Dyma’r penawdau wythnos yma: 

  • Archesgob Cymru yn dweud ei fod o blaid annibyniaeth
  • Dim ond rhai pobol fydd yn cael cynnig brechlyn Covid-19 eleni
  • Dyn yn cael ei gyhuddo o ymosod ar y cyn-ysgrifennydd iechyd Matt Hancock
  • Lansio llyfr o gerddi Cymraeg am gariad i ddathlu Dydd Santes Dwynwen

“Dw i o blaid annibyniaeth,” meddai Archesgob Cymru

Mae Archesgob Cymru wedi dweud ei fod e’n cefnogi annibyniaeth i Gymru.

Mae’r Parchedicaf Andrew John wedi bod yn siarad ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C. Roedd e’n siarad am sut mae’r Eglwys yng Nghymru yn trio helpu pobol sy’n cael problemau oherwydd yr argyfwng costau byw.

Mae Archesgob Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Geidwadol San Steffan llawer o weithiau yn y gorffennol. Roedd e’n trafod dyfodol Cymru pan wnaeth e son am annibyniaeth.

Dywedodd bod angen edrych ar yr economi, a bod yr hyn “rydyn ni wedi’i derbyn gan San Steffan, efallai, ddim wedi bod yn ddigonol.

“Felly dw i yn deall pam maen nhw’n gofyn am annibyniaeth.”

Dywedodd ei fod yn siarad yn bersonol am annibyniaeth, ac nid ar ran yr Eglwys yng Nghymru.

“Mater cwbl bersonol,” meddai.

“Dw i o blaid annibyniaeth oherwydd y rhesymau dw i jyst wedi’u dweud.”


Dim ond rhai pobol fydd yn cael cynnig brechlyn Covid-19 eleni

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud pwy fydd yn gallu cael brechlyn Covid-19 eleni. Maen nhw’n dweud na fydd pawb yn cael cynnig brechlyn.

Mae nifer fawr o bobol wedi cael brechlyn erbyn hyn. Ond maen nhw’n dweud bod pobol hŷn, rhai mewn cartrefi preswyl a phobol sydd â rhai cyflyrau iechyd yn fwy agored i effeithiau gwaetha’r feirws.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw ddim yn gwybod eto am ba mor hir mae brechlynnau’n effeithiol a’r ffordd mae’r feirws yn ymledu.

Mae’n bosib y bydd brechlyn yn cael ei gynnig yn y gwanwyn i bobol sy’n wynebu’r perygl mwyaf.

Fydd pobol 16 i 49 oed ddim yn cael gwahoddiad awtomatig i gael trydydd dos o’r brechlyn. Nid pawb fydd yn derbyn gwahoddiad am ddos cyntaf chwaith.

Mae’r Llywodraeth wedi dweud y byddan nhw’n rhoi rhagor o wybodaeth am ddyddiadau cau’r rhaglenni brechu yn y dyfodol. Maen nhw wedi bod yn cynnig brechlynnau ers dechrau’r feirws.


Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan
Matt Hancock

 Cyhuddo dyn o ymosod ar y cyn-ysgrifennydd iechyd Matt Hancock

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ymosod ar y cyn-ysgrifennydd iechyd Matt Hancock.

Mae’n debyg bod yr ymosodiad honedigwedi digwydd mewn gorsaf danddaearol yn Llundain.

Mae Geza Tarjanyi, 61 oed, o Swydd Gaerhirfryn, wedi cael ei gyhuddo o ymosod a dwy drosedd yn ymwneud â threfn gyhoeddus, meddai Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth. Bydd yn mynd i’r llys fis nesaf.

Mae’n debyg na chafodd Matt Hancock ei anafu yn y digwyddiad.

Cafodd Geza Tarjanyi ei arestio’r diwrnod wedyn. Roedd yr heddlu wedi cael adroddiadau o ddyn yn dioddef “ymosodiad ac aflonyddu” yng ngorsaf San Steffan, sy’n agos i Dŷ’r Cyffredin.

Ar hyn o bryd mae Matt Hancock, Aelod Seneddol Gorllewin Suffolk, yn eistedd fel aelod annibynnol. Roedd e wedi dweud fis diwethaf nad yw’n mynd i sefyll yn yr etholiad nesaf.

Cafodd ei wahardd fel Aelod Seneddol Ceidwadol y llynedd ar ôl bod ar y rhaglen I’m a Celebrity… Get Me Out of Here.


'Cariad'
Y llyfr Cariad

Lansio llyfr o gerddi Cymraeg am gariad i ddathlu Dydd Santes Dwynwen

Roedd pobl wedi bod yn dathlu Dydd Santes Dwynwen yr wythnos hon (Ionawr 25).

Cafodd llyfr newydd ei lansio o gerddi Cymraeg sy’n son am gariad. Enw’r llyfr ydy Cariad.

Mari Lovgreen ydy golygydd y llyfr. Mae hi’n gyflwynwraig.

Mae hi wedi ysgrifennu cerdd i’w phlant, Bethan ac Iwan yn y llyfr.

Mae hi’n dweud bod y cerddi am bob math o gariad ac nid dim ond am gariad at bartner.

“Mae Gwenllian Ellis wedi ysgrifennu cerdd arbennig iawn am gariad yn gyffredinol.

“Mae’n gallu bod yn gariad at le, anifail, ffrind neu at aelod o’r teulu.

“Rwy’n teimlo bod pawb yn gallu ffeindio cariad yn rhywle neu yn rhywbeth.

“Roeddwn eisiau i’r llyfr fod yn un positif oherwydd mae cymaint o bethau negyddol o’n cwmpas ni yn y byd.

“Dw i wedi cymryd cerddi sydd gobeithio am gyffwrdd y darllenydd.

“Mae’n fraint cael astudio a darllen cymaint o gerddi.

“Byddwn wedi gallu cynnwys llawer, llawer mwy,” meddai.