Dyma’r penawdau wythnos yma: 

Bwrdd iechyd y gogledd o dan fesurau arbennig

Y Ceidwadwyr yn mynd i ddiflannu – bron – yng Nghymru

Angen ‘defnyddio mwy o Gymraeg bob dydd’

Cyhoeddi beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2023

Tîm pêl-droed Cymru yn cael dau hyfforddwr newydd


Bwrdd iechyd y gogledd o dan fesurau arbennig

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael ei roi o dan fesurau arbennig.

Eluned Morgan ydy’r Ysgrifennydd Iechyd. Mae hi’n dweud ei bod yn poeni’n fawr am berfformiad  bwrdd iechyd y gogledd.

Mae hi hefyd yn poeni am arweinyddiaeth a diwylliant y bwrdd.

Mae llawer o aelodau’r bwrdd wedi gadael eu swyddi. Maen nhw’n cynnwys cadeirydd, is-gadeirydd ac aelodau annibynnol y Bwrdd. Mae aelodau newydd yn cael eu penodi.

Mae Eluned Morgan yn dweud ei bod hi heb weld pethau’n gwella yn y bwrdd iechyd. Mae hi’n dweud bod “anghysondeb” o ran diogelwch, perfformiad ac ansawdd yn y bwrdd iechyd.

“Nawr yw’r amser am arweinwyr newydd i wneud y gwelliannau sydd eu hangen,” meddai.

Mae hi’n dweud bod angen “sefydlogrwydd”.


Papur pleidleisio'n cael ei roi yn y blwch

Y Ceidwadwyr yn mynd i ddiflannu – bron – yng Nghymru

Fe allai’r Ceidwadwyr Cymreig ddiflannu, bron, mewn etholiad cyffredinol. Dyna beth mae pôl piniwn newydd gan YouGov i WalesOnline yn dweud.

Cafodd y pôl ei gyhoeddi cyn Dydd Gŵyl Dewi.

Byddai’r Ceidwadwyr yn ennill dim ond 19% o’r bleidlais, yn ôl y pôl.

Mae cyfran Llafur wedi codi o 41% yn 2019 i 53% nawr.

Roedd y pôl wedi holi 1,083 o bobol dros 16 oed yng Nghymru rhwng Chwefror 17-23.

Dim ond 7% o bobol 25 i 49 oed sy’n dweud y bydden nhw’n pleidleisio dros y Ceidwadwyr.

Mae sawl sgandal wedi bod yn y Blaid Geidwadol ac maen nhw wedi cael tri Phrif Weinidog ers 2019.

Mae canlyniad y pôl hwn yn debyg i 2001 – doedd y Ceidwadwyr ddim wedi ennill sedd yng Nghymru.

Yn 2019, roedden nhw wedi ennill 14 sedd a 36.1% o’r bleidlais.

Mae 19% o’r bobol oedd wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr yn 2019 nawr yn cefnogi Llafur a 12% yn cefnogi Reform.

Mae 28% o’r bobol oedd yn cefnogi Plaid Cymru yn 2019 nawr yn cefnogi Llafur.

Mae llawer o bobol yng Nghaerdydd a’r Cymoedd yn cefnogi Llafur (62%).

Dyma’r canlyniadau sy’n cael eu darogan:

Llafur: 53%

Ceidwadwyr: 19%

Plaid Cymru: 12%

Reform UK: 8%

Democratiaid Rhyddfrydol: 4%

Y Blaid Werdd: 3%

Eraill: 1%


Angen ‘defnyddio mwy o Gymraeg bob dydd’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gael mwy o bobl i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith bob dydd.

Roedd Cyfrifiad 2021 yn dangos bod llai o siaradwyr Cymraeg nawr nag yn 2011.

Samuel Kurtz ydy llefarydd y Gymraeg y Ceidwadwyr Cymreig. Mae e’n dweud bod canlyniadau’r Cyfrifiad wedi yn “siomedig”. Mae’n dweud ei bod yn “bwysig iawn ein bod ni’n cymryd camau i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein bywyd bob dydd.”

Mae’n dweud bydd hyn yn helpu economi Cymru drwy helpu’r diwydiannau twristiaeth a lletygarwch.

Mae llawer o siaradwyr ar draws Cymru yn dweud mai “diffyg hyder” ydy’r prif reswm dros beidio defnyddio’r iaith bob dydd, meddai Samuel Kurtz.

“Mae’n bwysig iawn ein bod yn creu amgylchedd lle gall siaradwyr newydd deimlo’n gyfforddus yn defnyddio brawddegau syml, a lle gall siaradwyr mwy rhugl ymarfer eu Cymraeg.

“Dyna pam rydym yn galw ar Lywodraeth Llafur Cymru i edrych ar gyfleoedd i hybu’r defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd.”


Beirniaid Llyfr y Flwyddyn

Cyhoeddi beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2023

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi pwy sydd ar banel beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2023.

Mae’r panel Cymraeg eleni’n cynnwys y bardd Ceri Wyn Jones; Megan Angharad Hunter, enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021; y cyn-gomisiynydd comedi, awdur a chynhyrchydd Sioned Wiliam; a Savanna Jones, ymddiriedolwr Mudiad Meithrin.

Ar y panel Saesneg eleni mae’r awdur, actores ac enillydd BAFTA Emily Burnett; yr awdur ac athro Emma Smith-Barton; y bardd a golygydd Kristian Evans; a chyn-enillydd categori Llyfr y Flwyddyn, Mike Parker.

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr sy’n cael ei rhoi bob blwyddyn ac sy’n dathlu llenorion o Gymru sy’n ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd y beirniaid yn dewis enillwyr mewn pedwar categori – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, a Phlant a Phobol Ifanc. Bydd un o enillwyr y categorïau hyn yn ennill y Brif Wobr, a’r teitl Llyfr y Flwyddyn.

‘Braint’

“Mae’n fraint cael bod yn rhan o unrhyw broses sy’n hyrwyddo a gwobrwyo llenyddiaeth yng Nghymru,” meddai Ceri Wyn Jones.

“Ac mae hynny’n wir yn achos gwobr Llyfr y Flwyddyn, gwobr sy’n dathlu’r ffaith ein bod ni nid yn unig yn genedl o awduron, ond yn genedl o ddarllenwyr hefyd.”

Mae’n “fraint” cael beirniadu’r gystadleuaeth, meddai Savanna Jones.

Ac yn ôl Megan Angharad Hunter, “roedd derbyn y cais i feirniadu Llyfr y Flwyddyn eleni yn sioc hyfryd ac yn anrhydedd llwyr”.


Cefongwyr tim pel-droed Cymru

Tîm pêl-droed Cymru yn cael dau hyfforddwr newydd

Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi penodi dau hyfforddwr newydd.

Bydd Eric Ramsey, sy’n gweithio i Manchester United, a Nick Davies o West Ham yn rhan o dîm hyfforddi Cymru ar gyfer ymgyrch ragbrofol Ewro 2024.

Bydd y gemau rhagbrofol yn dechrau mis yma.

Mae Eric Ramsay yn dod o ganolbarth Cymru yn wreiddiol.

Mae ganddo Drwydded Broffesiynol UEFA.

Dechreuodd ei yrfa gydag Abertawe, cyn gweithio gydag Amwythig a Chelsea ac yna Manchester United.

Nick Davies yw Pennaeth Perfformio newydd Cymru.

Mae’n dod o Bort Talbot yn wreiddiol, ac wedi gwneud yr un swydd gyda Charlton, Birmingham, Norwich a West Brom.

Roedd ei dad yn rheolwr ar Glwb Pêl-droed Port Talbot yn y gorffennol.

Bydd Cymru yn chwarae oddi cartref yn erbyn Croatia ar Fawrth 25, ac yn erbyn Latfia yng Nghaerdydd ar Fawrth 28.