Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Biwmares: Tri pherson wedi marw mewn gwrthdrawiad
- Mwy o drenau yn y gogledd rhwng Llandudno a Lerpwl
- Oasis yn ail-ffurfio ac yn perfformio yng Nghaerdydd
- Seremoni agoriadol y Gemau Paralympaidd ym Mharis
Tri pherson wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Miwmares
Roedd tri pherson wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Miwmares, Ynys Môn ddydd Mercher (28 Awst).
Cafodd y gwasanaethau brys a dau ambiwlans awyr eu galw i Stryd Alma wrth ymyl y pier yn y dref am 2.45pm ddydd Mercher.
Roedd y gwrthdrawiad wedi bod rhwng car Audi A8 a cherddwyr.
Roedd tri pherson wedi marw yn y digwyddiad.
Mae Heddlu’r Gogledd yn dweud mai gyrrwr y car a dau gerddwr oedd wedi marw. Roedd gyrrwr y car yn ei 80au ac yn byw yn lleol. Roedd y cerddwyr fu farw yn ddyn a dynes yn eu 60au. Doedden nhw ddim yn lleol.
Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd wedi gweld y digwyddiad.
Llinos Medi ydy AS Plaid Cymru dros Ynys Môn. Mae hi’n dweud bod y digwyddiad wedi “ysgwyd y gymuned ym Miwmares ag ar yr ynys i gyd”.
Rhun ap Iorwerth ydy arweinydd Plaid Cymru, sydd hefyd yn Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn. Mae’n dweud bod hyn yn “newyddion torcalonnus ac mae fy nghydymdeimlad gyda’r rhai sydd wedi eu heffeithio, a’u hanwyliaid.”
Mwy o drenau yn y gogledd rhwng Llandudno a Lerpwl
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd mwy o drenau yn y gogledd rhwng Llandudno a Lerpwl.
Bydd tri thrên yr awr, yn lle dau. Byddan nhw’n teithio ar y brif linell rhwng Llandudno a Lerpwl fel rhan o’r cynlluniau newydd.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bydd gwasanaethau trenau’r gogledd yn cynyddu 50% erbyn 2026.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys cau pedair croesfan reilffordd, dwy ger Prestatyn a dwy ger Pensarn. Mae hyn er mwyn i drenau allu mynd yn gyflymach.
Trafnidiaeth Cymru a Network Rail sy’n gwneud y gwaith. Mae’n rhan o fuddsoddiad o £800m mewn trenau newydd ar draws Cymru.
Ken Skates ydy Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru. Mae’n dweud: “Dw i’n falch iawn bod gennym bellach gynlluniau cadarn ar waith i gyflawni’r cynnydd enfawr hwn mewn capasiti rheilffyrdd ar gyfer gogledd Cymru.”
Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud y bydd y newidiadau yma yn y dyfodol “yn ein helpu i wella profiad y cwsmer.”
Dydy hi ddim yn glir eto a fydd y cynllun gafodd ei gyhoeddi gan y llywodraeth Geidwadol i drydaneiddio’r llinell yn mynd yn ei flaen dan y Llywodraeth Lafur.
Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am isadeiledd y rheilffyrdd yng Nghymru, gan nad yw wedi’i ddatganoli.
Oasis yn ail-ffurfio ac yn perfformio yng Nghaerdydd
Mae’r band Oasis wedi dweud y byddan nhw’n ail-ffurfio’r flwyddyn nesaf.
Byddan nhw’n mynd ar daith o gwmpas y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Roedd Oasis wedi dod i ben yn 2009 ar ôl ffrae rhwng y brodyr Noel a Liam Gallagher.
Fe fydd gigs cyntaf Oasis yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.
Fe fydd y band yn perfformio ym Manceinion, Caeredin, Llundain a Dulyn hefyd.
Gan fod cymaint o alw am docynnau, roedd rhai yn credu byddai Oasis yn perfformio mewn gwyliau dros yr haf, fel Glastonbury. Ond mae Oasis wedi dweud byddan nhw ddim yn perfformio mewn unrhyw wyliau yn 2025.
Mae’n debyg y bydd Noel a Liam Gallagher yn perfformio gydag aelodau’r band High Flying Birds, sef band Noel, yn lle aelodau gwreiddiol eraill Oasis.
Mae’r daith yn cyd-fynd â phen-blwydd yr albwm Definitely Maybe yn 30 oed.
Byddan nhw’n dechrau eu taith yng Nghaerdydd, gyda dwy noson ar 4 a 5 Gorffennaf.
Bydd tocynnau’n mynd ar werth ar wefannau Ticketmaster, Gigs and Tours a See Tickets am 9 o’r gloch bore ma (Dydd Sadwrn, 31 Awst).
Seremoni agoriadol y Gemau Paralympaidd ym Mharis
Mae’r Gemau Paralympaidd wedi dechrau ym Mharis gyda seremoni agoriadol nos Fercher (29 Awst).
Roedd athletwyr o 168 o wledydd wedi cymryd rhan yn y Seremoni Agoriadol.
Cafodd y brif seremoni ei chynnal ar y Place de la Concorde. Roedd gorymdaith rhwng yr Arc de Triomphe a’r Champs-Élysées.
Roedd torf o tua 35,000 wedi dod i wylio’r seremoni.
Roedd 500 o bobl yn perfformio yn y digwyddiad.
Dechreuodd y cystadlu ddydd Iau (29 Awst), a bydd yn dod i ben ddydd Sul 8 Medi.
Mae 215 o athletwyr yn cynrychioli tîm Prydain a Gogledd Iwerddon gyda 22 o athletwyr o Gymru.