Mae llawer o bobol yn gwneud adduned ar ddechrau blwyddyn newydd i ddysgu Cymraeg. Mae eraill yn gwneud adduned i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg o ddydd i ddydd – siarad Cymraeg yn gyntaf yn y siop efallai, neu ddarllen mwy o lyfrau Cymraeg.
Ydych chi’n un o’r bobol yma sydd eisiau defnyddio mwy o Gymraeg yn 2025?
Wel, mae llawer o adnoddau a chyrsiau ar gael i’ch helpu.
Un o’r adnoddau gorau (a rhataf!) ydy cylchgrawn Lingo Newydd.
Erbyn yr wythnos hon, mae dros 3,000 o siaradwyr newydd yn defnyddio Lingo Newydd i’w helpu i ddysgu Cymraeg!
Dau sy’n darllen y cylchgrawn ers dwy flynedd yw Wyn ac Audrey Morris o Twickenham ger Llundain ac maen nhw wrth eu bodd gyda’r cylchgrawn.
“Rwyf innau a fy ngwraig Audrey yn siaradwyr Cymraeg, ond mae darllen Lingo yn ein helpu i ehangu ein geirfa a chael pleser yn siarad Cymraeg.”
Mae’r cylchgrawn print yn cael ei gyhoeddi bob dau fis ac mae’r cyfan ar gael ar-lein i danysgrifwyr, ar Lingo+.
Mae’n unigryw. Dyma’r unig gylchgrawn i ddysgwyr sy’n cynnwys traciau sain o bob erthygl. Hefyd, mae yna restrau geirfa, ac mae’r erthyglau wedi’u lliwio i fod yn addas i chi (lliw melyn i ddechreuwyr, gwyrdd i lefel canolradd a glas i ddysgwyr profiadol).
Nid cylchgrawn am ddysgu Cymraeg ydy Lingo Newydd – mae’n gylchgrawn am Gymru a’n ffordd o fyw. Mae’n llawn erthyglau difyr am hanes, llyfrau, teithio, garddio, bwyd a’r rhaglenni Cymraeg diweddaraf ar y teledu.
Dim ond £18 y mae’n costio i brynu tanysgrifiad blwyddyn i Lingo Newydd. A’r wythnos hon yn unig mae 25% i ffwrdd – defnyddiwch y cod SIARADWRNEWYDD25 wrth brynu.
Bargen orau 2025 i siaradwyr newydd!
Felly beth amdani, a fydd Lingo Newydd yn eich helpu chi i lwyddo gyda’ch adduned eleni?