Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Prif Weinidog yr Alban yn ymddiswyddo
  • Cyhuddo dyn o lofruddio bachgen, 14, yn Llundain
  • Cyngor Celfyddydau Cymru: Colli 13 o swyddi oherwydd toriadau
  • ‘Y Llais’ yn dod i S4C
  • Dwy ardal newydd yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon

Humza Yousaf

Prif Weinidog yr Alban yn ymddiswyddo

Mae Humza Yousaf, Prif Weinidog yr Alban ac arweinydd yr SNP, wedi ymddiswyddo.

Roedd wedi ymddiswyddo ddydd Llun (Ebrill 29), ar ôl i gytundeb ei Lywodraeth SNP â’r Blaid Werdd ddod i ben.

Roedd Cytundeb Bute yn gytundeb rhwng yr SNP a’r Blaid Werdd i rannu grym.

Daeth i ben ar ôl i’r Blaid Werdd gyhuddo’r SNP o gefnu ar faterion amgylcheddol.

Heb gefnogaeth y Gwyrddion, mae’n debyg nad oedd gan Humza Yousaf ddigon o gefnogaeth i barhau i arwain llywodraeth leiafrifol.

Roedd disgwyl iddo fe wynebu dwy bleidlais o ddiffyg hyder yr wythnos hon.

“Er y byddai hi wedi bod yn gwbl bosib i fi ddod drwy’r bleidlais o ddiffyg hyder yr wythnos hon, dw i ddim yn barod i gyfnewid fy ngwerthoedd a’m hegwyddorion, neu wneud cytundebau â phwy bynnag, er mwyn cadw grym,” meddai.

Mae Humza Yousaf yn dweud y bydd yn aros yn y rôl nes y bydd arweinydd newydd i’r SNP yn cael eu penodi.

Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, wedi diolch i Humza Yousaf am gryfhau’r cyfeillgarwch rhwng y ddwy blaid.

“Mae’r achos dros annibyniaeth i’r Alban yn parhau mor gryf ag erioed, a dwi’n edrych ymlaen at symud ei achos ymlaen gydag arweinydd newydd yr SNP, yn yr un ffordd ag y mae Plaid Cymru yn parhau i wneud yr achos yng Nghymru,” meddai.

Mae John Swinney wedi dweud y bydd yn sefyll yn y ras i fod yn Brif Weinidog newydd yr Alban ac arweinydd yr SNP.

Roedd John Swinney yn ddirprwy brif weinidog o dan Nicola Sturgeon.

Mae John Swinney yn dweud ei fod eisiau uno’r Alban ar gyfer annibyniaeth.

“Rwyf am adeiladu ar waith Llywodraeth yr SNP i greu Alban fodern, amrywiol, deinamig a fydd yn sicrhau cyfleoedd i bob un o’n dinasyddion.

“Dw i eisiau uno’r SNP ac uno’r Alban ar gyfer annibyniaeth.”


Daniel Anjorin gafodd ei ladd yn Hainault, Llundain

Cyhuddo dyn o lofruddio bachgen, 14, yn Llundain

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio bachgen 14 oed yn Llundain.

Roedd Marcus Arduini Monzo, 36, wedi ymosod ar y plentyn gyda chleddyf yn Hainault ddydd Mawrth (30 Ebrill).

Roedd Daniel Anjorin wedi marw yn y digwyddiad. Cafodd pedwar o bobl eraill eu hanafu, gan gynnwys dau blismon.

Mae Heddlu’r Met yn dweud fod Marcus Arduini Monzo hefyd wedi cael ei gyhuddo o ddau achos o geisio llofruddio, dau achos o niwed corfforol difrifol, byrgleriaeth a chael llafn yn ei feddiant.

Mae Marcus Arduini Monzo wedi bod o flaen Llys Ynadon Westminster ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

 

 

 

 

 

 


Cyngor Celfyddydau Cymru: Colli 13 o swyddi oherwydd toriadau  

Mae 13 o swyddi yn cael eu colli yng Nghyngor Celfyddydau Cymru.

Mae hyn ar ôl toriadau i’w cyllideb.

Mae 11 aelod o staff wedi derbyn diswyddiad gwirfoddol. Mae dau aelod o’r Uwch Dîm Rheoli yn gadael hefyd sef Lleucu Siencyn a Richard Nicholls.

Mae Cyngor y Celfyddydau yn derbyn 10.5% yn llai o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25.

Mae’r Cyngor yn dweud eu bod wedi gwneud “arbedion sylweddol” drwy ddiswyddiadau gwirfoddol, ailstrwythuro’r Uwch Dîm Rheoli a gwneud newidiadau mewnol.

Mae’r newidiadau hefyd yn golygu y bydd hi’n cymryd yn hirach iddyn nhw wneud rhannau o’u gwaith, meddai’r corff.

Mae Cyngor y Celfyddydau yn dweud eu bod nhw’n hyderus na fydd rhaid gwneud mwy o ddiswyddiadau er mwyn arbed arian.

Mae rhai o’r gweithwyr sy’n gadael wedi bod yno ers dros ugain mlynedd.

Bydd newidiadau’n cael eu gwneud i’r ffordd maen nhw’n prosesu grantiau.

Mae’r Cyngor yn dweud eu bod wedi “gorfod gwneud penderfyniadau anodd” a bydd rhai cynlluniau yn cael llai o arian.

Oherwydd toriadau Llywodraeth Cymru, mae 90 o swyddi mewn perygl yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Mae 24 o staff wedi cymryd diswyddiad gwirfoddol yn y Llyfrgell Genedlaethol oherwydd toriadau i’w cyllid.


Fe fydd cyfres newydd sbon Y Llais yn dod i S4C.

Dyma fersiwn Gymraeg o’r rhaglen ganu The Voice.

Siân Eleri fydd yn cyflwyno’r rhaglen.

Bydd cystadleuwyr yn cymryd rhan mewn clyweliadau o flaen pedwar o artistiaid gorau Cymru yn y cadeiriau coch.

Bydd y canwr opera Bryn Terfel yn un o’r hyfforddwyr yn y cadeiriau.

Bydd enillydd y gyfres yn cael cynllun mentora am flwyddyn, a chyfle i berfformio ar raglenni S4C.

Bydd Y Llais yn cael ei darlledu’r flwyddyn nesaf.

Mae Bryn Terfel  yn dweud: “Mae’n wych bod Gwlad y Gân yn cael fersiwn arbennig ei hun o’r gyfres The Voice – pa ffordd well o ddarganfod y seren fawr nesaf?”

Er mwyn cymryd rhan yn Y Llais, rhaid cyflwyno ffurflen gais erbyn Mehefin 21. Ewch i’r wefan i wneud cais

Bydd clyweliadau cychwynnol yn digwydd ar 12 Gorffennaf yn y gogledd, ac ar 15 Gorffennaf 15 yn de.


Gwyl Fwyd Caernarfon

Dwy ardal newydd yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon

Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon 2024 yn dychwelyd i’r dref ar 11 Mai.

Bydd dwy ardal newydd sbon yn yr ŵyl eleni – Pentref Bwyd Môr, ac ardal arbennig i deuluoedd yn Dros yr Aber.

Mae hyn yn ychwanegol i’r 120 o stondinau bwyd, diod, crefft a chynnyrch lleol, a’r tri llwyfan cerddoriaeth.

Mae’r ŵyl yn rhad ac am ddim. Mae’n cael ei threfnu gan wirfoddolwyr.

Eleni, bydd Bob Delyn a’r Ebillion a Mei Gwynedd a Band Tŷ Potas yn perfformio, a pherfformwyr lleol gan gynnwys Magi Tudur a Geraint Løvgreen a’r Band. Bydd 10 o gorau lleol yn perfformio ar lwyfan y corau. Mae’r trefnwyr yn dweud bod y ddwy ardal newydd yn beth “cyffrous iawn”.