Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • 18 o bobol wedi eu saethu yn farw yn Maine yn America
  • Gwallt Elin Jones “yn stori newyddion!”
  • BBC Radio Cymru wedi colli tua 30,000 o wrandawyr mewn blwyddyn
  • Agor canolfan drochi i blant yn Sir Caerffili

18 o bobl wedi eu saethu yn farw yn Maine yn America

Cafodd 18 o bobl eu saethu’n farw yn Maine yn yr Unol Daleithiau ddydd Mercher (25 Hydref).

Cafodd 13 o bobl hefyd eu hanafu.

Mae cannoedd o swyddogion heddlu ar hyd talaith Maine yn parhau i chwilio am y dyn sy’n cael ei amau o’u saethu.

Mae’r heddlu wedi dweud wrth bobl sy’n byw yn ninas Lewiston a thref Lisbon i aros yn eu cartrefi gyda’r drysau wedi eu cloi.

Mae’r heddlu wedi enwi Robert Card, 40, fel person maen nhw eisiau ei holi fel rhan o’r ymchwiliad.

Roedd yn gweithio fel hyfforddwr saethu. Mae’r heddlu’n dweud ei fod yn “arfog a pheryglus“.

Dywedodd yr heddlu bod yr ymosodiadau wedi digwydd tua 7pm nos Fercher mewn bar ac mewn canolfan fowlio. Maen nhw tua phedair milltir i ffwrdd o’i gilydd.

Roedd ysgolion a busnesau lleol wedi cau ddydd Iau a dydd Gwener.


Wyneb Elin Jones
Elin Jones, Llywydd y Cynulliad

Gwallt Elin Jones “yn stori newyddion!”

Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies wedi cael ei gyhuddo o “gasineb at  ferched”. Mae hyn ar ôl iddo wneud sylwadau ar sianel deledu GB News.

Roedd Andrew RT Davies ar raglen Nigel Farage ar GB News. Roedd e wedi awgrymu bod Llywydd y Senedd Elin Jones “yn rhy brysur yn gwneud ei gwallt” i ymddangos ar y rhaglen.

Roedd rhaglen Nigel Farage wedi cael ei darlledu o Gaerdydd nos Fercher (25 Hydref).

Dywedodd Nigel Farage bod Elin Jones wedi cael gwahoddiad i ymddangos ar y rhaglen, ond eu bod nhw heb gael “unrhyw ateb o gwbl.”

Atebodd Andrew RT Davies ei bod “yn brysur yn gwneud ei gwallt.”

Andrew RT Davies

Daw hyn ar ôl i GB News gael ei thynnu oddi ar system deledu fewnol y Senedd ym Mae Caerdydd.

Roedd llefarydd ar ran Elin Jones bod hyn “yn dilyn darllediad diweddar a oedd yn fwriadol sarhaus, yn diraddio dadl gyhoeddus ac yn mynd yn groes i’n gwerthoedd ni fel senedd.”

Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi beirniadu sylwadau Andrew RT Davies. Dywedodd bod hyn yn “gasineb at fenywod cwbl warthus” ac mae’n dweud y dylai ymddiheuro ar unwaith i Elin Jones.

Mae Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth hefyd wedi beirniadu Andrew RT Davies. Dywedodd bod yna “ddiffyg parch ofnadwy” tuag at “Aelod o’r Senedd, Llywydd y Senedd a dynes.”

Dywedodd Andrew RT Davies: “Mae’r ymadrodd yma yn cael ei ddefnyddio gan nifer o Gymry, rhywbeth dwi wedi ei ddweud am ddynion, menywod a hyd yn oed fi fy hun.

“Efallai bod Llafur a Phlaid Cymru yn meddwl mai dyma brif fater y dydd, ond mae fy ffocws i ar flaenoriaethau pobl Cymru i leihau’r amseroedd aros yn y GIG a chael gwared ar y terfyn cyflymder 20mya.”

Mae Elin Jones wedi ymateb i’r sylwadau. Mae hi’n dweud eu bod yn “wirion” ac “amhriodol.”

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Elin Jones: “Mae fy ngwallt wedi dod yn stori newyddion!

“Roeddwn i bob amser yn dweud mai’r Torïaid oedd y gwleidyddion mwyaf cwrtais. Be’ ddigwyddodd?”


BBC Radio Cymru wedi colli tua 30,000 o wrandawyr mewn blwyddyn

Mae BBC Radio Cymru wedi colli tua 30,000 o wrandawyr mewn blwyddyn.

Roedd nifer y gwrandawyr wedi gostwng bron i 30,000 ym mis Medi o gymharu gyda’r un cyfnod flwyddyn yn ôl.

Roedd 102,000 o bobl wedi gwrando ar yr orsaf ym mis Medi 2023 – o’i gymharu â 131,000 yn yr un cyfnod yn 2022. Dyma beth mae ffigyrau gwrando Rajar yn dangos.

Roedd canran yr oriau gwrando ar gyfartaledd wedi gostwng 33%.

Yn ystod y pandemig yn 2021 roedd 164,000 o bobl yn gwrando ar Radio Cymru.

Mae gostyngiad o bron i 62,000 wedi bod yn nifer y gwrandawyr erbyn mis Medi eleni o gymharu gyda’r cyfnod yn 2021.

Logo Radio Cymru

Mae llefarydd ar ran BBC Cymru wedi dweud: “Mae ffigyrau Rajar yn cael eu cyhoeddi yn chwarterol ac fel bob chwarter byddwn yn edrych yn ofalus ar y data sy’n cael ei gyflwyno.

“Rydym yn falch iawn mai BBC Radio Cymru yw’r orsaf fwyaf poblogaidd o ran siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n gwrando am 12 awr a 27 munud yr wythnos ar gyfartaledd.

“Mae’r BBC hefyd wedi cyflwyno cynlluniau i Ofcom i greu Radio Cymru 2 fel gorsaf lawn ac yn gobeithio datblygu’r cynlluniau cyffrous hynny dros y misoedd nesaf.”

 


Agor canolfan drochi i blant yn Sir Caerffili

Mae canolfan drochi newydd i blant wedi agor yn Sir Caerffili.

Mae’r ganolfan yn cefnogi plant sy’n dysgu Cymraeg yn hwyrach. Maen nhw’n cael y cyfle i gael cyfnod dwys o ddysgu’r iaith cyn mynd yn ôl at ddosbarthiadau arferol yn yr ysgol.

Mae’r canolfannau yn cael eu hagor ymhob sir fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae tua chwech o blant yng Nghanolfan Gwenllian yn Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod. Mae’n un o 11 ysgol Gymraeg yn sir Caerffili.

Mae yna le i blant o unrhyw un o ysgolion Cymraeg Sir Caerffili.

Mae Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod ym mhentref Gilfach ger Bargod. Cafodd ei hagor yn 1963. Mae 201 o ddisgyblion yn mynd i’r ysgol.

Ond fel llawer o ysgolion eraill, cafodd yr ysgol ei tharo gan effeithiau Covid-19, gyda dysgu’n digwydd yn rhithiol ac ar-lein.

Pwrpas yr uned drochi yw sicrhau bod y plant hynny, a phlant sydd wedi colli eu Cymraeg am resymau eraill, yn gallu mynd yn ôl at addysg Gymraeg yn eu hysgolion arferol. Mae hefyd yn croesawu plant sy’n dysgu Cymraeg yn hwyrach.

Pennaeth yr ysgol ydy Jamie Hallett. Mae’n dweud: “Mae’r uned yma wedi rhoi cyfle i blant rydyn ni wedi’u colli o’r system i ddod ’nôl a throchi yn yr iaith Gymraeg, ac wedyn eu bod nhw’n dod ’nôl i’r system ac yn parhau gydag addysg Gymraeg.

“Hefyd, mae gyda ni ddisgyblion sydd yn dod o Loegr, un disgybl sydd yn dod o Lundain sydd wedi setlo fan hyn yn y Cymoedd ac mae hi hefyd wedi ymrwymo – hi a’r teulu – i’r iaith Gymraeg, felly mae’n amrywiaeth o bethau.”

Mae’r ganolfan wedi bod ar agor ers mis Medi ond cafodd agoriad swyddogol ddydd Gwener (Hydref 27). Mae’r dosbarthiadau’n fach gydag un athro ac un cynorthwyydd er mwyn rhoi amser un-i-un i’r plant.

Dywedodd Jamie Hallett: “Rydyn ni’n mynd i siopau, i amgueddfa, i ganolfan hamdden ac ati, er mwyn i’r disgyblion ddefnyddio’r iaith yn y gymuned ac i gael y profiadau yma tu allan i’r ysgol hefyd, fel bod e ddim yn rhywbeth maen nhw’n gwneud yn yr ysgol yn unig.”

Llywodraeth Cymru sydd wedi ariannu’r ganolfan drochi.