Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Tri gweithiwr dyngarol o Brydain wedi’u lladd yn Gaza
  • Cleifion ADHD sydd wedi cael diagnosis preifat yn gorfod talu am feddyginiaeth
  • Tafarn y Vulcan yn Sain Ffagan yn agor ei drysau unwaith eto
  • Atyniad antur newydd ar do Stadiwm Principality yn agor ddiwedd y mis

Y difrod yn Gaza

Tri gweithiwr dyngarol o Brydain wedi’u lladd yn Gaza

Cafodd tri gweithiwr dyngarol o Brydain eu lladd yn Gaza ddechrau’r wythnos.

Roedd John Chapman, James Henderson a James Kirby ymhlith saith o weithwyr elusen gafodd eu lladd mewn ymosodiad gan Israel ddydd Llun.

Roedden nhw’n gweithio i elusen World Central Kitchen (WCK).

Roedd y pedwar arall fu farw yn dod o Awstralia, Gwlad Pwyl, Palestina ac o’r Unol Daleithiau a Chanada.

Roedd y gweithwyr yn teithio mewn cerbydau oedd yn dangos yn glir mai gweithwyr dyngarol oedden nhw.

Cawson nhw eu taro wrth adael warws Deir al-Balah. Roedden nhw wedi bod yn dadlwytho 100 tunnell o fwyd.

Erin Gore ydy Prif Weithredwr y World Central Kitchen. Mae hi’n dweud bod “bwyd yn cael ei ddefnyddio fel arf yn y rhyfel,” sy’n “anfaddeuol”.

Mae gwaith y World Central Kitchen wedi dod i ben am y tro.

Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi galw am ymchwiliad.

Mae Benjamin Netanyahu, Prif Weinidog Israel, yn dweud bod yr ymosodiad yn “anfwriadol“.

Dywedodd mewn neges fideo bod “achos trasig pan darodd ein lluoedd bobl ddiniwed yn anfwriadol ar Lain Gaza. Mae’n digwydd mewn rhyfel.”

Dywedodd y bydd Israel yn gwneud “popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr nad yw hyn yn digwydd eto.”

Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Yr Arglwydd Cameron wedi siarad gydag Ysgrifennydd Tramor Israel, Israel Katz. Mae wedi dweud bod marwolaethau’r gweithwyr dyngarol yn “gwbl annerbyniol“.

Liz Saville Roberts ydy arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan. Mae hi’n dweud nad oes “dim cyfiawnhad” dros ladd gweithwyr dyngarol yn Gaza.


Cleifion ADHD sydd wedi cael diagnosis preifat yn gorfod talu am feddyginiaeth

Mae llawer o gleifion ADHD yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis preifat yn dweud eu bod yn gorfod talu am feddyginiaeth.

Mae nifer o bobl yn cael diagnosis preifat am fod rhestrau aros hir yn y Gwasanaeth Iechyd. Maen nhw’n dechrau eu triniaeth trwy dalu i weld meddygon preifat. Ond pan maen nhw wedyn yn trio cael gofal gan eu meddyg teulu o dan y Gwasanaeth Iechyd, mae llawer yn cael eu gwrthod.

Mae ADHD yn gallu achosi problemau canolbwyntio neu aflonyddwch.

Mae ITV Cymru yn dweud bod mwy o feddygon teulu yng Nghymru nag yng ngweddill gwledydd Prydain yn gwrthod rhannu gofal cleifion ADHD gyda meddygon preifat.

Mae’n gallu cymryd hyd at 10 mlynedd a hanner i gael asesiad ADHD drwy’r Gwasanaeth Iechyd, meddai ADHD UK.

Yng Nghymru, dim ond 19% o bobol gafodd eu derbyn i gael gofal gan eu meddyg teulu, yn ôl arolwg gan ADHD UK ar ran ITV Cymru.

Yn Lloegr, roedd y ffigwr yn 58%, 38% yng Ngogledd Iwerddon, a 29% yn yr Alban.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod hyn yn “anghyfiawn”.

James Evans ydy llefarydd iechyd meddwl y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae’n dweud: “Mae dros 9,000 o blant yng Nghymru yn aros am asesiad awtistiaeth neu ADHD yng Nghymru. Mae’r disgwyl yn achosi pryder i rieni.

“Mae’n anffodus ein bod ni nawr yn gweld y cleifion ADHD hyn yn cael eu gorfodi i dalu am feddyginiaeth oherwydd rhestrau aros hir y GIG – a GIG Cymru’n gwrthod cydnabod asesiadau ADHD preifat.

“Nawr yw’r amser i’r Llywodraeth Lafur sicrhau bod GIG Cymru’n cydnabod y rhai sydd wedi cael asesiadau ADHD preifat.”

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod nhw’n gweithio i wella darpariaeth gwasanaethau ADHD i oedolion.


Gwesty’r Vulcan yn Sain Ffagan

Tafarn Y Vulcan yn Sain Ffagan yn agor ei drysau unwaith eto

Bydd tafarn Y Vulcan yn Sain Ffagan yn croesawu eu cwsmeriaid cyntaf fis nesaf.

Bydd yn agor ei drysau unwaith eto am y tro cyntaf ers 2012.

Cafodd Y Vulcan ei hagor yn wreiddiol yn 1853. Roedd y Vulcan ar Adam Street, Newtown yng nghymuned Wyddelig Caerdydd. Roedd wedi cau ei drysau yn 2012.

Roedd ymgyrch i geisio achub y dafarn. Cafodd yr adeilad ei gynnig i Amgueddfa Cymru gan y perchnogion.

Mae Gwesty’r Vulcan yn un o fwy na 40 adeilad sydd wedi cael eu hailgodi yn Sain Ffagan.

Mae tîm o arbenigwyr adeiladau hanesyddol wedi ail-greu’r dafarn fel yr oedd yn 1915.

Roedd yn flwyddyn bwysig iawn i’r dafarn. Cafodd teils brown a gwyrdd eu rhoi ar flaen yr adeilad a chafodd yr ystafelloedd eu hailwampio.

Pan fydd hi’n agor i’r cyhoedd, bydd y Vulcan yn gwerthu cwrw sydd wedi cael ei fragu’n arbennig gan Glamorgan Brewing Co ac Amgueddfa Cymru.

Bethan Lewis ydy Pennaeth Amgueddfa Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae hi’n dweud eu bod nhw’n “edrych ymlaen at agor Gwesty’r Vulcan ym mis Mai. Dyn ni’n gwybod cymaint mae pobol wedi bod yn edrych ymlaen at weld y dafarn yn agor yn Sain Ffagan.”

Mae 500,000 o ymwelwyr yn mynd i Sain Ffagan bob blwyddyn.


Bydd yr atyniad SCALE yn agor yn Stadiwm Principality Caerdydd fis Ebrill

Atyniad antur newydd ar do Stadiwm Principality yn agor ddiwedd y mis

Bydd atyniad newydd o’r enw SCALE yn agor ar do Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ar Ebrill 29.

Mae’r adeilad yn fwyaf enwog am fod yn gartref i dîm rygbi Cymru.

Y gobaith ydy y bydd yr atyniad yn denu cynulleidfa newydd i’r adeilad.

Mae’r atyniad yn digwydd yr un pryd â dathliadau 25 mlynedd Stadiwm Principality.

Mae’r atyniad yn rhan o bartneriaeth gyda Wire & Sky. Maen nhw’n arbenigwyr antur.

Bydd SCALE yn cynnwys nyth 60 metr uwchben y stadiwm gyda golygfeydd o’r ddinas.

Atyniad arall yw’r Wifren, sef gwifren zipline sy’n gwibio ar hyd nenfwd y stadiwm.

Bydd y Gwyll yn rhoi cyfle i bobl neidio yn ôl i lawr o do’r stadiwm i’r ddaear.

Abi Tierney ydy Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru. Mae hi’n dweud bod yr atyniadau newydd yn “ddatblygiad cyffrous iawn.”

Mae tocynnau ar werth gyda’r rhai rhataf yn costio £44 hyd at £89 am y gweithgareddau i gyd.

Dych chi’n ddigon dewr i fentro?