Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn yn ddiweddar, ac mae’n braf iawn i gael cyfle i ysgrifennu fy ngholofn unwaith eto.

Mae wedi bod yn haf hyfryd yng Nghymru – er gwaetha’r tywydd gaeafol gawson ni tan yn ddiweddar! Ond dydy’r tywydd ddim wedi ein stopio rhag mwynhau digwyddiadau arbennig sydd wedi bod yn mynd ymlaen ar draws y wlad.

Nol ym mis Mehefin, ro’n i’n hapus iawn i weld gŵyl gymunedol newydd, llawn cerddoriaeth, yn cyrraedd Yr Wyddgrug, y dref lle ges i fy magu. Roedd yr ŵyl – Gwyddgig – wedi’i threfnu gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam. A Gŵyl Rhuthun ‘chydig o wythnosau’n ar ôl hynny – eto’n llawn cerddoriaeth – felly dau ddathliad gwych yn y gogledd ddwyrain: am hyfryd!

Ond gadewais fy milltir sgwâr i ymweld â thref newydd i mi ym mis Gorffennaf ar gyfer achlysur newydd sydd bendant yn un o’m huchafbwyntiau hyd yn hyn eleni: cwrs preswyl i bobl ifanc yng Nghaerfyrddin. Yn gynharach eleni, ges i wahoddiad i fod yn un o dri thiwtor ar y cwrs arbennig yma, a doedd dim angen i mi feddwl ddwywaith cyn cytuno i ymuno.

Cyn y cwrs, do’n i ddim wedi cael profiad o ddysgu dosbarth Cymraeg wyneb yn wyneb felly ro’n i’n gyffrous iawn i gael cyfle i gyfarfod criw o siaradwyr newydd ac ymweld â Gŵyl Ganol Dre Caerfyrddin am y tro cynta’.

Fel grŵp, aethon ni i’r Ŵyl a mwynhau penwythnos llawn cerddoriaeth, chwerthin, a Chymraeg, wrth gwrs! Ac ar ben hynny, dw i’n teimlo mor ffodus fy mod i wedi cyfarfod criw o bobl hyfryd a gwneud ffrindiau newydd sydd hefyd yn uniaethu gyda’r holl hwyl a heriau sy’n dod efo dysgu iaith newydd.

Sesiwn Fawr Dolgellau

Nesaf, ymlaen i Ddolgellau ar gyfer Y Sesiwn Fawr, yn y glaw! Eto, roedd yn wych i gyfarfod pobl newydd – gan gynnwys siaradwyr newydd – a gweld artistiaid dw i heb weld o’r blaen, fel Mari Mathias a Mr. Hollol hyfryd!

Ac wrth gwrs, nesa ar y rhestr yw’r Steddfod ym Mhontypridd! A chyfle bach i ymweld ag ardal newydd arall a gweld llawer o fandiau, artistiaid a digwyddiadau gwych ar hyd y ffordd. Gobeithio bydd cyfle i weld llawer o ddarllenwyr Lingo yno hefyd. Dw i methu disgwyl!