Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Llywydd y Senedd ddim yn mynd i’r coroni
  • Ymprydio tan y coroni a rhoi’r arian at fanc bwyd lleol
  • Cyngor Wrecsam yn dal i chwilio am hyfforddwr nofio Cymraeg ar ôl blwyddyn
  • Rob a Ryan yn ymarfer eu Cymraeg cyn gorymdaith yn Wrecsam

Llywydd y Senedd ddim yn mynd i’r coroni

Elin Jones ydy Llywydd y Senedd yng Nghaerdydd. Mae hi wedi dweud ei bod hi ddim yn mynd i seremoni coroni Brenin Lloegr heddiw (dydd Sadwrn, Mai 6).

“Fel gweriniaethwraig, dw i’n teimlo mai rhywbeth i eraill yw dathlu’r coroni,” meddai Elin Jones.

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yno ar ran Llywodraeth Cymru, a David Rees, y Dirprwy Lywydd ac Aelod Llafur o’r Senedd.

Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wedi dweud bod o ddim yn mynd.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud eu bod yn siomedig iawn.

Mae’r arweinydd Andrew RT Davies yn dweud bod Llywydd y Senedd “yn anwleidyddol, eu rôl yw cynrychioli Aelodau’r Senedd a phobol Cymru, yn enwedig ar achlysuron gwladwriaethol pwysig, waeth beth fo’u barn bersonol.

“Mae hwn yn benderfyniad syfrdanol a siomedig iawn gan y Llywydd.”

“Rwy’n siomedig iawn yn hyn,” meddai Alun Davies, yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Flaenau Gwent.

“Dydi’r @yLlywydd ddim yno i arfer ei rhagfarnau ei hun ond i gynrychioli ein senedd gyfan a’n cenedl.

Ond ar Twitter, dywedodd y prifardd T. James Jones, neu Jim Parc Nest, ei fod yn falch na fydd Elin Jones yn mynd.

“Diolch am ymddygiad egwyddorol,” meddai.

Roedd yr awdures Manon Steffan Ros hefyd wedi dweud ei bod hi’n “falch iawn o glywed hyn”.

“Mae mynd i’r coroni yn weithred wleidyddol,” meddai.

“Mae gan Elin Jones egwyddorion a dydi hi ddim yn rhagrithiwr,” meddai un arall ar Twitter.

“Pam ddylai hi fynd?”


Gwenno Dafydd

Ymprydio tan y coroni a rhoi’r arian at fanc bwyd lleol

Mae ymgyrchydd o Gaerdydd wedi dechrau ymprydio tan ddiwrnod coroni’r Brenin Charles.

Mae Gwenno Dafydd yn protestio yn erbyn yr arian sy’n cael ei wario ar y seremoni.

Bydd hi’n rhoi’r arian fydd hi’n ei arbed i Fanc Bwyd Abergwaun a Wdig yn Sir Benfro.

Fe wnaeth Gwenno Dafydd ymprydio y llynedd i brotestio yn erbyn seremoni Jiwbilî’r Frenhines Elizabeth II. Roedd hi wedi rhoi’r arian tuag at fanc bwyd lleol.

Mae Gwenno Dafydd yn berfformwraig, actores a hyfforddwraig siarad cyhoeddus.

Mae hi wedi annog pobl eraill i ymuno â’r ympryd. Mae’n gallu bod mor syml â methu un pryd o fwyd mewn diwrnod, neu fynd heb beint neu baned a chacen, a rhoi arian i fanc bwyd.

“Dw i’n teimlo bod y teulu brenhinol yn  ddideimlad iawn ynglŷn â’r sefyllfa lle mae gymaint o bobol yn trio cynnal dau ben llinyn ynghyd tra’u bod nhw’n gwastraffu pres y wlad ar ddigwyddiad sydd ddim yn berthnasol,” meddai Gwenno Dafydd.

“I fi, byddai’n well iddyn nhw roi’r pres i’r gwasanaeth iechyd, sydd ar ei liniau ar hyn o bryd.”

Dydy cost swyddogol y coroni heb gael ei ddatgelu eto, ond mae disgwyl iddo gostio tua £100m.

“Dw i’n teimlo bod o’n anfoesol i wario ar ddigwyddiad lle does gan y rhan fwyaf o bobol yng Nghymru ddim llawer o ddiddordeb ynddo fo.

Mae sawl pôl piniwn wedi dangos bod llai o bobl yn cefnogi’r teulu brenhinol dros wledydd Prydain. Roedd pôl gan y National Centre for Social Research yn dangos bod 45% yn dweud eu bod nhw eisiau cael gwared ar y frenhiniaeth, nad yw’n bwysig o gwbl, neu nad yw’n bwysig iawn.


Cyngor Wrecsam yn dal i chwilio am hyfforddwr nofio Cymraeg ar ôl blwyddyn

Mae Cyngor Wrecsam yn dal i chwilio am hyfforddwr nofio Cymraeg.

Mae’r swydd wedi cael ei hysbysebu ers blwyddyn.

Roedd cynghorwyr wedi cyfaddef hyn mewn sesiwn briffio’r wasg. Roedd hyn cyn cyfarfod wythnos nesaf, pan mae disgwyl i Strategaeth Iaith Gymraeg y cyngor gael ei gymeradwyo.

Mae gan Lywodraeth Cymru darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ond mae’r Cynghorydd Mark Pritchard, arweinydd y Cyngor, yn dweud bod angen bod yn realistig mewn ardal fel Wrecsam, sy’n agos at y ffin â Lloegr.

“Mae hynny’n uchelgeisiol iawn, a dw i wir yn gobeithio eu bod nhw [Llywodraeth Cymru] yn cyflawni hynny,” meddai.

“Mae’n anodd i ni oherwydd lle’r ydyn ni o ran lleoliad, yn fy marn i.

“Mae hynny’n ffactor.

“Rydyn ni’n gweithio’n ddiflino i recriwtio staff sy’n siaradwyr Cymraeg, ond dydy hi ddim yn hawdd i ni a fedrwn ni ddim cuddio rhag hynny chwaith.

“Rydyn ni wedi cyhoeddi hysbysebion ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dydyn ni ddim wedi gallu recriwtio.

“Allwn ni ddim ceisio’i hyrwyddo heb ddweud wrth y cyhoedd beth yw ein hanawsterau ni.”

Dywed y Cynghorydd Hugh Jones fod y Cyngor wedi trio’n galed i geisio llenwi swydd hyfforddwr nofio Cymraeg.

“Rydyn ni wedi hysbysebu am gyfnod o ddeuddeg mis, rydyn ni wedi ei hyrwyddo, rydyn ni wedi mynd allan i ysgolion ac i glybiau chwaraeon.

“Rydyn ni wedi hysbysebu dros y ffin yn Sir y Fflint.

“Rydyn ni wedi gwneud popeth allwn ni i geisio recriwtio hyfforddwyr nofio sy’n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Roedden ni wedi cynnig darparu gwersi Cymraeg.

“Rydyn ni wedi trio pob ffordd bosib.

“Rydyn ni wedi gofyn i bobol o gymdeithasau Cymraeg a ydyn nhw’n gallu ein helpu ni i recriwtio, a hyd yn hyn dydyn ni ddim wedi bod yn llwyddiannus wrth recriwtio.”


Rob a Ryan ar y Cae Ras

Rob a Ryan yn ymarfer eu Cymraeg cyn gorymdaith yn Wrecsam

Roedd tua 20,000 o gefnogwyr Wrecsam wedi cymryd rhan mewn gorymdaith yn y ddinas nos Fawrth, Mai 2.

Roedd yn dathlu dyrchafiadau’r timau pêl-droed. Mae tîm dynion Wrecsam wedi cael dyrchafiad i’r Gynghrair Bêl-droed am y tro cyntaf ers 15 mlynedd. Ac mae tîm y merched wedi cael dyrchafiad i’r Genero Adran Premier y tymor nesaf.

Roedd perchnogion y clwb, Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi ymuno yn yr orymdaith ar fws agored. Roedd y sêr Hollywood wedi bod yn ymarfer eu Cymraeg mewn cyfweliad gydag S4C. Mae’r gyflwynwraig Maxine Hughes yn Gymraes sy’n byw yn yr Unol Daleithiau.

Roedd hi wedi dysgu “Wrecsam am byth” a “diolch yn fawr am bopeth” i’r ddau actor.

Yn y cyfweliad gydag S4C, dywedodd Rob McElhenney a Ryan Reynolds, eu bod nhw eisiau cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr.

“Dw i’n teimlo fel bod fy DNA wedi newid pan wnaethon ni fyw drwy’r gêm yna yn erbyn Boreham Wood, dw i ddim yn siŵr a fydda i byth yr un peth eto,” meddai Rob McElhenney.

“Dw i’n byw mewn rhyw stad o orfoledd parhaus, a dw i ddim eisiau dod yn ôl lawr!”