Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Cyn-Brif Weithredwr S4C yn galw am ymchwiliad i’r sianel
  • Pedwar bachgen yn eu harddegau wedi marw yn Eryri ‘ar ôl boddi’
  • Cau gwersyll Pontins ym Mhrestatyn ar unwaith
  • Teyrngedau i Shane McGowan, canwr The Pogues

Canolfan S4C Yr Egin

Cyn-Brif Weithredwr S4C yn galw am ymchwiliad i’r sianel

Sian Doyle ydy cyn-Brif Weithredwr S4C. Cafodd hi ei diswyddo wythnos ddiwethaf.

Roedd hyn ar ôl honiadau o fwlio yn S4C. Mae cwmni cyfreithiol Capital Law wedi bod yn ymchwilio i’r honiadau o fwlio a “diwylliant o ofn” yn S4C.

Mae Sian Doyle rŵan yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad i’r sianel. Mae hi hefyd eisiau ymchwiliad i gadeirydd S4C, Rhodri Williams.

Mae Sian Doyle wedi ysgrifennu at Lucy Frazer, yr Ysgrifennydd Diwylliant a Chyfryngau.

Mae Sian Doyle yn dweud ei bod hi wedi son am ei phryderon llawer o weithiau am beth oedd yn digwydd yn S4C. Ond roedd yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) wedi dweud ei fod yn fater i S4C.

Mae hi’n gofyn a fyddai’r adran wedi ymateb yr un fath os oedd yr un sefyllfa wedi codi yn Lloegr gyda Channel 4.

Cafodd Llinos Griffin-Williams, cyn-brif Swyddog Cynnwys y sianel, hefyd ei diswyddo yn ddiweddar gan Awdurdod S4C. Mae hyn ar ôl honiadau o ymddwyn yn amhriodol yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc.

Mae undeb BECTU yn dweud bod 96 o bobl wedi rhoi tystiolaeth i ymchwiliad Capital Law.

Mae Awdurdod S4C wedi dweud bod y dystiolaeth yn “peri gofid mawr.”


Y pedwar bachgen yn eu harddegau fu farw yng Ngwynedd

Cwest: Pedwar bachgen yn eu harddegau wedi marw yn Eryri ‘ar ôl boddi’

Mae cwest wedi cael ei gynnal i farwolaethau pedwar o fechgyn yn eu harddegau o’r Amwythig.

Roedden nhw wedi bod mewn damwain car yn Eryri ar 21 Tachwedd. Roedd y car wedi mynd oddi ar ffordd yr A4085 i mewn i ffos wrth ymyl Llanfrothen yng Ngwynedd.

Mae cwest wedi clywed eu bod wedi marw o ganlyniad i foddi.

Y pedwar oedd Jevon Alexander Hirst, 16 oed, Harvey Graham Owen, 17, Wilfred John Fitchett, 17, a Hugo Morris, 18.

Cafodd y gwrandawiad ei gynnal yng Nghaernarfon ddydd Mercher. Dywedodd y crwner bod y cwestau wedi eu gohirio er mwyn i’r heddlu orffen eu hymchwiliad.


Gwersyll Pontins ym Mhrestatyn

Cau gwersyll Pontins ym Mhrestatyn ar unwaith

Mae gwersyll gwyliau Pontins ym Mhrestatyn wedi cau’n sydyn.

Roedd Pontins wedi dweud ddydd Iau eu bod nhw’n cau’r gwersyll ar unwaith.

Maen nhw wedi ymddiheuro “am unrhyw anghyfleustra” sydd wedi’i achosi.

Mae’r gwersyll wedi bod ar agor ers tua 50 mlynedd.

Cafodd ei adeiladu yn 1971. Cafodd y ffilm On the Buses ei ffilmio yno yn 1973.

James Davies ydy Aelod Seneddol Ceidwadol Dyffryn Clwyd. Mae o’n dweud bod y Swyddfa Gartref wedi cadarnhau na fydd y gwersyll yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ceiswyr lloches.

Mae hyn ar ol i Lywodraeth San Steffan ddefnyddio gwesty’r Hilton yng Nghonwy ar gyfer ceiswyr lloches cyn hyn. Roedd wedi ailagor fel gwesty eleni.

Dywedodd bod y cyhoeddiad i gau’r gwersyll “yn annisgwyl.”

“Rwy’n gofyn am ragor o wybodaeth gan y perchnogion, Britannia Hotels.

“Mae’r safle wedi bod ag enw drwg ers peth amser. Dw i’n gobeithio y bydd y newyddion yma’n dod â’r potensial ar gyfer newid i’w groesawu er budd y dref.”

Gareth Davies ydy Aelod y Senedd dros Ddyffryn Clwyd. Mae’n dweud bod hyn yn “newyddion trist a sydyn” ond “ddim yn syndod mewn rhai ffyrdd” gan eu bod nhw heb fuddsoddi digon yn y gwersyll ers blynyddoedd.

“Mae fy meddyliau gyda’r staff, eu teuluoedd a phawb sydd yn ymwneud â Pontins Prestatyn yn y cyfnod anodd hwn.”

Dywedodd llefarydd ar ran Pontins y byddan nhw’n cysylltu efo cwsmeriaid fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad i gau. Byddan nhw’n cael eu had-dalu.


Shane McGowan

Teyrngedau i Shane McGowan, canwr The Pogues

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Shane McGowan, canwr The Pogues.

Roedd wedi marw’n 65 oed ar ôl salwch hir.

Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn un o’r rhai sydd wedi talu teyrnged iddo.

Welwn ni fyth mo’i debyg eto,” meddai. “Heddwch i ti, Shane McGowan.”

Roedd hi wedi rhoi neges ar X (Twitter gynt) yn yr iaith Wyddeleg.

Mae’r band yn fwyaf adnabyddus am y gân Nadoligaidd Fairytale of New York ac A Pair of Brown Eyes.

Roedd Shane McGowan wedi brwydro ers blynyddoedd gydag alcoholiaeth a chyffuriau.

Mae Kevin Brennan, Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Caerdydd, hefyd wedi talu teyrnged iddo. Mae wedi ei alw’n “athrylith o gyfansoddwr caneuon”.

“Sinead yn gyntaf, a nawr Shane,” meddai.

Rydyn ni ar ein colled.”

Roedd Shane McGowan yn fab i fewnfudwyr o Iwerddon.

Roedd yn brif leisydd The Pogues rhwng 1982 a 2014. Daeth y band i ben ar ôl cyhoeddi saith albwm.

Roedd Shane McGowan wedi cael Gwobr Cyfraniad Oes yn Nulyn yn 2018. Cafodd rhaglen ddogfen am ei fywyd a’i yrfa, Crock of Gold: A Few Rounds with Shane McGowan ei chyhoeddi yn 2020.

Roedd yn ffrind agos i’r ddiweddar Sinéad O’Connor, y gantores o Iwerddon fu farw’n gynharach eleni.