Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Ymateb cymysg i’r bil i ehangu’r Senedd
  • Pryder am swyddi ym Mhrifysgol Aberystwyth
  • Aelod Seneddol Ceidwadol arall yn ymuno a Llafur
  • Gyrrwr F1 wedi’i ysbrydoli gan John Ystumllyn

 


Siambr y Senedd

Ymateb cymysg i’r Bil i ehangu’r Senedd

Mae hi’n 25 mlynedd ers sefydlu datganoli yng Nghymru’r wythnos hon.

Wrth ddathlu’r garreg filltir, mae’r Senedd wedi pleidleisio o blaid cynnig i ddiwygio’r sefydliad.

Mae’n golygu y bydd nifer Aelodau’r Senedd yn cynyddu o 60 i 96.

Fydd dim aelodau rhanbarthol ar ôl etholiadau’r Senedd yn 2026.

Bydd tymhorau’r Senedd hefyd yn cael eu newid. Bydd etholiad pob pedair blynedd o 2026 yn lle pum mlynedd.

Roedd 43 o Aelodau wedi cefnogi’r cynnig gan Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru. Dim ond 16 oedd wedi gwrthwynebu.

Mae Mick Antoniw yn dweud fod y bil yn gyfle “unwaith mewn cenhedlaeth” i “greu Senedd fodern… sydd yn cynrychioli pobol Cymru yn well”.

Rhun ap Iorwerth ydy arweinydd Plaid Cymru. Mae o’n dweud y bydd y newidiadau’n arwain at Senedd “gryfach a thecach

“Tanseilio democratiaeth”

Roedd y Ceidwadwyr wedi gwrthwynebu’r ddeddfwriaeth. Maen nhw’n dweud y bydd newidiadau yn gostus.

Andrew RT Davies ydy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Mae’n dweud mai mwy o Aelodau yn y Senedd yw’r “peth diwethaf sydd ei angen ar Gymru”.

Mae’n dweud y byddai ei blaid yn cael gwared â’r Aelodau ychwanegol yn y Senedd, ac yn gwario’r arian ar wasanaethau cyhoeddus.

Maen nhw hefyd yn gwrthwynebu’r system etholedig rhestr gaeedig. Mae’r AS Ceidwadol Darren Millar yn dweud y bydd yn “tanseilio democratiaeth.”

Mae’n dweud y bydd yn golygu bod etholwyr yng Nghymru ddim yn cael “dewis y person maen nhw eisiau iddyn nhw gynrychioli eu hardaloedd nhw.”

Jane Dodds ydy arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Mae hi’n dweud bod y newidiadau yn “gam positif” ond bod “gwaith i’w wneud o hyd.”

Mae hi’n dweud: “Mae cyflwyno rhestrau caeedig yn creu perygl o dynnu’r penderfyniad a’r dewis am bwy maen nhw eisiau eu hethol o ddwylo etholwyr.”

Bydd y Bil yn dod yn gyfraith ffurfiol ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol ddechrau mis Gorffennaf.


Prifysgol Aberystwyth

Pryder am swyddi ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae’n bosib y gall hyd at 200 o swyddi fod mewn perygl ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r brifysgol yn trio gwneud arbedion o £15m.

Mae’r is-ganghellor, yr Athro Jon Timmis, wedi dweud bod “newid sylweddol” i’r ffordd mae’r brifysgol yn gweithredu er mwyn ceisio arbed arian.

Bydd y brifysgol yn dechrau cynllun diswyddo gwirfoddol i ddechrau, meddai.

Mae’r brifysgol yn un o brif gyflogwyr yr ardal.

Maldwyn Pryse ydy dirprwy faer Aberystwyth.

Mae’n dweud: “Rydyn ni’n dref brifysgol, rydyn ni’n ymwybodol fel Cyngor Tref o’r cwmwl ar y gorwel i holl sefydliadau addysg Prydain, nid dim ond Cymru ac Aberystwyth.”

Mae’n dweud bod llawer o bethau wedi cael effaith ar y brifysgol, fel chwyddiant, Brexit, llai o recriwtio rhyngwladol, a ffioedd myfyrwyr. Mae llawer o fyfyrwyr yn gadael y brifysgol efo dyled o dros £45,000 ac mae myfyrwyr yn meddwl ddwywaith cyn mynd i brifysgol, meddai.

Ar hyn o bryd, mae gan Brifysgol Aberystwyth tua 8,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff. Mae Maldwyn Pryse yn dweud y gall unrhyw doriadau staff gael effaith ar niferoedd myfyrwyr hefyd.

“Byddai yna lai o bobol yn y dref, a llai o arian i gael ei wario mewn busnesau lleol.”

Alun Williams ydy Cynghorydd Plaid Cymru ward Morfa a Glais yn Aberystwyth.

Mae’n dweud: “Mae’r holl sector gyhoeddus, ac yn Aberystwyth mae hynny’n cynnwys y brifysgol, y Llyfrgell Genedlaethol, y Cyngor, yn dioddef yn ofnadwy oherwydd y toriadau sy’n dod o San Steffan.

Mae’n dweud bod “angen i ni weithio gyda’n gilydd i gynnal gymaint â phosib o’r hyn rydyn ni’n ei ddarparu.”


Natalie Elphicke AS

Aelod Seneddol Ceidwadol arall yn ymuno a Llafur

Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Natalie Elphicke  wedi ymuno gyda’r Blaid Lafur.

Roedd AS Deal & Dover wedi croesi’r llawr yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher (8 Mai).

Roedd y penderfyniad yn dipyn o sioc i lawer o wleidyddion o bob plaid yn San Steffan.

Hi yw’r ail Aelod Seneddol Ceidwadol i adael y blaid dros yr wythnosau diwethaf. Roedd Dan Poulter hefyd wedi gadael y blaid i ymuno â Llafur bythefnos yn ôl.

Dywedodd Natalie Elphicke  ei bod wedi “ystyried y penderfyniad yn ofalus” gan feirniadu Rishi Sunak.

Ond mae Keir Starmer wedi wynebu beirniadaeth gan aelodau ei gabinet am groesawu Natalie Elphicke  i’r blaid. Mae hi wedi beirniadu Llafur yn y gorffennol.

Roedd hi wedi galw Syr Keir Starmer yn “Syr Softie” oherwydd ei bolisïau i ddelio efo mewnfudwyr.

Mae aelodau eraill Llafur yn dweud bod croesawu Natalie Elphicke  yn “niweidio’r blaid”.


Lewis Hamilton

Gyrrwr F1 wedi’i ysbrydoli gan John Ystumllyn

Mae’r gyrrwr ceir F1 Lewis Hamilton yn dweud bod garddwr o Gymru wedi ysbrydoli ei wisg ar gyfer y Met Gala yn Efrog Newydd.

Mae’r Met Gala yn ddigwyddiad mawr yn y byd ffasiwn.

Y thema eleni oedd garddio neu arddwriaeth. Cafodd y thema ei dewis gan Anna Wintour, golygydd Vogue.

Roedd Lewis Hamilton, gyrrwr tîm rasio Mercedes, wedi talu teyrnged i stori John Ystumllyn.

Garddwr yn y ddeunawfed ganrif oedd John Ystumllyn.

Roedd hefyd yn cael ei adnabod wrth y ffugenwau Jack Du a Jack Black.

Does dim llawer o wybodaeth am ei hanes cyn cyrraedd Cymru.

Mae’n bosib ei fod wedi dod i Gymru o Orllewin Affrica neu India’r Gorllewin fel rhan o’r fasnach gaethweision. Roedd e’n wyth oed.

Aeth i fyw gyda’r teulu Wynn a gweithio fel gwas ar eu hystâd yng Nghricieth. Dyna le cafodd ei ffugenw John Ystumllyn.

Dysgodd e Gymraeg a Saesneg, a sut i fod yn arddwr. Syrthiodd mewn cariad â merch leol, Margaret Gruffydd.

Roedd y ddau wedi priodi yn 1768. Mae’n bosib mai dyma oedd y briodas hil-gymysg gyntaf yng Nghymru.

Cawson nhw saith o blant, ond roedd dau ohonyn nhw wedi marw’n ifanc.

Ar ôl gadael ei swydd, roedd John Ystumllyn wedi dychwelyd i fod yn arddwr i’r teulu Wynn. Cafodd ddarn o dir gan Ellis Wynn i ddiolch iddo am ei waith caled.

Bu farw John Ystumllyn yn 1786. Mae cofeb iddo yn Eglwys Cynhaearn Sant.

Mae rhosyn wedi cael ei enwi ar John Ystumllyn hefyd. Mae’n felyn ac yn symbol o gyfeillgarwch.