn dwysau
  • Cymdeithas yr Iaith: ‘addysg Gymraeg i bawb’
  • Pryder am ddyfodol Amgueddfa Genedlaethol Cymru
  • Galw am warchod geifr Llandudno

Y tensiynau rhwng Israel ac Iran yn dwysau

Mae’r tensiynau rhwng Israel ac Iran wedi dwysau.

Yn ôl adroddiadau ddoe (dydd Gwener, 19 Ebrill) roedd taflegryn o Israel wedi taro Iran.

Roedd adroddiadau bod ffrwydradau yn nhalaith Isfahan ond dydy’r adroddiadau heb eu cadarnhau. Mae Iran wedi gwadu’r adroddiadau. Maen nhw’n dweud bod dim ymosodiadau wedi bod a bod Isfahan yn “ddiogel”.

Roedd Iran wedi tanio taflegrau a dronau at Israel nos Sadwrn diwethaf (13 Ebrill). Dywedodd Israel y byddai’n ymateb.

Mae Plaid Cymru’n dweud eu bod yn poeni am effaith rhyfel yn y Dwyrain Canol.

Liz Saville Roberts ydy arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan. Mae hi’n dweud byddai rhyfel yn y Dwyrain Canol “i’w teimlo ledled y byd”.

Mae hi wedi galw eto am gadoediad.

“Mae’r gwrthdaro rhwng Iran ac Israel yn beryglus i’r Dwyrain Canol i gyd,” meddai Liz Saville Roberts.

“Byddai rhyfel rhanbarthol yn drychineb dyngarol ac economaidd, a byddai effeithiau hynny i’w teimlo ledled y byd.

“Rhaid inni geisio sefydlu heddwch parhaol, gan ddechrau gyda chadoediad parhaol yn Gaza.”


Cymdeithas yr Iaith: ‘addysg Gymraeg i bawb’

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio’u gweledigaeth ar gyfer addysg Gymraeg i bawb.

Mae’r adroddiad Addysg Gymraeg i Bawb: Cyrraedd y Nod yn dangos sut mae Cymdeithas yr Iaith eisiau sicrhau addysg Gymraeg i bawb erbyn 2050. Dyma’r flwyddyn mae Llywodraeth Cymru eisiau cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd eisiau 50% o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.

Mae’r Bil Addysg Gymraeg ar fin cael ei gyflwyno i’r Senedd. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y Bil  yn “gyfle unwaith mewn cenhedlaeth” i “drawsffurfio’r” system addysg.

“Y broblem gyda’r cynigion yn y Papur Gwyn ar gyfer Bil Addysg Gymraeg y Llywodraeth yw bydd hanner plant Cymru dal yn colli allan ar addysg Gymraeg,” meddai Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith.

“Rydyn ni’n credu y dylai bod gan bob plentyn – o ble bynnag maen nhw’n dod, pwy bynnag yw eu rhieni, beth bynnag yw eu cefndir cymdeithasol – yr hawl yna i’r Gymraeg.

“Mae’r Bil yma’n cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i drawsffurfio ein system addysg ni.”


Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Pryder am ddyfodol Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Mae pryder wedi bod am ddyfodol Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yr wythnos hon.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud toriadau o 10.5% i gyllid sefydliadau celfyddydol yng Nghymru.

Mae’r toriadau yn effeithio Cyngor y Celfyddydau, y Cyngor Llyfrau, y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru, a CADW. Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn wynebu toriad o fwy na 22%.

Roedd Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi rhybuddio y gallai eu prif safle yng Nghaerdydd gau. Bydd tua 90 o aelodau o staff hefyd yn colli eu gwaith.

Mae’r Amgueddfa wedi cael toriad o £3m i’w grant.

Ond mae’r Prif Weinidog Vaughan Gething wedi dweud na fydd yn rhoi arian ychwanegol i helpu Amgueddfa Cymru. Mae’n dweud bod rhaid rhoi’r arian i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’u bod wedi gorfod gwneud “penderfyniadau anodd iawn.”

Mae Heledd Fychan o Blaid Cymru yn dweud: “Dw i’n bryderus dros ben.”

Mae hi’n dweud bod Llywodraeth yn “malio dim am ein diwylliant nag ein sefydliadau cenedlaethol”.


Geifr mewn gardd yn Llandudno
Y geifr mewn gardd yn nhref Llandudno

Galw am warchod geifr Llandudno

Mae dynes yn galw am fwy o arwyddion yn rhybuddio bod geifr ar ffyrdd Llandudno.

Mae hyn ar ôl i bedair gafr gael eu lladd y mis yma ar ôl cael eu taro gan gar ar yr A470.

Mae’r geifr wedi bod yn crwydro yn Llandudno a Chraig y Don ers cyfnodau clo’r pandemig. Roedd y geifr wedi dod i lawr o’r Gogarth am fod y strydoedd yn wag yn y dref.

Mae Cyngor Conwy wedi dweud na fyddan nhw’n rhoi ffens o amgylch y geifr.

Ond ar ôl y ddamwain wythnos ddiwethaf, mae rhai yn galw am ragor o arwyddion ffyrdd yn Llandudno i rybuddio modurwyr bod yr anifeiliaid yn crwydro ar y ffyrdd.

Mae Wendy Keenan yn dweud bod angen i’r Cyngor godi mwy o arwyddion ffyrdd.

“Mae llawer o bobol wedi ffonio’r Cyngor. Mae angen iddyn nhw wneud rhywbeth. Mae angen rhagor o arwyddion i fyny yn y dref.

“Cafodd pedair gafr eu lladd, ac mi wnaeth fy ypsetio’n fawr. Dw i’n caru anifeiliaid ac yn figan.

“Dw i jyst yn teimlo nad oes neb fel pe baen nhw’n gofalu am y geifr. Dw i wedi poeni erioed y gall fod yna ddamwain.

“Mae pobol yn dod i’r dref, ac efallai nad ydyn nhw’n gwybod am y geifr. Mae’r geifr yn bwysig iawn i Landudno. Mae’n unigryw.”

Mae’r Cyngor yn dweud bod 153 gafr ar y Gogarth, a rhai yng Nghraig y Don.

Roedd Cynllun Rheoli Geifr Gwyllt Llandudno wedi cael ei gyflwyno yn 2023 i fonitro a rheoli’r geifr, meddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae’r Cyngor yn dweud: “Rydyn ni weithiau’n symud y geifr dros dro yn ôl i’r Gogarth os oes yna berygl annerbyniol i les pobol neu anifeiliaid.

“Mae arwyddion am anifeiliaid gwyllt yn eu lle i rybuddio gyrwyr fod anifeiliaid yn debygol o fod ar y ffordd.”

Mae’n debyg bod pâr o eifr wedi cael eu rhoi i’r Uwchfrigadydd Syr Savage Lloyd Mostyn gan y Frenhines Victoria. Roedd y geifr yn cael eu cadw yn Neuadd Gloddaeth yn wreiddiol, ac wedi cael eu rhyddhau i’r Gogarth wedyn.