Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Disgyblion Lefel A yn cael eu canlyniadau
  • Targedu enwau Saesneg yn Sir Ddinbych
  • Un o gerrig Côr y Cewri wedi dod o’r Alban, nid Cymru

Disgyblion Lefel A yn cael eu canlyniadau

Roedd miloedd o ddisgyblion wedi cael eu canlyniadau Lefel A yr wythnos hon.

Yng Nghymru mae’r graddau uchaf wedi gostwng am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Roedd canran y graddau A ac A* yn 29.9% eleni –  roedd yn 34% yn 2023.

Er hyn, mae’r canlyniadau yn uwch na chyn y pandemig Covid-19. Roedd canran y graddau A-A* yn 26.5% bryd hynny.

Eleni, roedd Cymru wedi mynd yn ôl i’r safonau cyn y pandemig.

Mae Cymwysterau Cymru yn dweud bod “myfyrwyr yn perfformio’n dda”.

Mae canlyniadau Lefel A Cymru yn dangos bod 97.4% o fyfyrwyr wedi cael graddau A*- E.

Roedd 10.1% wedi cael gradd A*, a 29.9% wedi cael graddau A*-A.

Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru:

“Da iawn i bawb sydd wedi cael eu canlyniadau heddiw, llongyfarchiadau. Mae canlyniadau yn garreg filltir sylweddol ym mywydau dysgwyr, a bydd llawer yn edrych ymlaen at eu camau nesaf – tuag at waith, prentisiaeth, neu addysg uwch.

“Mae’r canlyniadau hyn yn dangos gwytnwch y dysgwyr yng Nghymru yn glir ac hefyd ymrwymiad y rhai sy’n paratoi ac yn cefnogi dysgwyr trwy eu hastudiaethau.”


Yr arwyddion gafodd eu targedu gan Eryr Wen

Targedu enwau Saesneg yn Sir Ddinbych

Mae enwau Saesneg ar arwyddion ffyrdd yn Sir Ddinbych wedi cael eu targedu yn ystod protest.

Mae Eryr Wen yn grŵp ieuenctid dros annibyniaeth. Mae’r grŵp wedi dweud mai nhw oedd wedi paentio dros fersiynau Saesneg o enwau lleoedd Cymraeg ar arwyddion ffyrdd.

Fe wnaeth y protestwyr dargedu’r enwau Saesneg ‘St Asaph’, ‘Ruthin’ a ‘Denbigh’.

Roedd Eryr Wen wedi postio lluniau o’r brotest ar Instagram ddydd Sul (Awst 11). Maen nhw’n dweud bod hyn yn ffordd o amddiffyn eu cenedl er mwyn ymgyrchu dros annibyniaeth.

Mae Eryr Wen yn “fudiad a chymuned sydd wedi’u chreu gan yr ieuenctid, ar gyfer yr ieuenctid”, medden nhw.

Mae Eryr Wen yn dweud eu bod yn gweithredu’n debyg i ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith yn y 1960au a’r ’70au. Roedd enwau fel ‘Carnarvon’, ‘Portmadoc’, ‘Dolgelley’ a ‘Conway’ wedi cael eu newid i’r enwau Cymraeg ar ôl ymgyrch Cymdeithas yr Iaith.

Mae Eryr Wen wedi dweud wrth nation.cymru: “Fel sy’n digwydd yn aml, mae llawer o’r enwau sy’n cael eu targedu yn gwbl ddiangen a diystyr, gan eu bod nhw ond ychydig yn wahanol i’r enwau Cymraeg gwreiddiol.

“Efallai y bydd rhai’n ceisio dadlau, oherwydd nad yw’r rhan fwyaf o Gymru’n gallu siarad yr iaith yn rhugl ar hyn o bryd, nad yw’n deg nac yn briodol dad-Saesnegeiddio’r enwau. Ond mae hyn yn nonsens llwyr.”


Côr y Cewri

Un o gerrig Côr y Cewri wedi dod o’r Alban, nid Cymru

Mae ymchwil newydd yn dangos bod y ‘garreg las’ fwyaf sydd yng nghanol Côr y Cewri wedi dod o’r Alban, nid o Gymru.

Ers 100 mlynedd, y gred oedd bod y garreg wedi dod o Gymru.

Mae Maen yr Allor yn pwyso chwe thunnell.

Ond mae astudiaeth o’r garreg yn dangos ei bod yn debyg i gerrig yng ngogledd ddwyrain yr Alban.

Dechreuodd y gwaith o adeiladu Côr y Cewri 5,000 o flynyddoedd yn ôl.  Nid yw’n glir pryd oedd Maen yr Allor wedi cael ei gosod gyda’r cerrig eraill. Mae’n bosib ei bod wedi cyrraedd yn ddiweddarach, tua 2620 i 2480 CC.

Roedd y rhan fwyaf o ‘gerrig gleision’ Côr y Cewri wedi dod o ardal Mynyddoedd y Preseli yng ngorllewin Cymru. Y gred yw mai nhw oedd y cerrig cyntaf i’w codi ar y safle yn Swydd Wilton.

Mae Maen yr Allor yn fath gwahanol o garreg ond y gred oedd ei bod wedi dod o’r un ardal a’r cerrig eraill.

Ond dechreuodd arbenigwyr gwestiynu hyn 20 mlynedd yn ôl.

Roedd ymchwilwyr wedi dweud y llynedd nad oedd hi’n bosib bod Maen yr Allor wedi dod o Gymru. Ond roedd dal yn ddirgelwch o le’r oedd wedi dod.

Mae’r darganfyddiad newydd yn awgrymu bod y garreg wedi’i symud o leiaf 700km, neu 435 milltir, a bod cerrig o bob rhan o wledydd Prydain wedi’u defnyddio.

Cafodd yr ymchwil ei arwain gan Anthony Clarke. Mae e’n fyfyriwr doethuriaeth o Gymru sy’n gweithio ym MhrifysgolCurtin yn Awstralia.

Mae e’n dweud bod hyn yn codi cwestiynau am sut roedd carreg enfawr wedi cael ei chludo mor bell. Mae’n bosib ei bod wedi cael ei chludo ar y môr, meddai.

“Mae’r garreg hon wedi teithio’n bell iawn – o leiaf 700 km – a dyma’r daith hiraf sydd wedi’i chofnodi yn y cyfnod hwnnw,” meddai’r Athro Nick Pearce o Brifysgol Aberystwyth.

“Mae’r pellter wnaeth e deithio yn rhyfeddol o ystyried hynny.

“Bydd gan y canfyddiadau hyn oblygiadau enfawr ar gyfer deall cymunedau yn y cyfnod Neolithig, sut oedden nhw’n gysylltiedig, a’u systemau trafnidiaeth.”