Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Poeni am reol 182 ar gyfer llety gwyliau
- Y dylunydd ffasiwn Mary Quant wedi marw’n 93 oed
- Llwyddiant i’r Cymry yn yr Ŵyl Ban Geltaidd
Poeni am reol 182 ar gyfer llety gwyliau
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod rheol 182 ar gyfer llety gwyliau yn cael effaith ar y sector twristiaeth ar draws Cymru.
Cafodd y rheol ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar 1 Ebrill.
Mae’n golygu bod rhaid i lety gwyliau fod yn llawn am 182 diwrnod y flwyddyn er mwyn cael ei ystyried yn llety gwyliau. Mae hefyd yn golygu eu bod nhw’n cael talu trethi busnes yn lle treth cyngor domestig.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod llawer yn fusnesau bychain teuluol. Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi siarad efo busnesau sy’n teimlo effaith y rheolau.
Mae rhai yn dweud bod trio llenwi llety am 182 o ddiwrnodau yn anodd i rai busnesau “waeth pa mor galed maen nhw’n trio.” Mae rhai ardaloedd gwledig yng Nghymru sydd ddim yn denu cymaint o dwristiaeth yn ei chael hi’n anodd.
Marnie Slade ydy perchennog hen gapel Capel Cartref yng Nghwmtwrch. Mae hi’n dweud bod y rheol newydd wedi achosi “llawer o straen”.
Mae hi’n dweud bod trethu llety gwyliau yn y ffordd yma’n “rhoi pobol allan o fusnes”.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod Llywodraeth Cymru ddim yn fodlon gwrando.
“Yn syml iawn, fe fydd gweithredoedd Llywodraeth Cymru’n rhoi pobol allan o fusnes ac allan o waith,” meddai Sam Rowlands. Fe yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth yn y Senedd.
“Rydyn ni wedi bod yn brwydro yn erbyn y rheol 182 diwrnod hon ers y dechrau,” meddai Tom Giffard, llefarydd twristiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.
“Wnaethon nhw ddim gwrando ar y diwydiant twristiaeth, wnaethon nhw ddim gwrando ar y teuluoedd sy’n rhedeg y llety, wnaethon nhw ddim gwrando ar ardaloedd yng Nghymru sy’n dioddef oherwydd diffyg twristiaeth, wnaethon nhw ddim gwrando.”
Wrth ymateb i hyn, mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod y newidiadau wedi eu cyflwyno “i helpu i ddatblygu marchnad dai decach ac i sicrhau bod perchnogion eiddo’n gwneud cyfraniad teg i’r cymunedau lle maen nhw’n berchen cartrefi neu’n rhedeg busnesau.”
Bydd y rheolau newydd ar gyfer llety hunanarlwyo “yn dangos yn gliriach fod yr eiddo hwn yn cael eu llogi’n rheolaidd ac yn gweithredu fel busnesau gwyliau am o leiaf hanner y flwyddyn,” meddai Llywodraeth Cymru.
Ond maen nhw’n dweud y bydd awdurdodau lleol yn gallu penderfynu a fyddan nhw’n cyflwyno premiwm treth cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn eu hardaloedd.
Y dylunydd ffasiwn Mary Quant wedi marw’n 93 oed
Mae’r dylunydd ffasiwn Mary Quant wedi marw yn 93 oed.
Roedd Mary Quant yn enwog am ei sgertiau mini a ‘hot pants’. Roedd steil ei dillad wedi rhoi rhyddid newydd i ferched ar ddechrau’r 1960au.
Roedd ei gwreiddiau yng Nghymru. Cafodd ei rhieni, Jack a Mildred Quant, eu magu yn ne Cymru. Fe enillodd y cwpl ysgoloriaeth i fynd i ysgol ramadeg ac yna i Brifysgol Caerdydd. Ar ôl graddio fe aeth y ddau i ddysgu mewn ysgolion yn Llundain. Cafodd Mary Quant ei magu yn Blackheath yn Llundain. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe aeth hi a’i brawd i fyw i Ddinbych y Pysgod fel efaciwis.
Roedd ei chefndir Cymreig yn bwysig iawn iddi.
Fe agorodd ei siop gyntaf, Bazaar, yn y King’s Road yn Llundain yn 1955. Daeth yn enwog am ei boutiques ffasiwn, fel Biba a agorodd yn 1964.
Roedd hi’n briod ag Alexander Plunket Greene tan ei farwolaeth yn 1990, ac roedd ganddyn nhw fab, Orlando. Roedd hi’n byw yn Surrey ar ddiwedd ei hoes.
Dylunydd a chyfarwyddwr celf ydy Gwyn Eiddior. Mae e wedi rhoi teyrnged i’r Fonesig Mary Quant.
“Mary Quant, yn sicr cyfraniad amlycaf a mwya’ pellgyrhaeddol un o Gymru i ffasiwn y blaned yn yr ugeinfed ganrif,” meddai ar Twitter.
Dywedodd amgueddfa’r V&A ar eu cyfrif Twitter: “Roedd hi’n cynrychioli rhyddid llawen ffasiwn y 1960au, ac wedi cynnig model rôl newydd i fenywod ifainc.
“Mae ar ffasiwn gymaint i’w gweledigaeth oedd yn torri tir newydd.”
Llwyddiant i’r Cymry yn yr Ŵyl Ban Geltaidd
Mae’r Moniars Bach wedi cael llwyddiant yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon yr wythnos hon.
Roedden nhw wedi ennill y wobr am y Band Gwerin Gorau a’r Gân Newydd Orau (Gwerin).
Maen nhw’n perfformio o dan eu henw newydd, Elysian. Gwen Edwards sy’n canu, Elin Hâf Taylor ar y sielo, Arfon Wyn ar y gitâr ac Einion Williams sy’n chwarae’r bodhrán (y drwm Gwyddelig).
Roedd y criw hefyd wedi chwarae i Dylan Morris yn Carlow. Roedd e’n cystadlu gyda’r gân enillodd Cân i Gymru eleni, ‘Patagonia’. Mae’r gân wedi’i chyfansoddi gan Alistair James.
Roedd Elysian wedi ennill yn y gystadleuaeth Cân Newydd Orau gydag ‘Afon Bacsia’. Mae’r gân wedi’i chyfansoddi gan Arfon Wyn.
“Mae’r gân yn sôn am hanes cwpl wnaeth gyfarfod wrth Afon Bacsia ac wedi mynd ati i adeiladu bwthyn i’w teulu fyw ynddo yn Sir Fôn allan o gerrig o’r afon, gan eu bod nhw mor dlawd,” meddai Arfon Wyn.
“Roeddwn i wedi bod yn chwarae efo’r syniad ac roedd y stori’n ddiddorol.
“Roeddwn i wedi clywed am hen wraig o bentref Rhosmeirch oedd yn cynnig paned i’r cwpl yma oedd yn gweithio’n galed i adeiladu’r tŷ am ei bod hi’n teimlo drostyn nhw.
“Dim ond bwthyn bach roedden nhw wedi gallu adeiladu, jest digon iddyn nhw allu byw ynddo fo.
“Roedd y stori wedi aros yn fy mhen, felly mae’r geiriau’n egluro bod y cwpl, er yr amser caled, wedi cael bywyd hapus.”
Bydd ‘Afon Bacsia’ ar gael i’w chlywed ar albwm Elysian.
Fel rhan o’r gystadleuaeth Band Gwerin Gorau, perfformiodd Elysian ‘Afon Bacsia’ a ‘Hen Ferchetan’. Roedd Arfon eisiau rhoi’r cyfle i rywun ifanc gystadlu.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed ac mae’n deimlad braf iawn cael bod yn ôl, a rhoi cyfle i’r genod ifanc.
“Mae gan Gwen Edwards lais hollol wych.
“Roeddwn i jest eisiau rhoi siawns i rywun ifanc i gael canu – gan fod y Moniars wedi cael y cyfle o’r blaen – roeddwn i eisiau i Gwen gael y cyfle o gystadlu yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.
“Aethon ni ag Elin Fflur efo ni i’r ŵyl yn 2002, a wnaethon ni guro’r Gystadleuaeth Cân Ryngwladol.”
Mae fideo o Elysian yn perfformio ‘Hen Ferchetan’ yn yr ŵyl yma.
Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal ers y pandemig.
“Mae hi’n braf cael gweld hen gyfeillion o’r gwledydd Celtaidd eraill,” meddai Arfon.
“Ti’n gwneud ffrindiau newydd yn yr ŵyl ac mae o’n braf iawn cael gwneud hynny.”