Priordy Ewenni a’r ty

Y llynedd, cefais fy nghyfareddu gan y gyfres ddrama gyffrous Wolf ar y BBC oedd wedi’i lleoli yng Nghymru. Roedd y ddrama yn dilyn teulu oedd wedi cael eu cadw’n wystlon yn eu cartref eu hunain.

Yn y gyfres, roedd y teulu’n byw mewn maenordy yn Sir Fynwy.  Ond cafodd y gyfres ei ffilmio ym Mhriordy Ewenni ger Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae’n briordy Benedictaidd sy’n dyddio nôl i’r ddeuddegfed ganrif.

Ar fore tawel ar Ddydd Gwener y Groglith fe wnes i barcio fy nghar yn y maes parcio a cherdded drwy’r giât at y tŷ (sydd ddim ar agor i’r cyhoedd).  Roedd hi’n dawel iawn er gwaethaf yr haul. Mae gofalwr yn byw mewn fflat ger y tŷ. Doedd dim arwydd o fywyd nes i’r distawrwydd gael ei dorri gan sgrech aderyn. Wrth i mi gerdded o gwmpas yn tynnu lluniau (gyda chaniatâd caredig y perchennog) wnes i ddarganfod pam fod yr adar wedi cyffroi. Roedd y pysgotwyr yn crwydro’r tir!

Priordy Ewenni

Yr Eglwys

Wrth gerdded yn ôl drwy’r cwrt, es i at y Priordy o’r brif ffordd. Yn wahanol i’r tŷ a’r gerddi, doedd dim byd ysblennydd am yr eglwys – roedd yn teimlo’n gynnes ac yn groesawgar gyda’r haul yn llifo drwy’r ffenestri.

Mae wastad yn brofiad anhygoel i sefyll mewn adeilad sydd bron i fil o flynyddoedd oed.

Yn wreiddiol roedd caer Rufeinig ar y safle. Roedd y gwaith o adeiladu’r Priordy, sy’n dal i sefyll heddiw, wedi dechrau yn 1115 gan William de Londres, un o 12 Marchog Morgannwg.

Cafodd amddiffynfeydd eu codi i warchod y mynachod oedd yn byw yno rhag cyrchoedd o ogledd Cymru.  Roedd y Priordy hefyd yn gartref i warchodlu i amddiffyn Cestyll Ogwr, Newcastle a Coety. Honnir i’r Brenin Henry IV ddod i Ewenni yn 1405 i geisio cael Castell Coety yn ôl gan gefnogwyr Owain Glyndŵr, ond fe fethodd oherwydd tywydd gwael.  Efallai dylen ni werthfawrogi’r tywydd yng Nghymru ychydig yn fwy!

Priordy Ewenni – Transept y De

Diddymiad y Mynachlogydd

Yn 1536 diddymwyd y Priordy gan Henry VIII. Roedd hyn yn ystod cyfnod Diddymiad y Mynachlogydd. Cafodd trysorau’r adeiladau mawreddog hyn eu dwyn a phlwm ei gymryd o’r toeau. Cafodd y Priordy ei brynu gan Syr Edward Carne ar ôl hynny. Roedd ei ddisgynyddion wedi byw yno tan 1720 pan basiodd i deulu’r Turberville o Gastell Coety trwy briodas.

Ar ôl marwolaeth Richard Turberville ym 1771, roedd y Priordy a’r Tŷ wedi sefyll yn wag am 30 mlynedd.  Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd yr artist enwog JMW Turner wedi paentio llun o’r Eglwys yn ystod ei daith i Gymru. Roedd wedi ymweld ag Ewenni yn 1795 a gorffennodd y paentiad o Transept y De yn 1797.

Yn ystod 1803 a 1825, cafodd Priordy Ewenni ei adfer gan Richard Picton-Turbervill, ac roedd mwy o waith wedi cael ei wneud rhwng 1870 a 1895.  Er bod y Stad yn dal i fod yn eiddo preifat i’r teulu, mae cytundeb gyda Cadw i gynnal yr Eglwys.

Y cerrig Cristnogol Celtaidd
Priordy Ewenni a’r ty

Roeddwn i’n teimlo’n freintiedig i sefyll yn Transept y De, sydd yn y paentiad enwog gan JMW Turner.  Mae’r Transept yn cynnwys casgliad o gerrig Cristnogol Celtaidd, cerrig beddi sylfaenwyr y Priordy, a beddau a chofebion i deuluoedd Carne a Turberville.

Mae’r Eglwys a’r tir ar agor i’r cyhoedd unwaith bob chwe wythnos, yn ôl Warden yr Eglwys, ac mae’r gerddi yn aml yn cael eu llogi ar gyfer priodasau.

Mae rhagor o fanylion ar wefan Priordy Ewenni.