Dyma’r penawdau wythnos yma: 

Plaid Cymru yn ymateb i honiad o ymosodiad rhyw

Tîm pêl-droed Cymru ar eu ffordd adre o Qatar

Cymdeithas yr Iaith eisiau i bob plentyn adael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg

Cyfrifiad 2021: llai yn meddwl am eu hunain fel ‘Cymry’


Plaid Cymru yn ymateb i honiad o ymosodiad rhyw

Mae honiad o ymosodiad rhyw wedi cael ei wneud yn erbyn un o staff Plaid Cymru.

Dywedodd cyn-aelod o staff wrth y BBC bod y digwyddiad honedig wedi digwydd tua phedair blynedd yn ôl, pan oedden nhw’n gweithio i’r Blaid.

Mae hyn yn dod llai na mis ar ôl i Aelod o’r Senedd gael ei wahardd gan Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd. Rhys ab Owen ydy Aelod o’r Senedd Canol De Cymru. Mae’n dilyn achos difrifol honedig o dorri’r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd.

Mae yna honiadau hefyd bod diwylliant “tocsig” yn y Blaid.

Adam Price ydy arweinydd Plaid Cymru. Mae e’n dweud ei fod e a Phlaid Cymru yn cymryd “pob honiad” o gamymddwyno ddifrif”.

Nawr, mae’r Blaid wedi cael cwmni i ymchwilioi “honiadau o gamymddwyn”. Maen nhw’n aros i glywed beth fydd yr ymchwiliad yn dangos.

Roedd Adam Price yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Iau (Rhagfyr 1). Roedd e’n dweud fod y blaid wedi ymateb yn gyflym i’r adroddiadau.

Os ydy’r ymchwiliad yn dangos bod angen gwella pethau, meddai, byddan nhw’n gwneud hynny’n syth.

Mae’r blaid hefyd wedi dweud y byddan nhw’n rhoi cefnogaeth i’r staff.


Y Wal Goch yn Qatar

Tim pêl-droed Cymru ar eu ffordd adre o Qatar

Mae taith tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd wedi dod i ben.

Roedd Cymru wedi colli o 3-0 yn erbyn Lloegr nos Fawrth.

Roedd Marcus Rashford wedi sgorio dwy gôl ac un gan Phil Foden.

Mae’n golygu bod Lloegr yn gorffen ar frig y grŵp.

Tîm Cymru sydd wedi gorffen ar waelod y grŵp. Dim ond un pwynt roedd Cymru wedi sgorio yn y gêm gyfartal gyntaf yn erbyn yr Unol Daleithiau.

Roedd yr Unol Daleithiau wedi curo Iran o 1-0. Byddan nhw nawr yn mynd ymlaen i rownd yr 16 olaf hefyd.

Byddai’n rhaid i Gymru fod wedi curo Lloegr o bedair gôl er mwyn mynd drwodd.

“Gutted dw i’n credu yw’r gair, mae pawb nawr, doedden ni ddim eisiau mynd mas,” meddai Rubin Colwill wrth S4C ar ddiwedd y gêm.

“Dyma yw’r llwyfanmwyaf yn y byd ac mae’r timoedd eraill yn arbennig.

“Ni’n devastated, ond dyna sy’n digwydd ym mhêl-droed weithiau.”

“Rydyn ni’n siomedig gyda’r canlyniad, ond mae’n rhaid i ni gofio ein bod ni wedi dod yn bell iawn i gyrraedd Cwpan y Byd ac mae’n rhaid i ni fod yn falch o’n hunain o fod yma,” meddai Gareth Bale.

“Rydyn ni wedi rhoi 100% a rhoi popeth ar y cae. Byddan ni’n gadael yr ystafell newid gyda’n pennau ni’n uchel.

“Fydden ni wedi bod wrth ein boddau yn gwneud yn well – ond y realiti yw bod pêl-droed yn anodd ac mae angen edrych tuag at y dyfodol.

“Mae’r cefnogwyrwedi bod yn anhygoel – y rhai oedd wedi teithio mor bell, neu oedd yn gwylio adref. Rydyn ni’n eu gwerthfawrogi nhw’n fwy nag erioed.

“Gobeithio byddan nhw’n aros gyda ni ar gyfer dechrau’r Ewros ym mis Mawrth.”


Cymdeithas yr Iaith eisiau i bob plentyn adael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg

Mae ymgyrchwyr iaith yn galw ar y Prif Weinidog i wneud yn siŵr bod pob plentyn fydd yn cael addysg yng Nghymru yn y dyfodol yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud fod angen gwneud newidiadau nawr, fel bod pob ysgol yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050.

Mae’r Llywodraeth yn paratoi ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg ar hyn o bryd. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud ei fod yn gyfle i wneud yn siŵr y bydd holl bobol ifanc y dyfodol yn gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod angen un system lle dylai pawb o bob cefndir ddysgu drwy’r Gymraeg.

Robat Idris ydy cadeirydd cenedlaethol newydd Cymdeithas yr Iaith. Mae e wedi ysgrifennu llythyr at Mark Drakeford. Mae’n dweud bod llawer o ddiddordeb wedi bod yn y Gymraeg wrth i Gymru chwarae yng Nghwpan y Byd. Mae e eisiau manteisio ar hynny a gwneud yn siŵr bod y Gymraeg “ar dafod pob person ifanc drwy osod pob ysgol yn y wlad ar y daith tuag at addysg cyfrwng Cymraeg.”

Hefyd meddai, mae llawer o bobol Cymru yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael i lawr gan y system addysg achos doedden nhw ddim wedi gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gadael yr ysgol yn medru siarad Cymraeg yn hyderus.

Mae’n dweud bod hyn yn gyfle “unwaith mewn cenhedlaeth” i “sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl wrth i’r iaith ffynnu.”


Cyfrifiad 2021: llai yn meddwl am eu hunain fel ‘Cymry’

Cafodd ffigurau Cyfrifiad 2021 eu cyhoeddi’r wythnos hon.

Maen nhw’n dangos bod llai o bobol yn meddwl am eu hunain fel ‘Cymry’.

Mae’r ffigurau’n dangos bod 55.2% o bobol yn meddwl am eu hunain fel Cymry yn unig. Mae hyn i lawr o 57.5% yn 2011.

Dim ond 18.5% o bobol sy’n meddwl am eu hunain fel Prydeinwyr yn unig. Ond mae’r ffigwr i fyny ychydig o 16.9% 10 mlynedd yn ôl.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, trefn y bocsys i’w ticio sydd wedi dylanwadu ar y ffordd roedd pobl yn dewis eu cenedligrwydd – Cymro/Cymraes oedd ar y top.

Mae’r Cyfrifiad hefyd yn dangos bod llai na hanner poblogaeth Cymru a Lloegr gyda’i gilydd yn Gristnogion am y tro cyntaf erioed.

46.2% o bobol sy’n meddwl am eu hunain fel Cristnogion erbyn hyn. Mae hynny tua 27.5m o bobol – i lawr o 33.3m (59.2%) yn 2011.

Roedd 12% yn fwy o bobol yn dweud eu bod nhw ddim yn grefyddol. Roedd cynnydd o 1.2m yn nifer y Mwslimiaid.

Mae’r Cyfrifiad yn cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bob 10 mlynedd. Mae’n rhoi darlun o’r gymdeithas yn y Deyrnas Unedig.