Mae Irram Irshad yn fferyllydd o Gaerdydd sy’n caru hanes. Mae hi’n dysgu Cymraeg. Y tro yma mae Irram wedi bod yn crwydro’r ‘Dref Lyfrau’ – sef Y Gelli Gandryll…
Mae Castell y Gelli yn nhref brydferth Y Gelli Gandryll ym Mhowys. Mae’n cael ei hadnabod fel y Dref Lyfrau gan fod cymaint o siopau llyfrau yno. Yma hefyd mae Gŵyl y Gelli Gandryll yn cael ei chynnal bob blwyddyn. Mae’r ŵyl lenyddol yn denu tua 80,000 o bobl i’r dref bob blwyddyn.
Cafodd Castell y Gelli ei adeiladu yn y 12fed ganrif. Mae wedi newid llawer dros y blynyddoedd. Cafodd y plasty Jacobeaidd sydd yno heddiw ei adeiladu tua 1640.
Cafodd llawer o nodweddion gwreiddiol y plasty eu dinistrio gan dân yn 1977. Erbyn dechrau’r 21ain ganrif, roedd y Castell yn ansefydlog ac yn anniogel.
“Brenin y Gelli”
Y perchennog ar y pryd oedd Richard Booth. Roedd e’n gymeriad mawr yn y dref.
Dros y blynyddoedd, roeddwn i wedi clywed llawer am “Frenin y Gelli” fel yr oedd yn galw ei hun. Ei siop lyfrau yw fy ffefryn yn y dref gyda’i ffasâd gwreiddiol a’i lloriau pren hyfryd – mae’n teimlo fel llyfrgell yn Rhydychen.
Roedd Richard Booth wedi prynu’r Castell yn 1961. Roedd e eisiau gwneud Y Gelli Gandryll yn Dref Lyfrau gynta’r byd. Llwyddodd i wneud hynny drwy sefydlu siopau llyfrau ail-law ac annog eraill i agor siopau llyfrau yn y dref.
Ar Ddiwrnod Ffŵl Ebrill yn 1977, penderfynodd Richard Booth wneud Y Gelli Gandryll yn deyrnas annibynnol – a gwneud ei hun yn frenin! Doedd hyn ddim yn jôc. Cafodd seremoni ei chynnal ac roedd ganddo goron. Roedd stori Richard Booth, sy’n wreiddiol o Plymouth, yn datgan annibyniaeth i dref yng Nghymru, wedi cael dipyn o sylw.
Yn 2004, cafodd Richard Booth MBE am ei wasanaethau i dwristiaeth. Yn 2005, gwerthodd ei siop lyfrau, gan ddweud ei fod yn symud i’r Almaen. Ond arhosodd ar ystâd Brynmelyn, wrth ymyl Y Gelli lle’r oedd yn berchen ar siop lyfrau o’r enw ‘Brenin y Gelli’.
Gwerthodd Richard Booth, Castell y Gelli yn 2011 am £2m i elusen Ymddiriedolaeth Castell y Gelli. Roedd hyn er mwyn cadw’r castell fel adeilad cyhoeddus. Roedd y Castell wedi agor i’r cyhoedd ar 26 Mai 2022 fel canolfan ar gyfer y celfyddydau, llenyddiaeth a dysgu. Dw i’n mynd i’r ŵyl bob blwyddyn ond doeddwn i ddim wedi bod i’r Castell tan yr haf y llynedd.
Bu farw Richard Booth yn 2019, ond mae’n gadael gwaddol yn y dref. Dw i’n credu ei fod yn haeddu ei deitl o Frenin y Gelli!