Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Llywodraeth Cymru am wahardd fêps untro
  • Dwsinau o weithwyr dur Tata wedi teithio i San Steffan
  • Llai nag erioed yn gwrando ar Radio Cymru
  • Agor pont newydd dros afon Dyfi

 


Llywodraeth Cymru am wahardd fêps untro

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n mynd i wahardd fêps untro.

Maen nhw hefyd yn mynd i godi’r oedran ysmygu a chyfyngu ar werthu fêps.

Mae nifer y bobl ifanc rhwng 11 ac 17 oed sy’n defnyddio fêps tafladwy wedi treblu.

Mae’r elusen ASH Cymru wedi bod yn cynnal ymgynghoriad. Mae’n dangos bod 20% o bobol ifanc Cymru yn dweud eu bod nhw wedi defnyddio e-sigaret. Mae 13% yn dweud eu bod nhw wedi trio e-sigarets fwy nag unwaith.

Mae ASH Cymru yn dweud bod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn “gam pwysig iawn”.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i gyflwyno Bil Tybaco a Fêpiau yn fuan.

Byddai hyn yn golygu bod unrhyw un sydd wedi’i eni ar, neu ar ôl, 1 Ionawr 2009 ddim yn gallu prynu cynnyrch tybaco yn y dyfodol.

Bydd cyfyngiad hefyd ar flasau fêps, ei becynnau, a lle maen nhw’n cael eu gwerthu fel rhan o’r Bil newydd.

Louise Elliott ydy Pennaeth Polisi ASH Cymru. Mae hi’n dweud ei bod yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gefnogi strategaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae’r holl bil yn stopio pobol rhag dechrau ysmygu, yn cefnogi ysmygwyr i roi’r gorau iddi, ond hefyd mae e’n edrych ar warchod plant gan daclo ysmygu ymysg pobl ifanc.

“Y broblem i blant gyda fêpio ydy ei fod o’n gaethiwed i nicotin, a dydyn ni ddim eisiau i’n plant ni ddod yn gaeth i rywbeth fel nicotin.”


Y ffwrnais yn y nos
Y ffwrnais ym Mhort Talbot

Dwsinau o weithwyr dur Tata wedi teithio i San Steffan

Roedd dwsinau o weithwyr durTata wedi teithio i San Steffan ddydd Mercher (Ionawr 31).

Roedd swyddogion cwmni Tata Steel yn cael eu holi gan Aelodau Seneddol. Mae’n dilyn penderfyniad y cwmni i gau ffwrneisi ym Mhort Talbot.

Bydd 2,800 o swyddi yn cael eu colli yn y gwaith dur, a 300 o swyddi eraill yn diflannu yn y dyfodol.

Roedd gwleidyddion ac arweinwyr undebau hefyd yn mynd o flaen y Pwyllgor Materion Cymreig.

Mae Tata eisiau cynhyrchu dur mewn ffordd sy’n well i’r amgylchedd. Mae hyn yn golygu bydd angen llai o weithwyr ym Mhort Talbot.

Mae Tata yn dweud ei fod yn colli £1 miliwn y dydd. Mae’n dweud y bydd y newid i gynhyrchu dur glanach yn arbed miloedd o swyddi.

Rhaid “gweithredu nawr”, meddai Tata.

Dywedodd prif weithredwr y cwmni TV Narendran eu bod nhw wedi buddsoddi biliynau o bunnoedd ym Mhort Talbot dros y 15 mlynedd ddiwethaf. Ond dywedodd bod “rhaid gwneud penderfyniadau” nawr.

Bydd y ffwrnais newydd yn lle’r ddwy ffwrnais chwyth yn sicrhau fod y safle yn parhau i gynhyrchu dur, meddai.

Roedd yr undebau eisiau cadw un ffwrnais chwyth yn gweithio tra bod yr un newydd yn cael ei hadeiladu ond mae Tata wedi gwrthod y cynlluniau.


Logo Radio CymruLlai nag erioed yn gwrando ar Radio Cymru

Mae llai o bobol nag erioed o’r blaen yn gwrando ar BBC Radio Cymru erbyn hyn.

Mae’r ffigwr ar gyfer ail hanner 2023 wedi gostwng o dan 100,000 am y tro cyntaf.  Mae Rajar, y corff sy’n casglu ystadegau gwrando, wedi cofnodi 95,000 o wrandawyr.

Mae’r ffigwr 7,000 yn is na’r tri mis blaenorol, a 40,000 yn is na’r un cyfnod yn 2022.

Ond mae’r ffigurau’n dangos bod oriau gwrando wedi codi – tua 12 awr y pen ar gyfartaledd.

Mae BBC Cymru yn dweud fod Radio Cymru’n “parhau i fod yn ddewis poblogaidd ymhlith siaradwyr Cymraeg”.

Mae llefarydd yn dweud eu y byddan nhw’n “dadansoddi’r ffigurau yn fanwl… gan edrych ar y patrymau gwrando sydd wedi datblygu dros y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf”.

Maen nhw’n dweud bod y ffyrdd mae pobl yn gwrando ar y radio “yn newid”. Mae BBC Cymru’n dweud bod mwy na 2.1m o geisiadau i wrando ar gynnwys digidol drwy BBC Sounds.


Y bont newydd dros Afon Dyfi

Agor pont newydd dros afon Dyfi

Mae pont dros afon Dyfi ger Machynlleth wedi agor i’r cyhoedd am y tro cyntaf.

Roedd disgwyl i’r bont agor yn ystod y gwanwyn y llynedd ond cafodd ei ohirio oherwydd problemau cyflenwi.

Fe agorodd y bont ddydd Gwener (Chwefror 2).

Mae’r bont yn werth £46m, a bydd yn cael ei defnyddio gan gerbydau a cherddwyr.

Mae’r bont yn ymestyn dros 1.2km o ogledd Machynlleth i lawr at yr A487 i’r de o Fachynlleth.

Bydd yn cymryd lle’r hen bont. Roedd llifogydd ar y bont yn aml.

Lee Waters ydy’r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth.

Mae’n dweud: “Roeddwn yn falch iawn o fod ymhlith y grŵp cyntaf o bobol ar feiciau i fanteisio ar y llwybr beicio a cherdded newydd sydd wedi’i integreiddio’n llawn i’r bont newydd.”

Mae’n rhan o rwydwaith teithio llesol ehangach sy’n cael ei ddatblygu yn ardal Machynlleth, meddai.

‌“Mae hyn yn dangos sut y gallwn ei gwneud hi’n haws cerdded a beicio yng nghefn gwlad Cymru, yn ogystal ag yn ein trefi a’n dinasoedd.”

Mae’r cwmni oedd wedi adeiladu’r bont yn dweud ei fod yn falch i weld y bont yn agor a bod y cynllun wedi bod yn “her dechnegol”.