Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Dafydd Iwan yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed
  • Canlyniadau TGAU yng Nghymru yn is na llynedd
  • Un o bob pedwar dyfarnwr pêl-droed yng Nghymru wedi cael eu cam-drin yn gorfforol
  • Clwb Ifor Bach eisiau mwy o le

Dafydd Iwan yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed

Roedd Dafydd Iwan yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed wythnos yma (Awst 24).

Mae’r cerddor ac ymgyrchydd iaith wedi bod yn siarad gyda BBC Cymru.

Mae’n dweud bod poblogrwydd ei gân Yma o Hyd wedi “newid fy mywyd”.

Mae hi’n 40 mlynedd ers i’r gân brotest Yma o Hyd gael ei rhyddhau. Ond y llynedd roedd wedi dod yn anthem answyddogol ar gyfer ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd.

Roedd Dafydd Iwan wedi canu’r gân yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn y gemau yn erbyn Awstria a Wcráin.

Dywedodd: “Dwi’n gorfod pinsio fy hunan weithiau bod e wedi digwydd. Ond mi wnaeth hynny newid fy mywyd i.

“A’r peth mwya’ mae e wedi ei wneud ydi mynd â chân Gymraeg fel Yma o Hyd i fywydau ac ymwybyddiaeth miloedd o Gymry di-Gymraeg, a phobl tu allan i Gymru.

“Mae o wedi bod yn gyfnod gwych, ond mae o wedi argyhoeddi fi o’r ffaith bod pobl Cymru yn barod i newid eu hagwedd tuag at y Gymraeg go iawn,” meddai Dafydd Iwan.

“Dwi’n gweld llawer iawn o Gymry di-Gymraeg bellach yn frwd o blaid yr iaith. Maen nhw’n anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac mae hynny’n gymaint o ddatblygiad pwysig.”

Mae’r cyfweliad llawn gyda Dafydd Iwan i’w glywed ar BBC Sounds.


Canlyniadau TGAU yng Nghymru yn is na llynedd

Mae miloedd o ddisgyblion wedi bod yn cael eu canlyniadau TGAU yr wythnos hon. Mae graddau TGAU yng Nghymru yn is na llynedd.

Mae’r canlyniadau yn agosach at y lefelau oedden nhw cyn y pandemig. Roedd y graddau gorau dal yn uwch nag yn 2019. Dyma oedd y tro diwethaf cyn Covid i ddisgyblion sefyll arholiadau.

Roedd 21.7% o’r graddau TGAU yn A neu’n A*. Roedd 64.9% yn A* i C. Yn yr haf y llynedd roedd 68.6% wedi cael graddau rhwng A* i C. Dyma pryd oedd athrawon yn penderfynu graddau’r disgyblion.

Cymwysterau Cymru ydy’r corff arholiadau. Maen nhw’n dweud bod terfynau graddau yn is mewn rhai pynciau er mwyn helpu myfyrwyr oedd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig.


Un o bob pedwar dyfarnwr pêl-droed yng Nghymru wedi cael eu cam-drin yn gorfforol

Mae un o bob pedwar dyfarnwr pêl-droed yng Nghymru wedi cael eu cam-drin yn gorfforol yn ystod gemau. Dyna beth mae arolwg gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn dweud.

Roedd 282 wedi cymryd rhan yn yr arolwg. O’r rheiny, roedd 88% yn dweud eu bod nhw wedi dioddef camdriniaeth eiriol hefyd.

Roedd dros 50% yn teimlo bod ymddygiad pobol yn y byd pêl-droed tuag at ddyfarnwyr yn gwaethygu. Mae llawer ohonyn nhw wedi troi eu cefn ar y gêm.

Mae Sean Regan yn ddarlithydd, yn hyfforddwr ac yn gyn-ddyfarnwr. Mae e nawr wedi troi ei gefn ar y gêm.

“Fe wnaeth e fy ngorfodi i gwestiynu a yw’n werth e mewn gwirionedd.

“Dw i’n teimlo bod angen newid diwylliant.

“Fydd gyda ni ddim pêl-droed, pêl-droed ar lawr gwlad nac unrhyw gamp arall heb swyddogion.

“Mae angen i ni ymddwyn ar ochr y cae yn y ffordd rydyn ni’n credu y dylen ni ymddwyn wrth gerdded i lawr y stryd neu yn ein swyddfa.”

Mae penderfyniad dyfarnwyr i adael y byd pêl-droed yn cael effaith ar y gêm ar draws Cymru.

Does dim digon o ddyfarnwyr ar hyn o bryd i sicrhau bod swyddogion ar gael i ddyfarnu pob gêm yn y wlad.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwneud newidiadau i ddelio efo hyn. Maen nhw’n trio lleihau achosion o gamdriniaeth a gwella disgyblaeth i geisio denu mwy o ddyfarnwyr eto.

Mae’r newidiadau’n cynnwys anfon pobol o’r cae dros dro os ydyn nhw’n cam-drin swyddogion. Bydd dyfarnwyr ifainc yn gwisgo bandiau braich melyn er mwyn dangos eu bod nhw o dan 18 oed.

Mae pob swyddog hefyd yn cael cyngor am sut i adrodd am gamdriniaeth wrth ddyfarnu.


Clwb Ifor Bach yn Stryd Womanby, Caerdydd

Clwb Ifor Bach eisiau mwy o le

Mae Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd eisiau gwneud y safle yn fwy er mwyn gallu cynnal perfformiadau ar raddfa fwy.

Mae Clwb Ifor Bach wedi bod yn gartref i’r diwydiant cerddoriaeth ers 40 mlynedd.

Maen nhw eisiau ailddatblygu’r clwb a chreu gofod newydd gyda lle i 500 o bobol.  Byddai’n cynnwys ystafell arall gyda lle i 200 o bobol.

Roedd Clwb Ifor Bach wedi cyflwyno’r cynlluniau i Gyngor Sir Caerdydd yr wythnos hon. Mae’n golygu bod Clwb Ifor Bach yn uno’r adeilad drws nesaf gyda’r safle presennol ar Stryd Womanby.

Mae ganddyn nhw 18 mis i godi arian i wneud y gwaith. Maen nhw’n dweud bydd ganddyn nhw syniad gwell o’r gost yn yr hydref. Ond bydd angen buddsoddiad “sylweddol” ar gyfer y gwaith.

Guto Brychan ydy Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach. Mae’n dweud:  “Rydyn ni’n dathlu pen-blwydd Clwb Ifor yn 40 eleni, ac rydyn ni eisiau atgoffa pobol ers pryd rydyn ni wedi bod yma, a pha mor bwysig ydyn ni i’r gymuned ac i fywyd diwylliannol Caerdydd.”

Roedd Clwb Ifor Bach wedi agor yn 1983. Mae wedi helpu artistiaid o Gymru fel Stereophonics, Boy Azooga, Gwenno a Super Furry Animals yn eu gyrfaoedd.

Mae hefyd wedi cynnig cyfle i artistiaid newydd berfformio o flaen cynulleidfaoedd llai hefyd, gan gynnwys artistiaid byd-enwog fel Coldplay.