Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Trio dod o hyd i dŷ rhent yn “amhosib” meddai cerddor
- Gweithwyr dur Port Talbot am streicio am y tro cyntaf ers 40 mlynedd
- Gwobrau Dewi Sant: Bachgen oedd wedi achub dyn ifanc yn un o’r enillwyr
- Cyhoeddi lein yp Tafwyl 2024
Trio dod o hyd i dŷ rhent yn “amhosib” meddai cerddor
Mae trio dod o hyd i dŷ i’w rentu yn “amhosib” – dyna beth mae cerddor sy’n chwilio am dŷ ym Mlaenau Ffestiniog yn dweud.
Mae Ceri Cunnington yn aelod o’r band Anweledig. Mae o rŵan yn gweithio i Gwmni Bro Ffestiniog.
Mae o newydd ddychwelyd i fyw i bentref Tanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog, ac yn ceisio dod o hyd i dŷ rhent.
“Ti’n sôn am rhwng £600 a £700 am dŷ dwy lofft. Gen i ddwy o ferched, felly mae o’n anodd,” meddai Ceri Cunnington.
“Dw i newydd ddod yn ôl o gyfweliad efo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i chwilio am dŷ yn Rhyd, Llanfrothen. Tŷ bach tair llofft, ac roedden nhw’n dweud bod dros gant wedi ymgeisio am y tŷ a’u bod nhw wedi rhoi o lawr i restr fer o chwech.”
Yn 2022, roedd Blaenau Ffestiniog yn un o’r llefydd gyda’r nifer uchaf o AirBnbs yng ngwledydd Prydain.
“Fedrith o ddim parhau fel hyn, neu mae ein cymunedau ni’n mynd i farw,” meddai Ceri Cunnington
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog ar 4 Mai. Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy o bwerau i gynghorau i gynyddu’r premiwm treth gyngor o 300% ar ail gartrefi a thai gwag hirdymor.
Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn poeni nad yw Llywodraeth Cymru’n deall maint yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg. Yn y rali byddan nhw’n galw am ‘Ddeddf Eiddo Dim Llai’. Mae’r ddeddf yn galw am roi’r pŵer i awdurdodau lleol gynllunio ar gyfer pobol leol.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y dylai pawb all cael cartref fforddiadwy, addas i’w rentu neu ei brynu yn eu cymunedau fel eu bod nhw’n gallu gweithio a byw yn lleol. Maen nhw’n cymryd “camau radical” i drio delio efo’r broblem.
Gweithwyr dur Port Talbot am streicio am y tro cyntaf ers 40 mlynedd
Mae 1,500 o weithwyr dur Tata ym Mhort Talbot a Llanwern yng Nghasnewydd wedi pleidleisio o blaid streicio.
Dyma’r tro cyntaf ers 40 mlynedd i weithwyr dur Port Talbot fynd ar streic.
Maen nhw’n gwrthwynebu cynlluniau Tata i gael gwared a 2,800 o swyddi.
Mae Tata eisiau cynhyrchu dur mewn ffordd sy’n well i’r amgylchedd. Ond mae’n golygu bod angen llai o weithwyr ym Mhort Talbot. Mae Tata eisiau cau ei ffwrneisi chwyth. Mae’n golygu bod 2,800 o swyddi yn mynd.
Sharon Graham ydy Ysgrifennydd Cyffredinol Uno’r Undeb. Mae hi’n dweud bod y penderfyniad i streicio’n “bleidlais hanesyddol”.
“Dydy gweithwyr dur heb bleidleisio i streicio fel hyn ers yr 1980au,” meddai.
Mae hi’n dweud bod Tata wedi bygwth y gweithwyr – os ydyn nhw’n mynd ar streic fyddan nhw’n colli eu pecynnau diswyddo gwell, meddai Sharon Graham.
Mae’r undeb yn dweud eu bod nhw eisiau helpu’r frwydr i achub y diwydiant dur yng Nghymru. Bydd dyddiadau’r streiciau yn cael eu cyhoeddi yn fuan.
Mae Tata yn dweud eu bod yn “siomedig” gyda’r penderfyniad i streicio.
Gwobrau Dewi Sant: Bachgen oedd wedi achub dyn ifanc yn un o’r enillwyr
Mae bachgen yn ei arddegau o Rondda Cynon Taf yn un o’r enillwyr yng Ngwobrau Dewi Sant eleni.
Mae’r gwobrau yn dathlu pobl o bob rhan o Gymru sydd wedi’u henwebu mewn categorïau gan gynnwys dewrder, busnes ac ysbryd cymunedol.
Roedd Callum Smith, o Borth wedi achub dyn ifanc oedd ar fin lladd ei hun.
Roedd Callum yn cerdded dros bont droed uwchben ffordd osgoi brysur pan welodd y dyn mewn trafferthion.
Roedd Callum wedi siarad gyda’r dyn cyn ei ddal nes i’r heddlu gyrraedd a chymryd drosodd.
Roedd y beirniaid wedi canmol Callum gan ddweud ei fod wedi dangos dewrder a arweiniodd at achub bywyd.
Ymhlith yr enillwyr eraill roedd y cyn Is-bostfeistr Alan Bates. Cafodd Wobr Arbennig y Prif Weinidog am arwain yr ymgyrch i ddatgelu sgandal TG Horizon Swyddfa’r Post.
Roedd Gwobr Arbennig hefyd i Windrush Cymru Elders. Cafodd y grŵp ei sefydlu yn 2017 fel rhan o Race Council Cymru i edrych ar bryderon henoed ethnig leiafrifol.
Roedd y seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Dywedodd y Prif Weinidog, Vaughan Gething: “Am ffordd wych o ddechrau fy nghyfnod fel Prif Weinidog – cwrdd â’r grŵp gwych hwn o bobl hynod dalentog a dewr.”
Cyhoeddi lein yp Tafwyl 2024
Mae gŵyl Tafwyl wedi cyhoeddi pa artistiaid fydd yn cymryd rhan yn yr ŵyl eleni.
Eden, Fleur de Lys, Al Lewis, Celt, Rio 18 ac Yws Gwynedd a’i fand ydy prif artistiaid yr ŵyl gerddoriaeth eleni.
Mae’r trefnwyr hefyd wedi dweud y bydd “sawl elfen newydd cyffrous” eleni.
Fe fydd Tafwyl yn cael ei chynnal ar benwythnos 13-14 Gorffennaf ym Mharc Bute yng Nghaerdydd.
Mae’r ŵyl yn cael ei threfnu gan Fenter Caerdydd ac yn dathlu cerddoriaeth Gymraeg.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y trefnwyr: “Diolch i’n partneriaid Clwb Ifor Bach am ddod â’r lein-yp anhygoel yma at ei gilydd.
“Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru fydd sawl elfen newydd cyffrous yn Tafwyl eleni.”
Fe fydd Eden yn perfformio nos Sul, Gorffennaf 14. Mae’r trefnwyr yn annog pobl i ddysgu geiriau eu sengl newydd Gwrando gafodd ei rhyddhau ddoe (Dydd Gwener, 12 Ebrill).