Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Treth twristiaeth yng Nghymru gam yn nes
  • Ffatri 2 Sisters ym Môn yn cau ei drysau am y tro olaf
  • Agor ysgol Saesneg newydd yn “gam yn ôl i addysg Gymraeg”
  • Gwrthwynebiad i enwau Cymraeg ar ysgolion Saesneg

 


Treth twristiaeth yng Nghymru gam yn nes

Mae cynlluniau ar gyfer treth twristiaeth yng Nghymru gam yn nes.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau codi treth twristiaeth ar ymwelwyr sy’n dod i Gymru.

Byddai awdurdodau lleol yn gallu codi’r dreth yn eu hardal nhw os ydyn nhw eisiau. Wedyn byddai’r arian yn cael ei wario ar yr ardal leol.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau cyflwyno’r ddeddfwriaeth i’r Senedd yn y ddwy flynedd nesa.

Mae pobl sy’n cefnogi’r cynllun yn dweud y bydd yn helpu i gynnal lleoliadau gwyliau. Ond mae pobl sy’n gwrthwynebu’r dreth yn dweud y bydd llai o bobl yn dod i Gymru. Maen nhw’n dweud bod twristiaeth yng Nghymru heb wella ers y pandemig a bod mwy o bobl yn dewis mynd dramor.

Byddai’r dreth yn cael ei godi ar ymwelwyr sy’n aros dros nos mewn llety masnachol.

Mae treth debyg yn cael ei chodi mewn gwledydd eraill ar draws y byd fel Gwlad Groeg, Fenis, Gwlad Thai, Amsterdam a Chatalwnia.


Ffatri 2 Sisters ym Môn yn cau ei drysau am y tro olaf

Mae ffatri yn Ynys Môn wedi cau ei drysau am y tro olaf (dydd Gwener, 31 Mawrth).

Mae 700 o bobl wedi colli eu swyddi.

Roedd y ffatri yn Llangefni yn prosesu dofednod. Roedd cwmni 2 Sisters wedi dweud ym mis Ionawr eu bod nhw’n cau’r ffatri. Mae wedi bod ar agor ers 1970.

Llinos Medi ydy arweinydd Cyngor Môn. Mae hi’n dweud fod cau’r ffatri yn “newyddion trychinebus” i’r gweithwyr a’u teuluoedd. Mae rhai o’r gweithwyr wedi dod o hyd i waith arall erbyn hyn.


Agor ysgol Saesneg newydd yn “gam yn ôl i addysg Gymraeg”

Byddai agor ysgol Saesneg newydd yn Rhondda Cynon Taf yn “gam yn ôl i addysg Gymraeg”.

Dyna beth mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, Heledd Fychan, yn dweud. Mae hi’n poeni fydd rhieni ddim eisiau anfon eu plant i’r ysgol Gymraeg sydd yn bellach i ffwrdd.

Mae Heledd Fychan wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Addysg Cymru, Jeremy Miles, yn galw arno i ymyrryd yn y penderfyniad.

Mae’r ysgol Saesneg newydd yn Glyncoch. Mae’n un o dair ysgol newydd carbon sero net sydd wedi cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg yn yr ardal wedi bod yn galw ers blynyddoedd am ysgol Gymraeg newydd ar y safle lle bydd yr ysgol yma’n cael ei hadeiladu.

Mae hyn ar ôl y penderfyniad i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton ac agor ysgol Gymraeg newydd ar safle Ysgol Heol y Celyn. Mae’r ysgol filltiroedd yn bellach o ardaloedd Ynysybwl a Glyncoch.

“Mae pryder yn yr ardal am ddyfodol y Gymraeg, ac mae nifer yn credu y bydd yr ysgol newydd hon yn gam yn ôl o ran yr iaith ac addysg Gymraeg,” meddai Heledd Fychan.

“Er bydd trafnidiaeth yn cael ei ddarparu i ysgol Gymraeg newydd, bydd rhieni heb gar angen teithio ar ddau fws i’w plant ddefnyddio’r clwb brecwast; os oes angen casglu eu plant ar gyfer apwyntiad brys neu os ydyn nhw’n sâl; neu os yw eu plant yn mynd i glybiau ar ôl ysgol.”

Mae Heledd Fychan yn poeni na fydd llawer o rieni yn dewis anfon eu plant i ysgol Gymraeg sy’n anoddach a drytach i’w chyrraedd na’r ysgol Saesneg newydd.

“Dw i’n synnu yn fawr gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn cynllun fydd yn niweidio’r Gymraeg yn yr ardal.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ail-ystyried cyfrwng iaith yr ysgol hon, a hynny ar frys.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yr ysgol newydd yng Nglyncoch yn rhoi’r cyfle i blant ddysgu Cymraeg o’r cychwyn cyntaf – “gan ddechrau o’i darpariaeth gofal plant gydag uned drochi Cymraeg, gan symud ymlaen at fwy o gyfleoedd i chwarae a dysgu drwy’r Gymraeg.

“Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn agor ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd ac yn ehangu’r ysgolion Cymraeg presennol.”


Gwrthwynebiad i enwau Cymraeg ar ysgolion Saesneg

Mae pobl ym Mhontypridd wedi dweud eu bod nhw’n poeni am enw ysgol newydd.

Maen nhw eisiau i ysgol newydd ar gyfer plant tair i 16 oed gadw’r enw Hawthorn (Y Ddraenen Wen).

Mae’r Cyngor wedi bod yn ymgynghori ar enwau’r ddwy ysgol newydd tair i 16 oed yn y Ddraenen Wen a Phontypridd ac ysgol Gymraeg newydd yn Rhydfelen.

Yr enwau posib ar gyfer yr ysgol tair i 16 oed newydd yn y Ddraenen Wen yw Ysgol Afon Wen/White River School, Ysgol Glan Dwr/Waterside School, Ysgol Cae Celyn/Hollyfield School ac Ysgol Coed Ilan/Ilan Woods School, gydag opsiwn “arall” hefyd.

Roedd disgwyl penderfyniad gan y Cabinet ddydd Mawrth, Chwefror 28. Ond cafodd yr adroddiad ei ohirio ac mae ymgynghoriad arall yn cael ei gynnal. Bydd yn dod i ben ar Ebrill 4.

Ond mae rhai pobl yn ardal y Ddraenen Wen yn gwrthwynebu newid enw’r ysgol yn eu hardal.

Mae Christine Thompson yn byw yn lleol. Mae hi’n dweud ei bod hi wedi mynd i’r ysgol gynradd, a’i mam a’i phlant.

Mae hi’n dweud nad ydy hi’n deall sut eu bod nhw wedi dewis pedwar enw Cymraeg ar gyfer ysgolion Saesneg.

Mae hi’n dweud y gallai “danseilio” yr iaith Saesneg a bod Saesneg “yn fwy buddiol i blant yn y byd ehangach”.

“Dylai’r pwyslais fod ar addysg yn lle ail-frandio,” meddai.

“Hawthorn fuodd hi erioed oherwydd fe fu yna ddraenen wen yma,” meddai.

“Pam maen nhw mor benderfynol o gefnu arno? Pam ydyn ni’n cael logo newydd?”

Mae Denise Morgan yn gyn-ddisgybl yn yr ysgol ac yn byw yn y Ddraenen Wen. Mae hi’n dweud ei bod hi’n deall y penderfyniad i gyflwyno’r Gymraeg, ond nid newid yr enw.

“Mae ysgol Hawthorn wedi bod yn rhan o’r gymuned ers llawer o flynyddoedd,” meddai.

Dywedodd ei bod hi’n hawdd dod o hyd iddi yn yr ardal leol, ac nad yw’r enw ‘Afon Wen/White River’ yn “golygu dim o gwbl i’r ysgol, i fi nac i nifer o bobol eraill”.

Mae hi’n dweud bod y rhan fwyaf o bobol yn yr ardal yn siarad Saesneg. Does ganddyn nhw ddim cysylltiadau gyda’r enwau lleoedd sy’n cael eu cynnig, meddai.

“Byddai’n drueni gweld yr enw yn mynd. Mae ganddo fe gysylltiadau hanesyddol.

Ymateb y Cyngor

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf bod y disgyblion wedi chwarae rhan bwysig wrth ddewis enw i’r ysgol.

“Mae’r ymgynghoriad wedi sicrhau bod y broses wedi mynd ymhellach nag unrhyw ymgynghoriad o’r blaen gan y Cyngor ar gyfer enwi ysgol newydd.

“Mae penaethiaid, staff, disgyblion a’r gymuned wedi gallu dweud eu dweud.