Dw i wrth fy modd yn dysgu mwy am brosiectau sy’n helpu bywyd gwyllt.

Dw i ddim yn wyliwr adar ond mae fy ngwraig Libby wedi dwli ar adarydda am fwy na degawd nawr. Dw i ddim yn gallu adnabod llawer o rywogaethau adar fy hun, ond weithiau dw i’n teimlo fel “gwyliwr adar trwy gysylltiad!”

Felly pan welais arwyddion i Ganolfan Bywyd Gwyllt Dyfi wrth yrru o amgylch Powys y llynedd, roedd rhaid i fi stopio i ddysgu mwy.

Gweilch ar y nyth

Tua phum milltir i’r de o Fachynlleth, mae Gwarchodfa Cors Dyfi yn gartref i Brosiect Gweilch Dyfi. Mae’r safle o dan reolaeth Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn.

Cafodd gwarchodfa’r prosiect ei sefydlu yn 2009, gyda’r nod o helpu adferiad  poblogaeth gweilch y pysgod yng Nghymru. Mae’n un o 18 gwarchodfa sy’n cael eu rhedeg gan Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, ac mae Canolfan Bywyd Gwyllt Dyfi yn lle arbennig.

Ar safle Cors Dyfi, mae ‘na ganolfan ymwelwyr, llwybrau pren sy’n arwain at adeilad arsylwi, ardaloedd nythu gweilch y pysgod, a mwy. Cyrhaeddais Gors Dyfi ar ddiwrnod glawog, ond ces i amser anhygoel wrth ddarganfod y warchodfa a’r adar ynddi.

Fideo byw o’r nythod

Yn y ganolfan ymwelwyr, mae ‘na lawer o bethau diddorol i’r holl deulu: sgriniau mawr gyda fideo byw o nythod y gweilch, golygfeydd dros y warchodfa, arddangosfeydd am hanes a chanlyniadau Prosiect Gweilch, ystafelloedd cyfarfod ar gyfer digwyddiadau arbennig, siop anrhegion, a chaffi hyfryd sy’n gweini cinio a chacennau.

Y tŵr gwylio

Ar ôl gadael y ganolfan ymwelwyr, des i o hyd i rwydwaith o lwybrau pren sy’n diflannu i mewn i’r gors. Ar ôl darllen am fywyd gwyllt y warchodfa trwy arwyddion ar hyd y llwybr pren, cyrhaeddais i dŵr gwylio gyda golygfeydd 360 gradd o gwmpas yr ardal. Ar dop y tŵr, wnes i ddarganfod ystafell arsylwi gyda thelesgopau i wylio adar yn nythu, yn bwydo, ac yn hedfan o amgylch y warchodfa.

Roedd staff y tŵr gwylio yn gyfeillgar iawn, ac yn awyddus i egluro am yr adar sy’n nythu yn y warchodfa, a’r rhywogaethau sydd wedi cael eu hadnabod hyd yn hyn.

Er mwyn helpu tîm y prosiect i ddeall poblogaethau gwahanol yr adar yn y warchodfa, mae ‘na fwrdd yn y ‘stafell arsylwi sy’n rhestru’r holl rywogaethau a gafodd eu gweld yn ystod y flwyddyn. Mae hwn hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer deall newidiadau yn y rhywogaethau sy’n bresennol ymhlith y gors dros y blynyddoedd. Diddorol iawn!

Y bwrdd yn dangos y gwahanol rywogaethau

Ar ôl treulio awr yn y tŵr arsylwi, wnes i grwydro yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr am ginio, coffi, a darn bach o gacen. Roedd yn brynhawn hyfryd, mewn lleoliad ymlaciol, gyda phobl angerddol sy’n gwneud gwaith pwysig i helpu bywyd gwyllt nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Prynhawn perffaith.

Mwynhau paned yn y caffi wedyn

https://www.montwt.co.uk/cy/nature-reserves/cors-dyfi

https://www.dyfiospreyproject.com/dyfi-wildlife-centre