Fel plentyn, ro’n i’n lwcus iawn i gael y cyfle i fynd i’r Eidal bob blwyddyn dros yr haf. Do’n i ddim yn gwerthfawrogi hynny ar y pryd. A rŵan, fel oedolyn, dw i’n edrych yn ôl ar holl hafau fy mhlentyndod fel rhai o’r atgofion mwyaf arbennig.