Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Pryder am 3000 o swyddi dur Tata
- Daeargryn Morocco: Timau achub yn chwilio am bobl yn y rwbel
- Sycharth: Y Senedd yn trafod prynu safle castell Owain Glyndŵr
Pryder am 3000 o swyddi dur Tata
Mae gweithfeydd dur Port Talbot yn mynd i gael £500m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae hyn ar gyfer diogelu’r safle a chynhyrchu dur mewn ffordd wyrddach.
Mae Tata yn mynd i roi £700m o arian ei hun tuag at hyn er mwyn torri allyriadau.
Ond mae pryder y bydd hyn yn arwain at golli tua 3,000 o swyddi ym Mhort Talbot ac ar draws y DU.
Mae Tata Steel yn dweud fod y cytundeb gyda’r llywodraeth yn bwysig iawn i’r diwydiant dur. Maen nhw am gynnal ymgynghoriad gyda’r undebau.
Mae tua 4,000 o weithwyr ym Mhort Talbot o 8,000 o staff Tata.
Roedd y cwmni wedi rhybuddio o’r blaen bod dyfodol hirdymor y safle mewn perygl os nad oedd y Llywodraeth yn rhoi arian iddyn nhw allu symud at ffyrdd gwyrddach o wneud dur.
Mae’r undebau’n dweud eu bod nhw ddim wedi cael bod yn rhan o’r trafodaethau am y cytundeb.
Daeargryn Morocco: Timau achub yn chwilio am bobl yn y rwbel
Roedd daeargryn mawr ym Morocco wythnos diwethaf.
Roedd y daeargryn yn mesur 6.8. Fe ddigwyddodd am 11yh (amser lleol) ar 8 Medi, pan oedd llawer o bobl yn cysgu.
Mae tua 2,900 o bobl wedi cael eu lladd ac o leiaf 300,000 wedi colli eu cartrefi.
Mae timau achub wedi bod yn gweithio’n galed i drio dod o hyd i bobl yn fyw o dan y rwbel.
Mae’r difrod gwaethaf ym mynyddoedd Atlas. Mae’n ardal anghysbell iawn.
Roedd ôl-gryniadau yn nhalaith Al Haouz ddydd Mercher (13 Medi). Roedd timau achub wedi gorfod ffoi o’r ardal.
Mae llawer o bentrefi wedi cael eu difrodi’n llwyr.
Mae’r Groes Goch wedi bod yn helpu pobl ym Morocco. Maen nhw’n dweud bod angen dŵr glan ar frys.
Dyma’r daeargryn gwaethaf i daro Morocco ers mwy na chanrif.
Sycharth: Y Senedd yn trafod prynu safle castell Owain Glyndŵr
Mae heddiw (Medi 16) yn Ddiwrnod Owain Glyndŵr. Yr wythnos hon roedd y Senedd wedi bod yn trafod prynu safle castell Owain Glyndŵr. Sycharth ydy enw’r safle yng ngogledd Powys.
Roedd hyn ar ôl i fwy na 10,000 o bobl arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i brynu’r safle.
Y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn oedd wedi trefnu’r ddeiseb. Roedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i brynu’r safle i’w “ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.
Mae e’n dweud ei fod yn “bwysig i bobl Cymru, a’n hanes ni” bod y Llywodraeth yn prynu’r safle.
Ond mae’r gweinidog diwylliant Dawn Bowden wedi dweud na fydd Llywodraeth Cymru yn prynu’r safle. Mae hi’n dweud bod y safle mewn perchnogaeth breifat, ac nad yw ar werth. Mae Dawn Bowden hefyd yn dweud bod y safle ddim mewn perygl ar hyn o bryd.
Mae hanes Owain Glyndŵr yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ar draws Cymru ar 16 Medi.