Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Dyn yn euog o lofruddio merch fach ddwy oed ei bartner
  • Galw am newid arwyddion ffyrdd ym Machynlleth
  • Y Ceidwadwyr Cymreig eisiau i Gymru i ddathlu coroni Charles yn Frenin Lloegr
  • Defnyddio gwlân i greu llwybrau cyhoeddus

Dyn yn euog o lofruddio merch fach ddwy oed ei bartner

Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio merch fach ddwy oed ei bartner.

Roedd Kyle Bevan, 31 oed o Aberystwyth, wedi gwadu ymosod ar Lola James. Roedd e’n gofalu amdani ar y pryd ym mis Gorffennaf 2020.

Mam Lola ydy Sinead James, sy’n 30 oed ac o Neyland yn Sir Benfro. Roedd hi wedi ei chael yn euog o achosi neu ganiatáu ei marwolaeth.

Roedd Lola wedi marw yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf 2020. Roedd hi wedi cael anaf “catastroffig” i’w phen. Roedd ganddi 101 o anafiadau eraill.

Roedd Kyle Bevan wedi dweud bod Lola wedi syrthio i lawr y grisiau. Roedd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe wedi gwrthod hynny.

Clywodd y llys fod Kyle Bevan yn cymryd y cyffur sbeis yn rheolaidd. Roedd e wedi trio celu beth roedd e wedi’i wneud i Lola yn lle ffonio am ambiwlans.

Roedd Lola wedi cael anafiadau o’r blaen pan oedd Kyle Bevan yn edrych ar ei hol hi.

Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu ar Ebrill 25.


Arwydd Cwm Maethlon

Galw am newid arwyddion ffyrdd ym Machynlleth

Mae Cynghorydd wedi galw am newid arwyddion ffyrdd ym Machynlleth.

Elwyn Vaughan ydy Cynghorydd Sir Plaid Cymru yn Nyffryn Dyfi.

Mae e’n gwrthwynebu defnyddio’r enw Saesneg ‘Happy Valley’ ar Gwm Maethlon wrth ymyl Pennal, Machynlleth, ac ‘Artists Valley’ am Gwm Einion wrth ymyl Ffwrnais.

Mae Elwyn Vaughan yn dweud eu bod nhw’n “enwau ffug i blesio twristiaeth”.

Mae e’n galw ar Gyngor Gwynedd a Cheredigion i newid yr arwyddion. Daw hyn ar ôl i rywun baentio dros yr enw ‘Happy Valley’ ar un arwydd ffordd dros y penwythnos.

Mae e’n dweud bod angen codi proffil a statws yr iaith yn yr ardal.

“Mae’r ardal gyfan wedi’i lleoli oddi fewn i ardal statws Biosffer UNESCO, sy’n rhoi pwyslais ar gynaladwyedd amgylcheddol a bioamrywiaeth, ac eto mae yna ddiffyg enbyd o ran cynaladwyedd y Gymraeg.

“Dyma pam dw i’n galw ar Gyngor Gwynedd a Chyngor Ceredigion i gael gwared ar yr enwau erchyll  yma ar arwyddion ffyrdd, sef ‘Happy Valley’ am Gwm Maethlon ger Pennal ac ‘Artists Valley’ am Gwm Einion ger Ffwrnais.

“Dim ond enwau ffug i blesio twristiaeth ydyn nhw.”

Mae rhai yn dweud bod yr enw ‘Happy Valley’ yn hŷn na Chwm Maethlon.

Dyffryn Gwyn oedd yr enw gwreiddiol ar yr ardal, ac mae’r enw Saesneg ‘Happy Valley’ yn mynd yn ôl i gyfnod y Fictoriaid.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion bod yr A487 rhwng Aberystwyth a Machynlleth yn dod o dan gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd am ymateb.


Y Brenin Charles III
Y Brenin Charles III

Y Ceidwadwyr Cymreig eisiau i Gymru i ddathlu coroni Charles yn Frenin Lloegr

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau i Gymru i ddathlu coroni Charles yn Frenin Lloegr.

Maen nhw’n dweud bod coroni Charles “yn gyfle i ddod â chymunedau at ei gilydd”. Mae’r blaid hefyd yn dweud bod Charles yn “siaradwr Cymraeg”.

Mae Sam Rowlands a Tom Giffard o’r blaid wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru. Maen nhw eu hannog i ddathlu’r digwyddiad ar 6 Mai.

Mae Sam Rowlands yn dweud y dylai cynghorau lleol ddarlledu’r digwyddiad.

Mae Tom Giffard yn dweud bod y coroni’n “bwysig i Gymru” gan fod “ein brenin newydd yn siaradwr Cymraeg”.

“Mae gan gynghorau’r cyfle i ddod â’r gymuned at ei gilydd i ddathlu coroni ein Brenin,” meddai Sam Rowlands.

“Dylai’r awdurdodau gynnal darllediad, ochr yn ochr â gweithgareddau eraill, gan hwyluso penwythnos gŵyl banc i’w gofio.”

“Rhaid i gynghorau sicrhau bod lleoliadau ar draws Cymru’n sgrinio seremoni’r coroni a chyngerdd y coroni’n fyw,” meddai Tom Giffard.

Bydd y BBC yn atal ffi’r drwydded deledu ar gyfer lleoliadau cyhoeddus dros y penwythnos hwnnw, gan gynnwys cyngerdd y coroni hefyd.


Defnyddio gwlan ar y llwybrau yn Llanddona

Defnyddio gwlân i greu llwybrau cyhoeddus

Mae gwlân wedi cael ei ddefnyddio yn lle plastig i greu llwybrau cyhoeddus yn Ynys Môn.

Mae gwlân wedi cael ei dreialu mewn dwy ardal ar yr ynys. Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn defnyddio gwlân wrth drwsio llwybrau ger Castell Aberlleiniog a Rhos Llaniestyn yn Llanddona.

Mae’r gwlân yn cael ei roi yn y llwybrau yn lle’r deunydd synthetig sy’n cael ei ddefnyddio fel arfer. Mae’r gwlân ar gyfer y prosiect wedi dod o Fetws y Coed.

Menter Môn sy’n gyfrifol am y cynllun newydd.

Mae’r cynllun yn rhan o brosiect Gwnaed â Gwlân. Mae’r rheolwr Elen Parry yn dweud bod y prosiect yn trio dod o hyd i “ffyrdd newydd cynaliadwy o ddefnyddio gwlân a gwneud yn siŵr bod ffermwyr yn cael pris tecach.”

Mae’r prosiect hefyd yn trio lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Mae gwlân tua 700 o ddefaid wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer y cynllun drwy brosiect Gwlân Prydain, sy’n sicrhau bod ffermwyr yn cael pris uwch am eu cynnyrch.