Roedd Rachael Garside yn arfer bod yn gyflwynydd gyda BBC Cymru ac S4C. Roedd ei phartner, Joseph Atkin yn brif arddwr yng Ngerddi Aberglasney ger Caerfyrddin. Nawr, maen nhw’n rhedeg tafarn Y Plough yn Felingwm. Maen nhw’n defnyddio cynnyrch lleol ac yn coginio dros dân agored. Rachael sy’n ateb cwestiynau lingo newydd…