Dyma stori fer gan Pegi Talfryn. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg. Mae’r stori mewn tair rhan. Dyma’r rhan olaf. Ond mae angen i chi sgwennu‘r diweddglo! Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Dych chi’n gallu sgwennu rhan olaf y stori? Dych chi’n gallu rhannu eich gwaith yn y sylwadau… 


Mi edryches i o gwmpas. Ro’n i ar y llawr tu allan. Roedd hi’n boeth. Ro’n i’n gorwedd ar balmant. Roedd y golau’n llachar iawn. Roedd llawer o sŵn.

Uwch fy mhen i roedd llawer o geir yn hedfan yn yr awyr. Ceir yn hedfan?

Do’n i ddim yn medru gweld neb. Dim ond ceir yn hedfan. Ac adeiladau mawr lliw arian. Ro’n i wedi teithio mewn amser eto ond y tro hwn ro’n i wedi symud i’r dyfodol!

Yn sydyn mi glywes i lais.

“Beth wyt ti’n ei wneud yma?”

Mi edryches i a gweld person mewn gwisg swyddogol. Roedd hi’n gwisgo gwisg undarn arian.

Roedd hi’n gwisgo helmed. Felly do’n i ddim yn medru gweld ei hwyneb hi. Roedd hi’n cario dryll. Ro’n i’n ofnus. Dyna lle ro’n i mewn dillad hen-ffasiwn mewn gwlad oedd yn edrych fel Star Wars!

“Dw i wedi ffeindio un arall,” meddai’r person swyddogol.

Mi ddaeth mwy o’r ‘heddlu’.

“Dydi hi ddim yn edrych yn beryglus,” meddai un arall.

“Mae hi’n perthyn i’r cwlt ‘Rebel Retro’ mae’n siŵr,” meddai un arall. “Maen nhw’n gwisgo dillad hen-ffasiwn.”

“Mi fydd hi’n mynd i’r un lle â phob un arall,” meddai’r un cynta’.

A dyna sut ro’n i wedi ffeindio fy hun mewn carchar yn y dyfodol. Doedd dim bariau, ond roedd waliau electronig. Roedd llawer o bobl yn y carchar. Ro’n i’n eu gweld nhw drws nesa i mi. Roedden nhw’n medru edrych arna i.

Mi wnaethon nhw ofyn i mi am fy hanes i ond mi wnes i ateb bob tro: “dw i ddim yn cofio,” achos roedd hi’n rhy anodd esbonio.

Ro’n i wedi bod yna am bron i flwyddyn. Roedd hi’n fywyd rhyfedd. Roedd rhaid i ni weithio bob dydd yn rhoi cardiau electronig mewn bocsys. Y diwrnod wedyn roedd rhaid i ni dynnu’r cardiau allan o’r bocsys. Ro’n i’n gweld isio Siarl a’r bywyd ym Mhlas y Berwyn.

Mi ddes i i adnabod y bobl eraill. Ond doedd gen i ddim gobaith. Un noson mi glywes i lais. Davix, y dyn oedd yn cysgu drws nesa i mi oedd yn siarad.

“Wyt ti isio dianc?”

Oes, wir.”

“Mae hi’n Nos Galan heno. Mi fydd llai o bobl yn gweithio heno. Mae criw ohonon ni isio dianc. Mi fydd Deron yn datgysylltu’r system. Mi fydd Fyna yn stopio’r swyddogion efo ei gafael barlysol. Ond dan ni angen rhywun bach i fynd drwy’r ffenest argyfwngac agor y drws.”

“Mi wna i helpu,” atebais i.

“Faint o’r gloch?”

“Mi fydd popeth yn dechrau am 11.30yh. Ar ôl i Deron ddatgysylltu’r system ac ar ôl i Fyna stopio’r swyddogion efo ei gafael barlysol mi fydda i’n mynd efo ti ac yn dy helpu di i fynd drwy’r ffenest.”

Ac yn wir i chi, dyna beth ddigwyddodd. Am 11.55yh mi es i drwy’r ffenest. Mi wnes i agor y drws. Mi ddaeth pawb arall allan. Mi ddaeth Davix ata i.

“Dan ni wedi ei wneud o!” meddai fo “efo dy help di.”

Mi gymerodd fi yn ei freichiau fo. Yn sydyn dyma sŵn mawr yn dechrau efo pawb tu allan yn dechrau cyfri i lawr.

Deg, naw, wyth, saith, chwech, pump, pedwar, tri, dau, un… BLWYDDYN NEWYDD DDA!

Mi ddechreuodd Davix blygu lawr i roi sws i mi. Ond wrth i wefusau Davix gyffwrdd â fy ngwefusau i, aeth popeth yn ddu.

Mi deimles i fel taswn i’n mynd i lawr twnel.

Roedd popeth yn oer. Mi stopiodd y symud.

Lle ro’n i?


Dach chi’n gallu sgwennu diweddglo i’r stori yma?