Dyma’r penawdau wythnos yma: 

  • Llifogydd ar ôl glaw trwm a channoedd o gartrefi heb drydan
  • Gareth Bale wedi ymddeol o bêl-droed
  • Apêl yr heddlu am graffiti ar swyddfa Aelod Seneddol Ceidwadol
  • S4C yn denu mwy o wylwyr ifainc
  • 2023 yw Blwyddyn Llwybrau yng Nghymru

Llifogydd ar ôl glaw trwm a channoedd o gartrefi heb drydan

Mae glaw trwm a gwyntoedd cryfion wedi achosi problemau yn ne a chanolbarth Cymru. Mae wedi achosi llifogydd ac mae cannoedd o gartrefi wedi bod heb drydan.

Roedd dros 600 o gartrefi heb drydan fore Iau, meddai’r Grid Cenedlaethol. Roedd y rhan fwyaf yng Nghasnewydd. Roedd llawer o gartrefi wedi cael trydan yn ôl erbyn amser cinio.

Roedd gwasanaethau trenau ar draws y Cymoedd wedi’u heffeithio hefyd.

Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi delio gyda llifogydd yn Rhondda Cynon Taf. Roedd ardaloedd Porth a Phontypridd wedi eu taro waethaf.

Roedd Clwb y Bont ym Mhontypridd newydd ail-agor ar ôl gorffen gwaith adnewyddu. Roedd wedi cael ei ddifrodi yn Storm Dennis yn 2020. Cafodd y clwb ei daro eto y tro yma.

Heledd Fychan ydy Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru. Mae hi’n dweud ei bod hi’n “poeni’n fawr” am y llifogydd diweddaraf yn Rhondda Cynon Taf.

“Dw i’n poeni’n fawr am gartrefi a busnesau,” meddai Heledd Fychan.

“All pobol ddim parhau i fyw mewn ofn bob tro dy’n ni’n cael glaw trwm.

“Mae’r tywydd garw hwn yn anochel, ond does dim rhaid i lifogydd fod.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gynllunio ar gyfer y glaw trwm, ac annog ein cynghorau, fel Rhondda Cynon Taf, i ddeall yn well sut i osgoi llifogydd a chefnogi cymunedau.

Dro ar ôl tro, fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod cynnal ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd dinistriol yn 2020.”

Dywedodd bod Plaid Cymru wedi sicrhau adolygiad, ac y bydd yn cyflwyno tystiolaeth gan gymunedau Canol De Cymru yn nes ymlaen eleni.

“Rhaid dysgu gwersi ar frys. Byddaf yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos, a gweithio’n ddiflino i sicrhau bod ein cymuned yn derbyn y gefnogaeth a chymorth sydd ei angen arni yn ystod yr adeg anodd hon.”


Gareth Bale

Gareth Bale wedi ymddeol o bêl-droed

Mae Gareth Bale, capten tîm pêl-droed Cymru, wedi ymddeol o’r byd pêl-droed.

Dywedodd mai hwn oedd “penderfyniad mwyaf anodd” ei yrfa.

Mae e wedi ennill 111 o gapiau dros ei wlad, gan sgorio 41 o goliau. Mae’n dweud fod y profiad o gynrychioli ei genedl “wedi newid nid yn unig fy mywyd, ond pwy ydw i”.

Mae’r newyddion yn dod ar ôl i Gymru gael perfformiad siomedig yng Nghwpan y Byd yn Qatar.

Roedd Gareth Bale wedi dechrau ei yrfa yn Southampton, cyn symud i Spurs yn 2007.

Symudodd i Real Madrid am £85m yn 2013. Wedyn symudodd i Los Angeles haf diwethaf ar ôl cyfnod anodd yn Sbaen. Er hynny roedd e wedi ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn Uwch Gynghrair Lloegr.

Enillodd e 18 o dlysau yn ystod ei yrfa. Roedd yn Chwaraewr y Flwyddyn yng Nghymru bob blwyddyn rhwng 2010 a 2016.

“Mae bod yn Gymro a chael fy newis a chael bod yn gapten ar Gymru wedi rhoi rhywbeth i fi alla’i ddim cymharu efo unrhyw beth arall dw i wedi’i wneud,” meddai.

“Mae’n anrhydedd a dw i mor falch o fod wedi chwarae rhan yn hanes y wlad anhygoel hon, o fod wedi teimlo cefnogaeth ac angerdd y Wal Goch, a bod i lefydd annisgwyl ac anhygoel gyda’n gilydd.

“Fe wnes i rannu ystafell newid gyda bois ddaeth yn frodyr, a staff cynorthwyol ddaeth yn deulu, dw i wedi chwarae gyda’r rheolwyr mwyaf anhygoel, a theimlo cefnogaeth a chariad y cefnogwyr mwyaf ymroddedig yn y byd.

“Diolch i bob un ohonoch chi am fod ar y daith hon gyda fi.

“Felly am y tro, dw i’n camu’n ôl, ond nid i ffwrdd o’r tîm sy’n byw ynof fi ac sy’n rhedeg trwy fy ngwythiennau.

“Wedi’r cyfan, y ddraig ar fy nghrys yw’r cyfan sydd ei angen arna i.

“Gyda’n gilydd yn gryfach. Diolch.”


Y graffiti ar ffenestr y swyddfa

Apêl yr heddlu am graffiti ar swyddfa Aelod Seneddol Ceidwadol

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i fandaliaid roi graffiti ar swyddfa Aelod Seneddol Ceidwadol.

Cafodd y geiriau ‘Tories Out’ eu hysgrifennu’n anghywir ar ffenest swyddfa Simon Hart yn Hendy-gwyn yn Sir Gaerfyrddin. Fe yw Aelod Seneddol Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Roedd y fandaliaeth wedi digwydd rhywbryd nos Iau, Ionawr 5 neu fore Gwener, Ionawr 6.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y graffiti ar yr adeilad ar Stryd St John gysylltu â Heddlu Dyfed Powys, meddai’r heddlu.

Dywedodd Simon Hart nad yw’n berchen yr adeilad, a bod y fandaliaeth wedi achosi  “anghyfleustra i’r perchennog a’r bobl eraill sy’n defnyddio’r adeilad”.

“Does dim rhaid i Banksy boeni gormod am y gystadleuaeth,” meddai.

Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ddweud bod y digwyddiad yn “ymosodiad gwarthus” ar swyddfa ei gydweithiwr.

“Os ydych chi’n troi at y math hwn o ymddygiad, rydych chi’n colli’r ddadl,” meddai Andrew RT Davies.

“Ddylai Simon ddim gorfod dioddef hyn. Ac yn sicr ddylai ei dîm ddim gorfod ei ddioddef.”


S4C yn llwyddo i ddenu mwy o wylwyr iau

Mae S4C wedi llwyddo i ddenu mwy o wylwyr iau.

Mae hyn yn “gamp enfawr mewn byd darlledu cystadleuol ac sy’n newid yn gyflym”, meddai’r sianel.

Mae’r “newid seismig” mewn arferion gwylio’r cynulleidfaoedd iau ar draws llawer o lwyfannau ffrydio, “wedi bod yn heriol”, meddai S4C.

Mae’r ffigurau dros y naw mis diwethaf yn dangos bod nifer y bobl iau, rhwng 16 i 44 oed, sy’n gwylio S4C yn uwch nag y mae wedi bod ers 2008.

Mae’r sianel hefyd wedi gweld cynnydd o 35% yn eu ffigyrau gwylio llinol, a dal i fyny yn y grŵp oedran 16-44 ar gyfer 2022-23 o gymharu â’r flwyddyn gynt.

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod mwy o bobl iau yn dewis gwylio’u hoff raglenni oriau brig ar S4C Clic ac iPlayer.

Yn ôl Prif Weithredwr S4C Siân Doyle, mae sawl rheswm dros hyn.

“Dyw hi ddim wedi bod yn hawdd i gyrraedd y pwynt yma ac yn sicr, dim ond dechrau taith hir yw hyn,” meddai.

Dywedodd ei bod yn bwysig gwneud yn siŵr bod gwylwyr yn gallu gwylio eu hoff raglenni “ar amser, mewn lle ac ar lwyfan sydd fwyaf addas iddyn nhw.”

“Yn y byd modern, prysur yr ydym yn byw ynddo, mae’r hyblygrwydd yma’n bwysig.

“Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru i gael sector creadigol mor gryf.”

Dywedodd bod ffigyrau gwylio dros y Nadolig yn dangos bod rhaglenni fel Gogglebocs Cymru a chyfresi newydd o Gwesty Aduniad ac Yr Amgueddfa wedi denu cynulleidfaoedd uwch nag erioed.

Roedd darllediadau o gemau Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar wedi denu’r niferoedd uchaf erioed i’r sianel, meddai.

“Fe wnaeth tîm S4C weithio’n galed iawn i wneud i hyn ddigwydd,” meddai.


Cyhoeddi mai 2023 yw Blwyddyn Llwybrau yng Nghymru

Mae Croeso Cymru wedi dweud mai Blwyddyn Llwybrau fydd 2023.

Maen nhw eisiau i bobl ddilyn a chreu eu llwybrau eu hunain dros y flwyddyn.

Dros y bum mlynedd ddiwethaf, mae Croeso Cymru wedi cael gwahanol themâu – Antur, Chwedlau, y Môr, Darganfod, a’r Awyr Agored – ar gyfer hyrwyddo’r wlad i dwristiaid.

Y nod ydy denu ymwelwyr ym mhob tymor drwy gyflwyno Cymru fel lleoliad sydd ar agor drwy’r flwyddyn, meddai Croeso Cymru.

Mae Croeso Cymru yn annog pobol i gerdded llwybrau enwog fel Llwybr Arfordir Cymru, ond hefyd i greu eu teithiau eu hunain.

Wedi’r pandemig, mae ymchwil yn dangos bod pobol yn chwilio am brofiadau sy’n cysylltu nhw efo pethau fel treftadaeth, diwylliant, natur a’r gymuned.

Mae rhai o’r teithiau sy’n cael eu hyrwyddo gan Croeso Cymru’n cynnwys llwybrau cerdded, beicio, rhedeg a marchogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru a Llwybrau Seryddol Mynyddoedd Cambria.

“Rydyn ni’n dechrau 2023 gydag ymgyrch newydd i wneud yn siŵr bod Cymru yn weladwy, ac i gefnogi’r sector mewn adeg sy’n parhau i fod yn heriol ar gyfer y diwydiant,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.

“Mae 2023 yn gyfle inni ddathlu llwybrau Cymru, o’r hen rai i’r rhai newydd sbon, ac i agor ein gwlad i bawb ei mwynhau.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at annog pobol i ymweld â rhannau gwahanol o’r wlad drwy gydol y flwyddyn nesaf.”