O le dach chi’n dod yn wreiddiol?

Ces i fy magu ym Mae Colwyn yng ngogledd Cymru. Pan o’n i’n blentyn, ro’n i’n byw wrth ymyl Sŵ Mynydd Bae Colwyn. Ro’n i’n gallu clywed yr anifeiliaid a’r adar gyda’r nos. Roedd y synau yma wedi bwydo fy nychymyg a llenwi fy mreuddwydion.