Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • ‘Vogel’: Pobol yn cwyno am gamsillafiad mewn prawf rhybudd argyfwng
  • Bannau Brycheiniog: Sunak am barhau i ddefnyddio’r enw Saesneg
  • Betsi Cadwaladr yn wynebu cyhuddiadau troseddol ar ôl marwolaeth claf
  • Menter iaith eisiau codi £30,000 i droi hen gartre’r Beasleys yn ganolfan iaith

‘Vogel’: Pobol yn cwyno am wall sillafu mewn prawf rhybudd argyfwng

Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn cwyno am fod gwall sillafu yn y prawf rhybudd argyfwng.

Roedd y neges awtomatig wedi cael ei gyrru i ffonau symudol am 3yp ddydd Sul, Ebrill 23.

Roedd y neges Gymraeg wedi cael ei dangos yn gyntaf yng Nghymru.

Roedd y neges yn dweud: “Mewn argyfwng go iawn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y rhybudd i’ch cadw chi ac eraill yn Vogel” – yn lle “yn ddiogel”.

Mae’r gwall wedi achosi dipyn o drafod ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud mai problem dechnegol wnaeth achosi’r gwall sillafu.

“Fe wnaeth gwall technegol achosi un gair yn fersiwn Gymraeg y prawf rhybudd argyfwng i gael ei gamsillafu,” meddai’r llefarydd.

“Mae’r ffaith i hyn ddigwydd mewn neges brawf yn golygu y gallwn ei ddatrys yn y dyfodol.”

Fe wnaeth cannoedd o bobol droi at Twitter i gwyno am y gwall.

“Beth mae “yn Vogel” fod i’w olygu @UKGovWales?” gofynnodd Joshua Declan McCarthy, Swyddog Ymgyrchoedd Plaid Ifanc.

“Mae hyn wedi bod yn y penawdau ers wythnosau ac wythnosau ac wythnosau a doeddech chi methu ffeindio unrhyw un i brawf ddarllen y cyfieithiad Cymraeg?”

“Byddai rhywun wedi meddwl y bydden nhw wedi gwirio neges o’r fath!,” meddai un arall ar Facebook.

“Braf gwybod bod y llywodraeth yn cymryd y system rhybudd argyfwng mor ddifrifol, dydyn nhw ddim hyd yn oed wedi trafferthu cael cyfieithiad cywir i’r Gymraeg,” meddai’r awdur a cholofnydd golwg, Manon Steffan Ros.


Bannau Brycheiniog yn yr haul
Bannau Brycheiniog

Bannau Brycheiniog: Sunak am barhau i ddefnyddio’r enw Saesneg

Mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi dweud y bydd yn parhau i ddefnyddio’r enw Saesneg ‘Brecon Beacons’, ac nid Bannau Brycheiniog.

Mae wedi cael ei feirniadu am ddweud hyn.

Mae’r parc cenedlaethol wedi gollwng ei enw Saesneg. Bydd yn cael ei adnabod fel ‘Bannau Brycheiniog National Park’ yn Saesneg. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r penderfyniad.

Dywedodd Rishi Sunak ei fod yn credu y byddai’r “rhan fwyaf o bobl” yn cadw at yr enw Saesneg.

Roedd e hefyd wedi dweud ei fod yn “gefnogwr mawr o’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig”.

Mae Rishi Sunak yn dweud bod y parc “yn lle adnabyddus yn rhyngwladol i ymweld ag e, ac mae’n denu ymwelwyr o bob rhan o’r byd”.

Dywedodd ei fod yn “rywbeth rydyn ni i gyd yn falch ohono ar draws y Deyrnas Unedig”, ond y byddai’n “parhau i’w alw’n Brecon Beacons”.

“Byddwn i’n dychmygu y byddai’r rhan fwyaf o bobol yn gwneud hynny hefyd,” meddai.

Roedd yn siarad cyn cynhadledd y blaid dros y penwythnos.

Mae’r actor Julian Lewis Jones wedi beirniadu Rishi Sunak. Gofynnodd a fyddai’n mynd i Awstralia ac yn gwrthod defnyddio’r enw brodorol Uluru gan fynnu ei alw wrth ei enw Saesneg Ayers Rock.

Mae’r mudiad annibyniaeth YesCymru wedi ymateb gan alw Rishi Sunak yn “Brif Weinidog Lloegr”.


Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd, Bangor

Betsi Cadwaladr yn wynebu cyhuddiadau troseddol ar ôl marwolaeth claf

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn wynebu cyhuddiadau troseddol, ar ôl marwolaeth claf iechyd meddwl.

Roedd y claf wedi marw yn Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd ar Ebrill 20 2021.

Roedd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cynnal ymchwiliad. Cafodd y bwrdd iechyd eu cyhuddo o fethu â chyflawni eu dyletswydd i sicrhau bod cleifion ddim “yn agored i risgiau i’w hiechyd neu eu diogelwch”.

Darren Millar ydy llefarydd gogledd Cymru y Ceidwadwyr Cymreig. Mae’n dweud bod y digwyddiad yn “warthus”.

Dywedodd y bydd llawer o bobol “yn synnu at y newyddion” bod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn erlyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr “am wneud cleifion yn agored i risgiau” oedd wedi arwain at farwolaeth claf iechyd meddwl yn eu gofal, meddai.

“Mae’r methiant i fynd i’r afael â heriau yn ein gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru yn warthus.”

Roedd y farwolaeth wedi digwydd ychydig fisoedd ar ôl i’r Bwrdd Iechyd gael ei dynnu allan o fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru.

“Mae’n codi’r cwestiwn – oedd y penderfyniad hwnnw wedi cyfrannu at y drasiedi hon?”

Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu tynnu allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020.

Ond cafodd ei roi yn ôl mewn mesurau arbennig fis Chwefror eleni. Roedd pryderon am berfformiad y bwrdd iechyd.

“Mae hwn yn achos trasig iawn ac mae ein calonnau’n mynd allan i deulu ac anwyliaid y claf,” meddai llefarydd ar ran y bwrdd iechyd.

“Ni allwn wneud sylw pellach nes bod y gwrandawiad wedi dod i ben.”

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod eu “meddyliau gyda phawb sydd wedi’u heffeithio gan y farwolaeth drist hon”.

“Ni allwn wneud sylw pellach tra bod y gwrandawiad yn parhau,” meddai.

Mae disgwyl y bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn Llys Ynadon Llandudno ar Awst 3.


Cartref Eileen a Trefor Beasley yn Llangennech

Menter iaith eisiau codi £30,000 i droi hen gartre’r Beasleys yn ganolfan iaith

Mae menter iaith eisiau codi miloedd o bunnoedd er mwyn prynu cartref  ymgyrchwyr iaith a’i droi’n ganolfan dreftadaeth.

Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn gobeithio codi £30,000 i brynu tŷ Eileen a Trefor Beasley yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin.

Roedd Trefor ac Eileen Beasley wedi gwrthod ymateb i lythyron treth Saesneg am wyth mlynedd. Roedden nhw wedi mynnu bod un Gymraeg yn cyrraedd eu bwthyn yn Yr Allt, Llangennech.

Roedden nhw wedi colli’r bwthyn i’r beilïaid ar ôl bod o flaen y llys 12 o weithiau.  Roedden nhw wedi defnyddio hyn fel cyfle i fynnu gwrandawiad llys yn y Gymraeg.

Roedd ymgyrch y Beasleys wedi parhau am wyth mlynedd tan iddyn nhw gael llythyr treth dwyieithog yn 1960.

Mae eu safiad yn cael ei ystyried fel dechrau ar ddegawdau o ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg a’i statws.

Erbyn hyn, mae’r tŷ wedi dirywio ar ôl bod yn wag ers dros ddegawd. Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn teimlo mai “nawr yw’r amser i achub y safle hanesyddol ar gyfer y dyfodol.”

Maen nhw eisiau codi arian trwy wefan GoFundMe er mwyn creu canolfan sy’n dathlu cyfraniad Trefor ac Eileen Beasley tuag at yr iaith Gymraeg, a chreu canolfan i’r gymuned Gymraeg.

Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli eisiau codi £30,000 er mwyn gallu prynu’r safle, sydd ar werth am £140,000 ar hyn o bryd.

Daeth y syniad yn wreiddiol drwy sesiynau hanes Llanelli i blant ysgol gynradd.

“Wrth i ni wneud y sesiynau yma, doedd plant Llanelli ddim rili wedi clywed amdanyn nhw [y Beasleys], ond roedden nhw’n hoffi’r stori, ac wedi dysgu lot,” meddai John Derek Rees, Swyddog Datblygu Tref Llanelli.

“Wnaethon ni sylweddoli bod eu tŷ nhw yn Llangennech ar werth.

“Mae e mewn tipyn o stad. Wnaethon ni benderfynu bod eisiau achub y tŷ a dathlu’r hanes ddigwyddodd yn y tŷ.

“Y gobaith yw creu canolfan dreftadaeth ble mae plant ysgol yn gallu dod, lle mae dysgwyr yn gallu dod, lle mae’r [bobol] Gymraeg a’r di-Gymraeg yn gallu dod a chofio’r hanes.

“Ond hefyd, bod o’n ganolfan iaith sy’n edrych i’r dyfodol.”

“Fi’n credu eu bod nhw’n arwyr,” meddai John Derek Rees.

“I ni, nawr, sydd yn elwa gymaint o’r Gymraeg a statws y Gymraeg, mae ein dyled ni mor fawr iddyn nhw.

“Rydyn ni’n cymryd yn ganiataol beth oedd rhaid iddyn nhw frwydro amdano.

“Wnaethon nhw aberthu gymaint.

“Aeth beilïaid â phopeth o’u tŷ nhw, ac ar un pwynt wnaethon nhw fynd â’r carpedi, hyd yn oed. Roedden nhw’n gwrthod talu’r bil tra roedd y llythyr yn Saesneg.

“Mae’n bwysig eu bod nhw’n cael eu cofio a’u hanrhydeddu.”

Ar hyn o bryd, mae’r fenter yn dal i drafod beth ydy’r cynllun ar gyfer y ganolfan.

“Rydyn ni eisiau iddo fe fod yn rywle ble mae ysgolion yn gallu dod a chael y profiad o weld y tŷ fel oedd e efallai.

“Hefyd, bydden i yn licio iddo fe fod yn rywle ble mae pobol yn dod i ddysgu Cymraeg.

“Fi’n credu y byddai hwnna’n siwtio’n berffaith. A rhywle ble fyddai mudiadau Cymraeg yn gallu defnyddio.

“Byddai’n ganolfan i’r gymuned hefyd.”