Dyma’r penawdau wythnos yma: 

  • Jeremy Hunt yn cyhoeddi ei gyllideb
  • Y Ceidwadwyr Cymreig yn beirniadu cynlluniau i gyflwyno treth dwristiaeth
  • Ffilm Y Sŵn yn y sinemâu
  • Agor Canolfan Archif Ddarlledu Cymru yn Aberystwyth

Jeremy Hunt yn cyhoeddi ei gyllideb

Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi ei gyllideb.

Dywedodd Jeremy Hunt y bydd ei gyllideb yn helpu’r economi i dyfu a chael pobl yn ôl i’r gwaith.

Oherwydd yr argyfwng costau byw, mae’r Canghellor wedi dweud y bydd yr help sydd ar gael gyda chostau ynni yn parhau tan fis Mehefin.

Bydd mwy o help gyda gofal plant yn Lloegr ond dydy Llywodraeth Cymru heb ddweud os fyddan nhw’n gwneud yr un peth.

Bydd £180m ychwanegol i Lywodraeth Cymru.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi galw ar y Canghellor i helpu cartrefi a busnesau sy’n wynebu prisiau bwyd ac ynni uchel.

Ond dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford bod y Canghellor heb wneud digon i daclo’r heriau mae pobl yn wynebu.

Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru Eluned Morgan hefyd wedi dweud ei bod yn “siomedig” gyda Jeremy Hunt am beidio rhoi mwy o arian i weithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd (NHS).


Y Ceidwadwyr Cymreig yn beirniadu cynlluniau i gyflwyno treth dwristiaeth

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth dwristiaeth.

Mae ffigurau newydd yn dangos bod llai o ymwelwyr yn dod i Gymru. Roedd nifer yr ymwelwyr ddaeth i Gymru yn 2022 yn is na’r nifer yn y blynyddoedd cyn y pandemig.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud fod hyder yn y farchnad yn is na gweddill y Deyrnas Unedig.

Tom Giffard ydy llefarydd twristiaeth y Ceidwadwyr Cymreig. Mae e’n dweud bod pethau’n edrych yn “llwm” ar gyfer twristiaeth yng Nghymru, yn ôl y ffigurau diweddaraf. Mae’n dweud bydd pethau’n gwaethygu os ydy Llywodraeth Cymru yn cyflwyno treth dwristiaeth.

Ond mae Llywodraeth Cymru’n dweud mai penderfyniadau economaidd San Steffan sydd wedi effeithio’r diwydiant twristiaeth.

“Mae hyn yn cynnwys prisiau ynni uchel, anawsterau recriwtio staff oherwydd y math o Brexit y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dewis a’r argyfwng costau byw sy’n wynebu cymaint o deuluoedd ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.”

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod nhw’n gweithio gyda’r diwydiant i wneud yn siŵr ei fod yn tyfu. Hefyd, awdurdodau lleol fydd yn gallu dewis os ydyn nhw yn mynd i gyflwyno ardoll ymwelwyr.

“Byddai ardoll yn cynhyrchu refeniw newydd a allai gael ei ddefnyddio i ddatblygu gwasanaethau a seilwaith lleol a gwarchod yr asedau naturiol sy’n denu ymwelwyr i Gymru.

“Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd, gyda refeniw yn cael ei ddefnyddio er budd cymunedau lleol, ymwelwyr a busnesau,” meddai Llywodraeth Cymru.


Y Sŵn
Y Sŵn

Ffilm Y Sŵn yn y sinemâu

Mae’r ffilm Y Sŵn wedi cael ei dangos mewn sinemâu drwy Gymru.

Mae’r ffilm yn edrych ar y digwyddiadau oedd wedi arwain at sefydlu S4C.

Roedd llywodraeth Margaret Thatcher wedi dod i rym yn 1979.  Yn ei maniffesto, roedd y Ceidwadwyr wedi addo sefydlu sianel Gymraeg. Ond fe wnaethon nhw dorri’r addewid i sefydlu’r sianel. Roedd hyn wedi arwain at lawer o brotestio ar draws Cymru.

Gwynfor Evans oedd arweinydd Plaid Cymru ar y pryd. Roedd e’n gwrthwynebu’n gryf y penderfyniad i beidio sefydlu sianel Gymraeg. Roedd e wedi dweud y byddai’n llwgu ei hun i farwolaeth os nad oedd y llywodraeth yn cadw ei haddewid.

Roedd y llywodraeth yn poeni os oedd Gwynfor Evans yn marw byddai’n arwain at lawer o drais, fel oedd wedi digwydd yng Ngogledd Iwerddon ar y pryd.

Roedd y llywodraeth wedi gorfod newid ei meddwl. Dechreuodd S4C ddarlledu ar 1 Tachwedd 1982.

Mae’r cast yn cynnwys Mark Lewis Jones, Siân Reese-Williams, Rhodri Evan, Lily Beau a Rhodri Meilir.

Mae’r ffilm yn cael ei dangos yn ystod pen-blwydd S4C yn 40 oed.

Mae Y Sŵn yn cael ei dangos mewn sinemâu drwy Gymru hyd at 25 Mawrth. Bydd sain ddisgrifiad ac is-deitlau Cymraeg a Saesneg. Mae rhestr o’r llefydd sy’n dangos y ffilm yma.


Ryan A Ronnie

Agor Canolfan Archif Ddarlledu Cymru yn Aberystwyth

Mae Canolfan Archif Ddarlledu Cymru wedi agor yn Aberystwyth.

Mae’n golygu y bydd hanner miliwn o glipiau fideo o hanes radio a theledu Cymru ar gael i’r cyhoedd.

Mae’r ganolfan yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Bydd 12 ‘Cornel Clip’ yn agor ar draws Cymru dros y misoedd nesaf.

Bydd yn newid y ffordd mae pobl yn gallu cael mynediad at hanes darlledu Cymru. Bydd ffilm, fideo a sain Cymraeg a Saesneg yn cael eu digido.

Bydd ymwelwyr yn gallu gwrando ar recordiadau sain o radio’r BBC yng Nghymru o’r 1930au ymlaen, darllediadau teledu gan y BBC a darlledwyr masnachol yng Nghymru, gan gynnwys HTV Cymru ac ITV Cymru, o’r 1950au ymlaen. Bydd hefyd yn cynnwys holl raglenni S4C, y sianel deledu Gymraeg gyntaf, o 1982 ymlaen.

Mae’n cynnwys cyfnodau pwysig yn hanes Cymru fel boddi Tryweryn, trychineb Aberfan, streiciau’r Glowyr a’r Senedd yn agor.

Mae hefyd yn cynnwys darllediadau o chwaraeon Cymru ers y 1940au, i adloniant a drama fel opera sebon hynaf Cymraeg y BBC, Pobol y Cwm. Cafodd ei darlledu am y tro cyntaf yn 1974.

Bydd gweithgareddau ar gyfer ysgolion a grwpiau hefyd ar gael yn y Ganolfan yn y Llyfrgell Genedlaethol.

“Ar gael i bawb”

Ashok Ahir ydy Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae e’n dweud: “Nid yn unig y mae Canolfan Archif Ddarlledu Cymru yn cynnwys canrif o hanes darlledu Cymru, ond canrif o hanes Cymru.”

“Am y tro cyntaf yn y ganrif honno, mae ar gael i bobol Cymru ei fwynhau.

“Ar draws cannoedd ar filoedd o glipiau fideo a roddwyd gan BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C, mae ganddon ni straeon o bob cornel a chymuned yng Nghymru.

“Rydyn ni eisiau i bobol ddod i ddysgu, i rannu ac i fwynhau hanes Cymru, nid yn unig yn Aberystwyth, ond ledled Cymru.”

Bydd y cyhoedd yn gallu gwylio a gwrando ar yr archif ddarlledu mewn llefydd eraill sy’n agor ar draws Cymru yn 2023/24.

Maen nhw’n cynnwys: Llyfrgell Caerfyrddin Archifau Gorllewin Morgannwg, Canolfan Mileniwm Cymru, Canolfan Ddiwylliant Conwy, Llyfrgell Glowyr De Cymru, Llyfrgell Llanrwst, Archifdy Caernarfon, Llyfrgell Merthyr Tudful, Coleg Iâl Cambria yn Wrecsam, Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn Rhuthun, Archifau Ynys Môn, Archifau Morgannwg, ac Archifdy Sir Benfro.