Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf
  • Wylfa ar Ynys Môn yw’r dewis cyntaf am orsaf bŵer niwclear newydd
  • Ysgol Dyffryn Aman: Cadw merch, 14, mewn uned ddiogel i bobol ifanc
  • Dros 100,000 yn cystadlu yn yr Urdd am y tro cyntaf

Papur pleidleisio'n cael ei roi yn y blwch

Etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf

Mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi dweud y bydd etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf.

Fe wnaeth y datganiad y tu allan i Rif 10 Downing Street.

Roedd wedi gofyn i’r Brenin Charles ddiddymu’r senedd yn San Steffan ddydd Mercher (22 Mai).

Roedd Rishi Sunak wedi son am y blynyddoedd anodd sydd wedi bod, gan gynnwys y pandemig Covid-19 a chostau ynni uchel oherwydd y rhyfel yn Wcráin.

Dywedodd ei fod yn falch o’r hyn mae ei lywodraeth wedi’i gyflawni.  Ond dywedodd nad ydyn nhw wedi gwneud popeth yn iawn. Mae Rishi Sunak wedi dweud nad yw ei lywodraeth eisiau achosi ansefydlogrwydd economaidd.

Ymateb yng Nghymru

Andrew RT Davies ydy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Mae’n dweud bod cynllun economaidd y Blaid Geidwadol “yn gweithio”.

Dywedodd bod “record Llafur yng Nghymru’n rhybudd cryf i weddill y Deyrnas Unedig.”

Rhun ap Iorwerth ydy arweinydd Plaid Cymru. Mae’n dweud fod ei blaid “yn barod i ymladd am degwch i Gymru”.

“Mae’r Torïaid wedi chwalu’r economi ac mae pobol yn talu’r pris.

“Mae Llafur, ar y llaw arall, yn cymryd Cymru’n ganiataol. Bydd dim un o bleidiau Llundain yn rhoi Cymru’n gyntaf. Dim ond Plaid Cymru fydd yn mynnu tegwch i Gymru.

Mewn neges ar X, dywedodd Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, fod “pobol ledled Cymru’n galw am newid llywodraeth, dod ag anhrefn y Torïaid i ben, a dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio – dros Gymru a thros Brydain,” meddai.

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n dweud ei bod hi’n “hen bryd i bobl gael dweud eu dweud o ran pwy sy’n rhedeg y wlad.

“Ar ôl misoedd o ddyfalu a sïon, o’r diwedd mae Rishi Sunak wedi penderfynu wynebu’r gwirionedd drwy alw etholiad cyffredinol yr haf yma,” meddai’r arweinydd Jane Dodds.

“Dyma gyfle i’r etholwyr anfon neges i San Steffan a Bae Caerdydd eu bod nhw am weld newid ystyrlon.

“Nid yn unig mae hwn yn gyfle i daflu’r Ceidwadwyr allan o San Steffan, ond hefyd mae’n gyfle i ni anfon neges at Lywodraeth Lafur Cymru na fydd Cymru’n goddef eu nonsens lawer hirach.”


Safle Wylfa yn Ynys Mon

Wylfa ar Ynys Môn yw’r dewis cyntaf am orsaf bŵer niwclear newydd

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud mai Wylfa ar Ynys Môn yw eu dewis cyntaf ar gyfer adeiladu gorsaf bŵer niwclear.

Roedd y llywodraeth wedi prynu’r safle am £160m gan Hitachi ym mis Mawrth eleni. Roedd cwmni Hitachi o Japan eisiau adeiladu atomfa newydd, ond daeth y cynlluniau i ben yn 2020.

Mae’r Llywodraeth rŵan yn siarad efo cwmnïau ynni rhyngwladol am adeiladu gorsaf newydd yn Wylfa. Mae adroddiadau bod cwmni Kepco o Dde Corea yn un o’r cwmnïau sydd wedi bod yn siarad efo’r Llywodraeth.

Mae atomfa wedi bod yn Wylfa ers dechrau’r 1970au. Does dim ynni wedi cael ei gynhyrchu yn hen atomfa Wylfa ers 2015.

Claire Coutinho ydy Ysgrifennydd Ynni’r DU. Mae hi’n dweud y bydd gorsaf newydd yn Wylfa yn cynnig “miloedd o swyddi gyda chyflogau da”.

Mae’r Llywodraeth yn dweud y bydd yr orsaf newydd yn medru darparu ynni glân a rhad i chwe miliwn o gartrefi am hyd at 60 mlynedd.

Targed y llywodraeth ar hyn o bryd yw bod ynni niwclear yn darparu chwarter o holl gyflenwad ynni’r Deyrnas Unedig erbyn 2050.

Mae’r Blaid Lafur wedi rhoi croesawu’r cyhoeddiad ond bod angen sicrwydd.

Jo Stevens ydy llefarydd materion Cymreig y blaid yn San Steffan. Mae hi’n dweud fod “unrhyw gam ymlaen i’w groesawu… ond bydd pobol Ynys Môn yn ei gredu pan fyddan nhw’n ei weld e”.


Ysgol Dyffryn Aman

Ysgol Dyffryn Aman: Cadw merch, 14, mewn uned ddiogel i bobol ifanc

Mae merch 14 oed wedi bod o flaen llys wedi’i chyhuddo o geisio llofruddio tri o bobol mewn ysgol.

Roedd y ferch yn 13 oed adeg y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman ym mis Ebrill.

Aeth y ferch o flaen Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, Mai 24.

Mae hi wedi cael ei chadw mewn uned ddiogel i bobol ifanc.

Cafodd yr athrawon Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl, eu hanafu yn y digwyddiad ar Ebrill 24.

Yn ystod y gwrandawiad, fe wnaeth y ferch gadarnhau ei henw trwy gyswllt fideo o’r uned.

Bydd hi’n cael ei chadw yn yr uned tan y gwrandawiad nesaf ar Awst 12. Mae disgwyl i’r achos ddechrau ar Fedi 30.


Eisteddfod yr Urdd

Dros 100,000 yn cystadlu yn yr Urdd am y tro cyntaf

Bydd Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn yn dechrau ddydd Llun, 27 Mai.

Ac am y tro cyntaf erioed, mae dros 100,000 o blant a phobl ifanc wedi cofrestru i gystadlu yn yr Eisteddfod.

Mae disgwyl i 100,454 o blant gystadlu yn yr ŵyl ym Meifod wythnos nesa.

Llio Maddocks ydy Cyfarwyddwr y Celfyddydau gydag Urdd Gobaith Cymru. Mae hi’n dweud bod hyn yn “arwydd o sut mae’r ŵyl wedi datblygu a thyfu dros y blynyddoedd”.

Mae’r ŵyl eleni wedi gweithio gyda phum curadur ifanc i sicrhau bod gŵyl Triban – sy’n cynnwys artistiaid fel Bwncath, Eden a Cowbois Rhos Botwnnog – yn apelio at bobol ifanc.

Bydd ardal ddigidol newydd, a llwyfan newydd – ‘Sa Neb Fel Ti – sy’n rhoi cyfle i bawb ddangos eu doniau heb orfod cystadlu.

“Mae hi’n gyffrous iawn gweld wythnos Eisteddfod yr Urdd Maldwyn bron â chyrraedd ac yn wych gweld bod cymaint o frwdfrydedd wedi bod ar y cystadlu eleni,” meddai Llio Maddocks.

“Mae’r Eisteddfod yn cynnig rhywbeth i bawb; o’r cystadlu traddodiadol i gelf, crefft, colur a choginio.

“Ac mae llawer o ardaloedd ar y maes i ymlacio ac i fwynhau fel y pentref bwyd, y ffair, ardal chwaraeon, yr Arddorfa a llwyfannau Gŵyl Triban ddiwedd yr wythnos.

“Dewch draw i Faldwyn i weld diwylliant a chelfyddydau Cymru ar eu gorau.”

Bedwyr Fychan ydy cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod ym Maldwyn.

Mae’n dweud: “Mae hi’n 36 mlynedd ers y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ddod i Faldwyn a dw i mor falch o weld Eisteddfod Maldwyn 2024 yn cyrraedd o’r diwedd.

“Mae’n wych fod mwy o blant a phobol ifanc Maldwyn wedi cystadlu yn yr Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth nag erioed o’r blaen, a mwy o gystadleuwyr eleni nag yn unrhyw ranbarth arall yng Nghymru.”

Mae newid i drefn y prif seremonïau eleni, gyda phob seremoni yn cael ei chynnal ar lwyfan y Pafiliwn Gwyn am 2.30yp:

  • Dydd Llun: Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc a’r Fedal Gelf
  • Dydd Mawrth: Y Fedal Ddrama
  • Dydd Mercher: Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones
  • Dydd Iau: Y Gadair
  • Dydd Gwener: Y Goron
  • Dydd Sadwrn: Y Fedal Gyfansoddi (2yp)