Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Cau Canolfan y Dechnoleg Amgen i ymwelwyr
  • Banc HSBC yn dod a’u gwasanaeth ffôn i gwsmeriaid i ben
  • Carol Vorderman yn gadael Radio Wales oherwydd polisi cyfryngau cymdeithasol
  • Pam gwisgo pabi gwyn?

Cau’r Ganolfan Dechnoleg Amgen i ymwelwyr

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) ym Machynlleth, Powys wedi cau i ymwelwyr dydd.

Mae’r ganolfan yn croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Ond maen nhw’n dweud eu bod nhw’n wynebu nifer o heriau.

Mae CyDA yn elusen addysgol. Fe fydd y ganolfan yn aros ar agor i fyfyrwyr, grwpiau sydd wedi trefnu o flaen llaw i fynd yno, digwyddiadau a chyrsiau.

Mae 14 o swyddi mewn perygl.

Mae’r ganolfan yn dweud eu bod nhw’n cau am nifer o resymau. Maen nhw’n cynnwys costau cynyddol, llai o ymwelwyr ers Covid, ac oedi o ran cael cyllid.

Mae’r ganolfan wedi bod yng Nghorris ers 50 mlynedd. Mae’n trio dod o hyd i atebion i ddelio gyda’r argyfwng hinsawdd. Mae’n dangos esiamplau o ynni adnewyddadwy, gerddi organig ac adeiladau gwyrdd.

Y prif weithredwyr ydy Eileen Kinsman a Paul Booth. Maen nhw’n dweud bod lles eu staff yn bwysig iawn a byddan nhw’n rhoi help iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd yma.

Maen nhw’n gobeithio ail-agor y ganolfan ymwelwyr unwaith bydd cyllid mewn lle.

Dywedodd  Eileen Kinsman a Paul Booth eu bod nhw eisiau parhau gyda chynlluniau i ail-ddatblygu’r ganolfan.

“Mae’r cynlluniau yma yn dal i gael eu hystyried ar gyfer cyllid gan Fargen Twf Canolbarth Cymru a ffynonellau eraill.”

Yn y cyfamser mae’r ganolfan yn derbyn rhoddion er mwyn helpu i dalu costau darparu addysg ac ymchwil amgylcheddol.

Mae arweinwyr cynghorau Powys a Cheredigion yn dweud eu bod nhw’n monitro’r sefyllfa.

Maen nhw’n poeni am effaith y cyhoeddiad ar unigolion a’r gymuned.

“Mae CyDA yn ased i Ganolbarth Cymru a’i heconomi – a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi drwy’r cyfnod anodd hwn.”


Banc HSBC yn dod a’u gwasanaeth ffôn i gwsmeriaid i ben

Mae banc HSBC yn dod a’u gwasanaeth ffôn i gwsmeriaid i ben.

Bydd y llinell gymorth Cymraeg yn dod i ben ym mis Ionawr 2024.

Mae llawer o wleidyddion wedi beirniadu’r penderfyniad.

Tua dwy flynedd yn ôl roedd y banc yn annog eu staff i ddysgu Cymraeg. Roedd y banc hefyd wedi cael arwyddion a deunyddiau Cymraeg hefyd.

Ar y pryd, roedden nhw’n dweud eu bod yn “falch iawn” i helpu’r iaith drwy gynnig gwasanaethau Cymraeg i gwsmeriaid.

Mae HSBC yn dweud eu bod nhw’n cael 22 o alwadau Cymraeg y dydd. Maen nhw’n cael 18,000 yn Saesneg.

Samuel Kurtz ydy llefarydd iaith Gymraeg y Ceidwadwyr Cymreig. Mae’n dweud bod penderfyniad HSBC i ddod â’r gwasanaeth i ben yn “siomedig iawn”.

“Gyda banciau’r stryd fawr yn cau eu canghennau, mae bancio ffôn wedi bod yn achubiaeth i nifer o gwsmeriaid,” meddai.

Mae wedi gofyn i Weinidog y Gymraeg os oedd HSBC wedi ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru cyn gwneud y penderfyniad.

Jack Sargeant ydy Aelod Llafur o’r Senedd. Mae e’n dweud ei fod yn “siomedig iawn” na fydd HSBC yn cynnig gwasanaeth Cymraeg bellach.

“Mae’r Gymraeg yn iaith fyw ac yn ddewis iaith nifer wrth gael mynediad at wasanaethau bancio,” meddai.

“Dylai HSBC wyrdroi’r penderfyniad hwn ar unwaith.”

Mae’n dweud y bydd yn ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg, Jeremy Miles, a Chomisiynydd y Gymraeg yn gofyn iddyn nhw ymyrryd.

Mae Plaid Cymru hefyd yn galw ar HSBC i wyrdroi eu penderfyniad.

Maen nhw wedi cysylltu gyda Chomisiynydd y Gymraeg, ac yn galw am gyfarfod brys gyda HSBC yn San Steffan.

Dywedodd Heledd Fychan a Ben Lake mewn datganiad ar ran y blaid: “Mae nifer o gwsmeriaid yn defnyddio HSBC oherwydd eu gwasanaeth Cymraeg, ac mae’n wir i ddweud nad yw’r banc wedi gwneud digon i’w hyrwyddo.

“Mae hyn yn ergyd enfawr i’w cwsmeriaid yng Nghymru yn enwedig eu cwsmeriaid hŷn, a’r rhai sydd ddim â mynediad i dechnoleg ddigidol.”

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod banciau a chyrff eraill yn y sector breifat yn defnyddio’r Gymraeg a chynnig gwasanaeth Cymraeg o’r un statws ac ansawdd a’u gwasanaeth Saesneg.

“Mae penderfyniad HSBC i ddod a’u gwasanaeth ffôn Cymraeg i ben yn brawf pellach bod angen deddfwriaeth fwy cadarn i sicrhau a hybu ein hawliau.”


Boris Johnson a Carol Vorderman yn 2020

Carol Vorderman yn gadael Radio Wales oherwydd polisi cyfryngau cymdeithasol

Mae Carol Vorderman wedi cyhoeddi ei bod hi’n gadael BBC Radio Wales.

Mae hi wedi cyflwyno rhaglen foreol ar Radio Wales ers pum mlynedd. Cafodd Carol Vorderman ei magu ym Mhrestatyn a’r Rhyl.

Mae hi wedi bod yn gwneud sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol am Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig. Mae hi wedi dangos ei gwrthwynebiad i’r Llywodraeth.

Ond mae hi wedi torri canllawiau’r BBC. Mae’r BBC wedi cyflwyno canllawiau newydd yn ddiweddar ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae Carol Vorderman yn dweud ei bod hi’n  “parchu’r” canllawiau.

Er nad ydy hi’n cyflwyno rhaglen efo cynnwys gwleidyddol, mae’r BBC yn dweud bod y canllawiau’n berthnasol i Carol Vorderman.

Mae hi’n dweud nad yw hi’n “barod i golli llais ar y cyfryngau cymdeithasol” na newid pwy yw hi. Dywedodd nad yw hi’n “barod i stopio” beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a bod “rheolwyr BBC Cymru wedi penderfynu bod rhaid gadael”.

“Diolch yn fawr iawn i chi i gyd,” meddai yn Gymraeg.


Rhun Dafydd gyda Pabi Gwyn

Pam gwisgo pabi gwyn?

Bydd llawer o ddigwyddiadau Sul y Cofio yn cael eu cynnal yfory.

Bydd rhai pobol yn gwisgo pabi gwyn, ac nid pabi coch.

Ers 90 mlynedd, mae’r pabi gwyn wedi bod yn symbol o heddwch.

Mae Cymdeithas y Cymod yn dweud bod y neges yn bwysig iawn eleni oherwydd y problemau sy’n digwydd yn Ewrop, Affrica a’r Dwyrain Canol.

Mae Cymdeithas y Cymod yn dweud bod pabi gwyn yn dangos parch i holl ddioddefwyr rhyfel yn cynnwys unigolion, teuluoedd a phlant ar bob ochr.

Mae hefyd yn cynrychioli gweithio dros heddwch, tuag at fyd lle mae gwrthdaro’n cael ei ddatrys mewn ffyrdd di-drais.

Y tri sydd wedi penderfynu gwisgo pabi gwyn eleni yw’r Archdderwydd Mererid Hopwood, y gwleidydd Mabon ap Gwynfor, a Rhun Dafydd, cadeirydd Cymdeithas y Cymod.

Mae Mabon ap Gwynfor yn dweud: “Mae Sul y Cofio yn ddyddiad pwysig yn ein calendar ni i gyd.

“Mae’n gyfle i goffáu pawb gafodd eu lladd ac a ddioddefodd yn sgil pob rhyfel.

“Wrth gofio mae’n ein hatgoffa ni o wastraff rhyfel.

“Mae trawma rhyfel yn parhau am genedlaethau.

“Mae’n ein hatgoffa nad ydy rhyfel yn datrys anghytundeb ac mae dim ond trwy drafod gyda’n gilydd y gallwn ni ffeindio llwybr ymlaen.

“Mae’n atgyfnerthu’r galw am heddwch a chymod.

“Am y rhesymau yma rwy’n gwisgo’r pabi gwyn er mwyn coffáu pawb.”